JONES, TREVOR ALEC (1924-1983), gwleidydd Llafur

Enw: Trevor Alec Jones
Dyddiad geni: 1924
Dyddiad marw: 1983
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yng nghwm Clydach ar 12 Awst 1924, yn fab i Alexander (Alec) Jones. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Porth, y Rhondda. Gweithiodd fel clerc i Gyngor Dinesig y Rhondda, 1940-42, a gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol, 1942-45. Bu wedyn yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, 1945-47, a gweithiodd yn athro ysgol yn Essex, 1947-49, ac yn ysgol uwchradd Blaenclydach, 1949-67.

Ymunodd Alec Jones â'r Blaid Lafur ym 1945, bu'n gadeirydd ar Blaid Lafur etholaethol Wood Green ac yn ysgrifennydd Plaid Lafur etholaethol Gorllewin y Rhondda, 1965-67, a changen y Rhondda o Gymdeithas Genedlaethol yr Athrawon Llafur. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Wood Green. Jones oedd asiant gwleidyddol Iori Thomas AS yn etholiad cyffredinol Mawrth 1966. Pan fu farw Thomas y flwyddyn ganlynol, dewiswyd Alec Jones i'w olynu a llwyddodd i ddal ei afael yn y sedd er gwaethaf sialens bwerus iawn gan Vic Davies (Plaid Cymru). Cynhaliwyd yr is-etholiad allweddol hon mewn hinsawdd o ddadrithiad â'r Blaid Lafur yn dilyn cau pyllau glo lleol. Fel canlyniad dim ond ychydig dros 2,000 o bleidleisiau oedd mwyafrif Jones. Ym 1974 etholwyd ef yn AS ar gyfer etholaeth unedig y Rhondda, sedd newydd, gydag un o'r mwyafrifoedd mwyaf sylweddol i'r Blaid Lafur ledled Prydain Fawr, ac felly y parhaodd hyd at ei farwolaeth. Creodd Jones un o'r seddau Llafur mwyaf diogel drwy'r wlad i gyd; enillodd fwyafrif o dros 38,000 o bleidleisiau yn etholiad cyffredinol Mehefin 1979. Gwasanaethodd yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Cyngor Llafur Cymreig ac o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Bu hefyd yn ysgrifennydd i'r Blaid Lafur Seneddol Gymreig. Bu'n ysgrifennydd preifat seneddol i John Morris, y gweinidog dros gyfarpar amddiffyn, 1968-70, yn is-ysgrifennydd dros iechyd a nawdd cymdeithasol, Hydref 1974-Mehefin 1975, ac yn is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, Mehefin 1975-Mai 1979. Tra oedd yn y Swyddfa Gymreig roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig dros dai, adennill tir, llywodraeth leol a datganoli. Ym 1979 penodwyd ef yn brif lefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1979. Noddodd Ddeddf Diwygio Ysgariad 1969. Fel y gellid tybio, roedd ganddo ddiddordeb mawr a pharhaol mewn materion fel tai a gwasanaethau cymdeithasol. Priododd Alec Jones ar 12 Awst 1950 Mildred Maureen, merch William T. Evans, a bu iddynt un mab. Eu cartref oedd 58 Stryd Kenry, Tonypandy, Rhondda. Ar ôl dioddef oddi wrth broblemau gyda'r galon am flynyddoedd, bu farw yn ei gartref ar 20 Mawrth 1983 ac amloswgyd ei weddillion yn amlosgfa Glyntaf. Bu ei wraig a'i fab fyw ar ei ôl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.