Ganwyd Hywel D. Lewis yn Llandudno ar 21 Mai 1910 ond magwyd ef yn y Waunfawr yn fab i David John Lewis, gweinidog yn yr Eglwys Bresbyteraidd, a'i wraig Rebecca (gynt Davies). Wedi gyrfa, heb ddangos unrhyw ddisgleirdeb arbennig, yn Ysgol Ramadeg Caernarfon, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, i astudio Athroniaeth gan gael ei gyfareddu'n llwyr gan y pwnc a fu'n ganolbwynt ei fywyd weddill ei oes. Wedi gradd Dosbarth Cyntaf yn 1932 ac ennill MA yn 1934 aeth ymlaen i Goleg Iesu, Rhydychen ac yno daeth dan ddylanwad H.A. Prichard a W. D. Ross. Cyn gorffen ei waith ymchwil (enillodd radd BLitt yn 1935) penodwyd ef yn ddarlithydd yn ei hen adran yn ei hen goleg ym Mangor. Bu'n ddarlithydd yn yr adran Athroniaeth o 1936 nes iddo gael ei ddyrchafu i'r gadair ym 1947. Ymddiddorodd mewn tri maes athronyddol, athroniaeth gwleidyddiaeth, moeseg ac athroniaeth crefydd. Ym 1955 symudodd i Goleg y Brenin Prifysgol Llundain yn athro Hanes ac Athroniaeth Crefydd lle'r arhosodd nes iddo ymddeol ym 1977.
Cyhoeddodd dros ugain o gyfrolau o bwys yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys Our Experience of God (1959), Freedom and History (1962), The Elusive Mind (1969), The Self and Immortality (1973), The Elusive Self (1982), Freedom and Alienation (1985), Gwybod am Dduw (1952), a Pwy yw Iesu Grist? (1979). Cyhoedddodd ddegau lawer o ysgrifau ac erthyglau mewn cylchgronau Cymraeg a Saesneg. Bu'n olygydd y Muirhead Library of Philosophy am bron 30 mlynedd a bu'n un o brif sefydlwyr y cylchrawn Religious Studies a olygodd o 1964 hyd at 1979. Prin y bu athronydd mwy egnïol a chynhyrchiol nag ef yng Nghymru.
Daeth anrhydeddau niferus i'w ran ar sawl cyfandir. Bu'n llywydd y Mind Association, The Aristotelian Society, y Royal Institute of Philosophy - y cymdeithasau athronyddol mwyaf nodedig. Traddododd nifer o'r darlithiau uchaf eu bri, yn eu plith y Gifford Lectures yng Nghaeredin (1966-68), y Wilde Lectures yn Rhydychen (1960-63), yr Hobhouse yn Llundain a'r Owen Evans yn Aberystwyth (1964-65). Bu'n ddarlithydd ac yn Athro gwadd mewn sawl prifysgol yn yr Unol Daleithiau a Chanada, India a Japan gan gynnwys Toronto, Boston, Philadelphia, Havard a Madras. Yn dilyn un o'i deithiau i'r India cyhoeddod Hen a Newydd (1971), sef argraffiadau am y wlad a'i chrefydd. Anrhydeddwyd ef â gradd D.D. o Brifysgol St. Andrews (1964) a D.Litt. gan Brifysgol Emory yn yr Unol Daleithiau (1977).
Er iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn Llundain cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymru drwy Urdd y Graddedigion (Prifysgol Cymru), Llys Prifysgol Cymru a Llys Coleg Bangor. Bu'n ysgrifennydd Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion am nifer helaeth o flynyddoedd ac yn llywydd droeon. Byddai'n bresennol bob blwyddyn yng nghynhadledd yr Adran gan ddarlithio'n aml. Cyfrannodd amryw byd o ysgrifau i Efrydiau Athronyddol, Y Traethodydd, Y Llenor a'r Efrydydd. Mynychai'r Eisteddfod Genedlaethol yn rheolaidd ac roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd gyda'r enw gorseddol Hywel Athronydd. Cyhoeddodd nifer o erthyglau yn ymwneud â gwahanol agweddau ar ein diwylliant gan gynnwys dwy gyfrol o farddoniaeth, sef Ebyrth a Cherddi Eraill (1943) ac yn annisgwyl iawn cyfrol o gerddi ysgafn Gofidiau Patsi (1988).
Yn athronyddol torrodd gwys unig ar hyd ei oes gan fod yn feirniad llym o athroniaeth iaith yn gyffredinol a phositifiaeth resymegol yn benodol. Mynnodd fod athroniaeth i ymdrin â themâu traddodiadol y pwnc, megis perthynas corff a meddwl, rhyddid ewyllys, yr hunan, bodolaeth Duw a rheswm a phrofiad. Glynodd wrth y safbwynt idealaidd a dadleuodd yn gadarn dros ddeuoliaeth corff a meddwl. Mewn moeseg dadleuodd yn ddiwyro dros wrthrychedd gwerthoedd moesol. Yn ddiwinyddol troediodd lwybr yr un mor anffasiynol drwy feirniadu Barthiaeth a mynnu lle canolog i'r deall mewn crefydd. Nid oedd dilyn llwybr amhoblogaidd yn mennu dim arno. Bron na ellir dweud ei fod yn ymhyfrydu mewn bod yn groes i'r mwyafrif ac yr oedd dadl frwd wrth ei fodd. Gallai fod yn ddiharebol o styfnig a byddai'n glynu at ei safbwynt yn gwbl ddigymrodedd. Yr oedd yn areithydd penigamp, a gallai wefreiddio cynulleidfa er mai personoliaeth a chorff egwan oedd ganddo.
Priododd Megan Jones 17 Awst 1943 ond bu hi farw ym 1962. Priododd eilwaith â Megan Pritchard 17 Gorffennaf 1965. Bu farw ar 6 Ebrill 1992 a chynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Bangor cyn gosod ei lwch ym medd y teulu ym Mhen y Gogarth yn Llandudno. Cynhaliwyd dau wasanaeth coffa iddo, y naill yng Nghapel Twrgwyn, Bangor, pan roddwyd teyrngedau gan y Parch. Brifathro Elfed ap Nefydd Roberts, Moses J. Jones a'r Dr. Meredydd Evans, a'r llall yng nghapel Coleg y Brenin, Llundain gyda theyrnged gan yr Athro Stewart R. Sutherland. Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo ym 1990, Religion, Reason and the Self dan olygyddiaeth Stewart Sutherland a T. A. Roberts.
Yr oedd ganddo un brawd, Alun Tudor Lewis, Llanrwst, llenor a gyhoeddodd chwe chyfrol o storïau byrion, sef Corlan Twsog (1948), Y Piser Trwm (1957), Blwyddyn o Garchar (1962), Y Dull Deg (1973), Cesig Eira (1979) a Dringo dan Ganu (1985).
Dyddiad cyhoeddi: 2009-08-26
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.