ROBERTS, JOHN (1910-1984), pregethwr, emynydd, bardd

Enw: John Roberts
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1984
Priod: Jessie Roberts (née Martin)
Plentyn: Gwen Roberts
Plentyn: Judith Roberts
Plentyn: Elisabeth Roberts
Rhiant: Elizabeth Roberts
Rhiant: William Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr, emynydd, bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Derec Llwyd Morgan

Ganwyd 2 Mehefin 1910, yn Llanfachraeth, Sir Fôn, unig fab William Roberts, gweithiwr amaethyddol, a'i wraig Elizabeth, a ymgartrefodd yn fuan wedi i'r mab gael ei eni yng Nglan-yr-afon yn Llanfwrog. Fel Annibynnwr y maged y tad, ac i'r Eglwys yr âi'r fam, ond am ryw reswm cêl troesant at y Trefnyddion Calfinaidd, a chyda'r Hen Gorff y maged John Roberts. Mynychodd Ysgol Ffrwd Win ar ôl troi'r saith mlwydd oed, ac yna dilynodd gwrs clercyddol yn yr hyn a elwid yn “Owens' College” yng Nghaergybi. Gweithiodd am gyfnod byr mewn swyddfa insiwrin yn Wrecsam, ond er yn gynnar ar fynd yn bregethwr yr oedd ei fryd, ac yn 1928 aeth yn fyfyriwr i ysgol baratoawl y Cyfundeb yn y Gogledd, Ysgol Clynnog, a symudodd y flwyddyn ganlynol i'r Rhyl. Y prifathro yno, R. Dewi Williams, a'i galwodd gyntaf, meddai ef, i 'grwydro broydd euraid' llenyddiaeth, a bu gweithiau'r beirdd Rhamantaidd Saesneg a'r telynegwyr Cymraeg yn gynhaliaeth gyfoethog iddo weddill ei ddyddiau. Rhwng 1931 a 1937 bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd yn y Gymraeg ac mewn Diwinyddiaeth. Treuliodd y flwyddyn ganlynol yn dilyn y cwrs bugeiliol yng Ngholeg y Bala. Cyn iddo orffen y cwrs hwnnw yr oedd eisoes yn bregethwr cyrddau pregethu ac eisoes wedi cael galwad i fod yn weinidog yn y Carneddi, Bethesda, Arfon. Ar 23 Awst 1938, ychydig cyn dechrau ar waith y weinidogaeth, priododd â Jessie Martin, Kingsland, Caergybi (ganwyd 1914), nyrs y cyfarfu â hi dair blynedd ynghynt. Yn y Carneddi y ganed eu merched hynaf, Elisabeth a Judith. Ganed Gwen, yr ifancaf, ym Mhorthmadog.

Yn y Gogledd y treuliodd ei weinidogaeth. Symudodd i'r Garth, Porthmadog, ddechrau 1945. Aeth oddi yno i Gapel Tegid y Bala yn 1957, ac oddi yno i Foriah, Caernarfon yn 1962, lle bu tan ei ymddeoliad yn 1975. Ysgrifennodd hanes trydydd hanner canrif Moriah, Muriau Cof (1977), a'i orffen, ys dywed yn y Rhagair, 'y noson cyn y tân a ddinistriodd y Capel' yng Ngorffennaf 1976. Os yn y Gogledd y bu'n gweinidogaethu, adwaenid ef fel pregethwr gwych ledled Cymru. Nodweddid ei waith yn y weinidogaeth gan baratoi gofalus ar gyfer cyfarfodydd plant fel ar gyfer cyfarfodydd y Sul a chyfarfodydd yr wythnos: yr oedd yn astudiwr cydwybodol ac yn gyfansoddwr destlus. Yn ogystal â'r cydwybodolrwydd a'r destlusrwydd hwn, yr oedd yn ei bregethu angerdd anghyffredin. Gan ei fod yn gymharol dal, yn gefnsyth ac yn lanwedd o olygus, yr oedd ganddo bresenoldeb arbennig yn y pulpud. Meddai hefyd ar lais soniarus, llais â thinc o 'hen ddawn Sir Fôn' ynddo, llais â rhyw gryndod ar yr -r, llais gwych i bregethwr am fod ei amrediad mor fawr. At hynny, meddai ddoniau rhethregol y bardd a'r cyfarwydd - coethder ymadrodd, y ddawn i greu ffigyrau ymadrodd cofiadwy, y ddawn i adrodd stori, a'r math o gof a gadwai'n fyw ymadroddion cewri'r pulpudau gynt. I ŵr a brisiai bregethu fel y gwaith pwysicaf y gallai neb ymgymryd ag ef, yr oedd y dirywiad crefyddol a welwyd yng Nghymru yn ystod chwarter canrif olaf ei oes yn boendod enbyd iddo, fel yr oedd i'w frodyr yn y weinidogaeth. Ond, o'r 1970au ymlaen, poen deuluol oblegid un o'i ferched a'i clwyfodd fwyaf: er, gellir honni bod honno wedi dwysáu ei ddoniau pregethu. Y mae pumcant a rhagor o'i bregethau (ar ffurf nodiadau) ar gardiau'n daclus, mewn bocsus-cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Traddododd lawer o ddarlithoedd cyhoeddus, sydd hwythau yng nghadw, gan gynnwys Darlith Cofeb John Williams Brynsiencyn ar “Bregethu” a'r Ddarlith Davies (ar “Ddefosiwn Distawrwydd”: ceisio deall yr oedd apêl Crynwriaeth i un o'i feibion-yng-nghyfraith), er ei fod yn honni na allai ddarlithio, am fod pob darlith ganddo'n troi'n bregeth. Ni ddaliodd swyddi cyfundebol, yn rhannol am nas mynnai.

