PADLEY, WALTER ERNEST (1916-1984), gwleidydd Llafur

Enw: Walter Ernest Padley
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 1984
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Chipping Norton ar 24 Gorffennaf 1916, yn fab i Ernest Padley, clerc mewn siop groser, a Mildred ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Chipping Norton a Choleg Ruskin, Rhydychen lle ddaliodd ysgoloriaeth gan Gyngres yr Undebau Llafur. Dechreuodd ar ei yrfa fel clerc gyda'r Gymdeithas Gyfanwerthol Gydweithredol (y CWS), ac ym 1933 ymunodd ag Undeb y Gweithwyr Dosbarthu Masnachol. Roedd wedi ymuno â'r Blaid Lafur Annibynnol ym 1932 a safodd fel ymgeisydd ar ran y Blaid honno mewn is-etholiad yn etholaeth Acton, swydd Middlesex yn Rhagfyr 1943. Gwasanaethodd hefyd fel aelod o bwyllgor gwaith y Blaid Lafur Annibynnol, 1941-46, ac ymunodd â'r Blaid Lafur yn yr un flwyddyn. Daeth yn ysgrifennydd Cydbwyllgor Addysg Cymdeithasau Cydweithredol Llundain, a bu hefyd yn llywydd Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a'u Cynghreiriaid, 1948-64. Credir mai Padley oedd y ieuengaf erioed i'w ethol i'r swydd hon, ac yntau heb fod ond yn 31 oed. Bu ar yn adeg yn gydweithiwr agos i James Maxton o fewn arweinyddiaeth y Blaid Lafur Annibynnol.

Walter Padley oedd AS Llafur etholaeth Ogwr, 1950-79 pan ymddeolodd o'r senedd. Ystyrid Ogwr yn un o gadarnleoedd selocaf y Blaid Lafur ledled y wlad, a chynyddodd Padley ei fwyafrif i fwy na 26,000 o bleidleisiau. Etholwyd ef yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur ym 1956, a gwasanaethodd fel ei gadeirydd ym 1966-67. Bu hefyd yn gadeirydd ei is-bwyllgor tramor, 1963-71. Parhaodd yn aelod o'r pwyllgor gwaith tan 1978. Gwasanaethodd yn weinidog gwladol yn y Swyddfa Dramor, Hydref 1964-Ionawr 1967, a bu'n gadeirydd ar y Blaid Lafur, 1965-66. Daeth yn adnabyddus yn San Steffan oherwydd ei syniadau di-flewyn-ar-dafod a gwnaeth nifer o gyfraniadau defnyddiol i ddadleuon yn y Tŷ Cyffredin ar fasnach a diwydiant. Cyn ei ethol i'r senedd, ysgrifennodd nifer o gyfrolau. Cyhoeddodd lyfrau gan gynnwys The Economic Problem of the Peace (1944), Am I my Brother's Keeper? (1945), Britain: Pawn or Power? (1947) a USSR: Empire or Free Union? (1949). Priododd ar 7 Tachwedd 1942 Sylvia Elsie Wilson, a bu iddynt un mab a merch. Eu cartref oedd 73 Priory Gardens, Highgate, Llundain. Bu farw ar 15 Ebrill 1984. Ei olynydd fel AS Llafur dros etholaeth Ogwr oedd Syr Ray Powell a wasanaethodd gynt yn asiant gwleidyddol Padley am ddeuddeg mlynedd. Roedd yn hysbys yn gyffredinol mai Powell oedd dewis Padley fel ei olynydd yn yr etholaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.