Ganwyd 17 Medi 1914 yn fab i William Phillips, gweithiwr tun yng Nglanaman, a'i wraig Maria Davies, o Lanaman. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Glanaman ac ysgol uwchradd Rhydaman. Yr oedd yn nai i William Anthony Davies ('Llygad Llwchwr') ac ar ei anogaeth ef y troes Cliff Phillips at newyddiaduraeth. Cychwynnodd ei yrfa fel newyddiadurwr yn Rhydaman lle bu'n ohebydd i'r Amman Valley Chronicle cyn symud yn ohebydd i swyddfa'r South Wales Press yn Llanelli yn 1932. Ymunodd â staff y South Wales Evening Post yn 1934 fel gohebydd ardaloedd Aberafan a chymoedd Nedd a Thawe, ac wedi cyfnod o bum mlynedd yn yr awyrlu dychwelodd i weithio i brif swyddfa'r papur yn Abertawe. Penodwyd ef yn brif ohebydd de Cymru i'r Press Association yn 1955 a daeth yn brif ohebydd dros Gymru gyfan yn ddiweddarach. Ymddeolodd o'i swydd yn 1976. Yr oedd yn un o brif garedigion yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n paratoi adroddiadau am weithrediadau'r wyl yn flynyddol o 1946. Enillodd gryn enwogrwydd iddo'i hun yn y 1950au gyda'i adroddiadau yn y wasg am ddwy lofruddiaeth yng ngorllewin Cymru pan ddedfrydwyd Ronald Harries o Langynin am lofruddio ei fodryb a'i ewythr, a phan garcharwyd Pwyliad o'r enw Onufrejczyk am oes ar gyhuddiad o lofruddio ei bartner Sykut ar eu fferm yng Nghwm-du ger Talyllychau. Yn 1966 paratôdd adroddiadau manwl i rai o brif newyddiaduron y byd adeg trychineb Aber-fan a'r ymchwiliad a'i dilynodd ac a barhaodd am bum mis. Anrydeddwyd ef â'r MBE flwyddyn yn ddiweddarach. Derbyniwyd ef i Urdd Ofydd Gorsedd y Beirdd yn eisteddfod Genedlaethol 1968 yn y Barri, ac fe'i dyrchafwyd i Urdd Derwydd er anrhydedd yn Aberteifi yn 1976. Yr oedd yn Gymro twymgalon ac yn gwmnïwr diddan a chanddo stôr o storïau difyr am ei yrfa fel gohebydd a newyddiadurwr. Croniclodd rai o'r profiadau hyn mewn erthyglau yn Barn ac mewn cyfrol yn dwyn y teitl Dilyn fy nhrwyn (Abertawe, 1980). Bu farw yn ei gartref yng Nghwmllynfell 9 Awst 1984, a bu'r angladd yn Amlosgfa Treforus. Priododd ddwywaith ac yr oedd ganddo ferch, mab a llysferch.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.