JONES, JAMES IDWAL (1900-1982), prifathro a gwleidydd Llafur

Enw: James Idwal Jones
Dyddiad geni: 1900
Dyddiad marw: 1982
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro a gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef ar 30 Mehefin 1900, yn fab i James Jones ac Elizabeth Bowyer. Roedd yn frawd i Thomas William Jones AS, Arglwydd Maelor (1898-1984). Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Ruabon a'r Coleg Normal, Bangor. Enillodd radd B.Sc.(Econ.) fel myfyriwr allanol Prifysgol Llundain ym 1936. Dechreuodd ar ei yrfa fel athro ysgol trwyddedig ym 1922 ac fel prifathro Ysgol Uwchradd Fodern Grange, Rhosllanerchrugog, o 1938 tan 1954. Daeth yn weinidog didâl gyda'r Bedyddwyr Albanaidd yng Nghymru ym 1924. Ymunodd Jones â'r Blaid Lafur Annibynnol fel gŵr ifanc. Safodd yn etholaeth Dinbych fel yr ymgeisydd Llafur yn etholiad cyffredinol 1951, ac yna cipiodd Wrecsam mewn is-etholiad a gynhaliwyd ym mis Mawrth 1955 yn dilyn marwolaeth Robert Richards AS. Parhaodd i gynrychioli Wrecsam yn y Senedd nes iddo ymddeol oddiyno ym Mehefin 1970. Jonesoedd cadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig, 1957-58, a'r Grŵp Llafur Cymreig, 1960-61. Ym 1965 gwasanaethodd hefyd fel aelod o Grŵp Tŷ'r Cyffredin oedd yn Adolygu Cyfraith a Threfn Etholiadol. Yn ystod ei yrfa seneddol chwaraeodd Idwal Jones ran ganolog yn sicrhau dyfodiad llawer o ddiwydiannau newydd i ardal Wrecsam i olynu eraill (yn fwyaf arbennig y diwydiant glo) a oedd yn crebachu'n arw erbyn hynny. Enillodd barch a chyfeillgarwch hyd yn oed ei wrthwynebwyr gwleidyddol.

Cyhoeddodd nifer o gyfrolau yn y Gymraeg a'r Saesneg ar hanes a daearyddiaeth Cymru. Ymhlith ei gyhoeddiadau niferus mae A Geography of Wales (1938), An Atlas of Denbighshire (1950), Atlas Hanesyddol Cymru (1952, argraffiad newydd, 1972), A Geographical Atlas of Wales (1955), A Historical Atlas of Wales (1955), A New Geography of Wales (1960) ac J. R. Jones (Ramoth) a'i Amserau (1967). Ei ddiddordebau oedd ffotograffiaeth a phaentio tirweddau. Mae ei bapurau yng ngofal Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun. Roedd Joneswedi priodi ym 1931 Catherine Humphreys, a bu iddynt dri o blant. Bu un ferch farw o flaen ei thad. Roeddent yn byw yn Stryd Ellis, Maelor, Ponciau, Wrecsam. Bu yntau farw, ar ôl salwch hir, ar 18 Hydref 1982 a chladdwyd ef ym mynwent y Rhos.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.