Daeth i amlygrwydd cymharol fel bardd yn gyntaf drwy ennill Cadair Eisteddfod Dyffryn Ogwen am gyfres o delynegion o dan feirniadaeth R. Williams Parry, cyfres a gyhoeddwyd, ynghyd â cherddi coffa a luniodd i Fardd yr Haf a cherddi eraill, yn yr unig gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd yn ystod ei fywyd, sef Cloch y Bwi (Gwasg Gee, [1958]). Gweithiau syml, crefftus, yw'r cerddi eraill hyn, am brofiadau a phethau bob dydd, gweithiau na ddywedai neb amdanynt eu bod yn galonrwygol nac yn enbyd o wreiddiol. Y mae yn eu plith hefyd benillion telyn tra swynol, rhai englynion, tair soned ac un emyn. Yr emyn hwnnw ('Pan fwyf yn teimlo'n unig lawer awr') yw'r rhagredegydd i nifer bychan ond pwysig o emynau sy'n gosod John Roberts ymhlith emynwyr mwyaf arwyddocaol ail hanner yr ugeinfed ganrif (nid bod llawer ohonynt). Fel nifer o weinidogion a ymborthodd ar emynwyr mawr y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dyfynnai ef linellau lawer ohonynt yn rheolaidd yn ei bregethau ac yn ei weddïau cyhoeddus. Fe'u hastudiodd hefyd. Yn Eisteddfod Genedlaethol 1950 enillodd ar Gasgliad o Emynau Cyfaddas ar gyfer Plant mewn Ysgolion Uwchradd. Ymhen rhai blynyddoedd eto gallasai fod wedi llunio cyfrol o'i ddarlithoedd ef ei hun ar yr emynwyr clasurol. Er nad uchel brisiai gynnyrch emynwyr cyfoes, yn y man, ar gorn ei astudiaethau, a chan ddefnyddio'r awen delynegol a'r dychymyg gwresog a feddai, dechreuodd gyfansoddi rhagor o emynau ei hun, emynau myfyrdodus ac ynddynt anogaeth, erfyniad a mawl. 'Rhaid fod mewn emyn ddiwinyddiaeth,' meddai, 'diwinyddiaeth wedi bod drwy ffwrnais profiad.' Y cydymdeimlad profiadol ffyddiog a geir ynddynt a wnaeth ei emynau'n ffefrynnau mor ddefnyddiol gan gynulleidfaoedd brau'r cyfnod diweddar. Ei emyn enwocaf oll, nid hwyrach, yw “Gweddi Heddiw” ('O, tyred i'n gwaredu, Iesu da'), y gwobrwywyd Haydn Phillips yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ynys Môn, 1983, am gyfansoddi'r emyn-dôn “Bro Aber” ar ei gyfer. Cyhoeddwyd detholiad helaeth o'i gerddi a'i emynau yn Glas y nef (Gwasg Gee, 1987).

Dywedai ef o hyd mai am ei bregethu y dymunai gael ei gofio, ond yn herwydd parhad y gair printiedig y mae'n lled debyg mai ei emynau a geidw ei enw'n fyw. Bu farw yn Ysbyty Stanley, Caergybi, 22 Tachwedd 1984, a chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys yn Llanfwrog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-06-19

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.