POWELL, RAYMOND (1928-2001), gwleidydd Llafur

Enw: Raymond Powell
Dyddiad geni: 1928
Dyddiad marw: 2001
Priod: Marion Grace Powell (née Evans)
Plentyn: Janice Gregory (née Powell)
Rhiant: Lucy Powell
Rhiant: Albert Ernest Powell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Nhreorci ar 19 Mehefin 1928, yn fab i Albert Ernest Powell, glöwr, a Lucy Powell. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Pentre, Cyngor Cenedlaethol y Colegau Llafur ac Ysgol Economeg Llundain (LSE). Gweithiodd yn daniwr ar y Rheilffyrdd Prydeinig, 1946-50, fel rheolwr siop, 1950-56, ac roedd yn gyfrifol am redeg ei siop gig ei hun o 1956 tan 1966. Roedd yn ysgrifennydd ac yn asiant gwleidyddol i Walter Padley AS, 1967-79, gan ymgymryd â'r gwaith heb dderbyn unrhyw gyflog o 1969 ymlaen. Roedd yn swyddog gweinyddol hŷn gydag Awdurdod Dŵr Cymru, 1969-79, a bu hefyd yn darlithio yng Nghyngor Cenedlaethol y Colegau Llafur.

Gwasanaethodd Powell yn aelod o bwyllgor gwaith y Blaid Lafur yng Nghymru, 1979-80 ac eto rhwng 1983 a 1990, gan weithredu fel ei gadeirydd ym 1977. Roedd hefyd yn aelod Llafur o Gyngor Bwrdeistref Ogwr, 1973-79. Roedd wedi ceisio sicrhau'r enwebiaeth Lafur ar gyfer etholaeth y Rhondda, Aberdâr, Mynwy a Chaerffili. Powell oedd yr AS dros etholaeth Ogwr o 1979 hyd at ei farw. Er ei bod yn hysbys drwy'r ardal mai Powell oedd dewis personol Padley fel ei olynydd yn yr etholaeth, bu'n rhaid iddo ymladd yn erbyn sawl sialens bwerus ar gyfer yr enwebiaeth Lafur ym 1979 gan unigolion fel Ron Davies ac Ann Clwyd. Enillodd Powell enw iddo'i hun yn fuan fel un a siaradai heb flewyn ar dafod o fewn Tŷ'r Cyffredin. Etholwyd ef yn gadeirydd ar Blaid Lafur etholaethol Ewrop De Cymru ym 1980, ac roedd yn aelod o USDAW am hanner canrif bron ar ei hyd. Daliodd nifer fawr o swyddi a safleoedd swyddogol yn San Steffan ac o fewn y Blaid Lafur. Roedd yn gadeirydd ar y Blaid Lafur yng Nghymru, 1977-78. Bu hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Gyflogaeth, 1979-82, ar Faterion Cymreig, 1982-85, ac o is-bwyllgor Gwasanaethau Tŷ'r Cyffredin, 1987-89. Etholwyd ef yn ysgrifennydd Grŵp yr Aelodau Seneddol Llafur Cymreig ym 1984. Gwasanaethodd hefyd fel chwip rhanbarthol Cymreig yr wrthblaid, 1983-95, a chwip paru'r wrthblaid, ac yna ymddeolodd i'r meinciau cefn. Fel chwip paru, gwrthododd yn bendant iawn â derbyn yr un geiniog mewn cyflog, ac adeiladodd iddo'i hun enw fel un na ddylid fyth ei groesi. Daeth yn aelod o Bwyllgor y Dewisiadau ym 1987 ac yn gadeirydd ar y Pwyllgor ar yr Adeilad Seneddol Newydd yn yr un flwyddyn, gan ddal i wasanaethu am ddeng mlynedd. Roedd felly mewn cysylltiad agos bob cam o'r daith gyda chreu adeilad Portcullis House. Roedd yn ffyrnig ei elyniaeth i siopa ar y Sul, a daeth yn flaenllaw yn y Senedd yn yr ymgais i wrthwynebu deddfwriaeth i'w ganiatáu. Chwaraeodd ran hefyd yn yr ymgyrch i sicrhau arolygaeth ddigonol ar gigoedd ac yn erbyn cigoedd anaddas i'w bwyta. Daeth o'i wirfodd i gefnogi rhychwant eang o achosion yn ymdrin â phensiynwyr, ac roedd yn deyrngar iawn ei gefnogaeth i ysbyty Penybont-ar-Ogwr. Roedd yn cefnogi datganoli adeg pleidlais 1979, ond roedd wedi newid ei farn erbyn 1997 pan wrthwynebodd yn ddigyfaddawd sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol dros Gymru. Pwysleisiodd, fodd bynnag, mai sail ei wrthwynebiad oedd y defnydd o gynrychiolaeth gyfrannol yn yr etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol, nid yr egwyddor o ddatganoli. Yn fuan ar ôl etholiad Tony Blair fel arweinydd y Blaid Lafur, fe gollodd Powell ei swydd fel chwip y blaid. Ym 1997 rhoddodd arweinyddiaeth y Blaid Lafur bwysau mawr ar Powell i ymddeol o'r senedd (efallai i iarllaeth gael ei chynnig iddo petai'n cydsynio) er mwyn i Alan Howarth, y cyn-weinidog Ceidwadol a oedd newydd ymuno â Llafur, gael ei sedd. Ond roedd y blaid leol yn yr etholaeth yn awyddus iawn i Powell sefyll yno eto, adlewyrchiad clir o'r parch a deimlid ato yn yr ardal. Gwrthod yn ystyfnig â derbyn cynnig y Blaid Lafur oedd ymateb Ray Powell. Ond bu'r datgeliadau yn gyfrifol am greu llawer iawn o embaras i Ron Davies fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru a'r Blaid Lafur yng Nghymru ar yr adeg hon. (Fel mae'n digwydd, cytunodd Roy Hughes , yr AS Llafur dros Ddwyrain Casnewydd, ac aeth ef i Dŷ'r Arglwyddi.) Adeg ei farw Ray Powell oedd yr hynaf o blith yr Aelodau Seneddol Llafur o Gymru ac roedd yn bendant yn perthyn i ‘Hen Lafur’ - ac yntau'n aelod o'r hen ysgol yn oes ‘Llafur Newydd’.

Ei ddiddordebau oedd garddio, chwaraeon a cherddoriaeth. Priododd ym 1949 Marion Grace Evans, a bu iddynt un mab ac un ferch. Eu merch Janice Gregory a etholwyd yn Aelod y Cynulliad dros etholaeth Ogwr. Eu cartref oedd 8 Gerddi Brynteg, Penbont-ar-Ogwr. Urddwyd Ray Powell yn farchog ym 1996, anrhydedd anghyffredin, ac efallai mai gwobr gysur ydoedd am iddo golli ei swydd fel chwip ei blaid. Bu farw yn Llundain ar 7 Rhagfyr 2001.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/