Ganwyd Eurys Rowlands (Eurys Rolant) yng Nghaernarfon, Gwynedd, yn 1926, yn un o bum plentyn R.J. Rowlands ('Meuryn') a'i wraig Margaret. Wedi derbyn ei addysg gynnar yn ysgol gynradd Pen'r-allt ac yna yn Ysgol y Sir, Caernarfon, cafodd dymor yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn ystod y flwyddyn academaidd 1944-5 cyn cael ei wysio i'r Llu Awyr lle y bu'n gwneud gwaith clerc am dair blynedd. Yn 1948 dychwelodd i Fangor gan raddio'n B.A. gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg yn 1950 ac yn M.A. am draethawd ymchwil ar 'Fywyd a Gwaith Lewys Môn' yn 1955 dan gyfarwyddyd Thomas Parry. Penodwyd ef yn athro'r Gymraeg yn ysgol gyfun Caergybi yn 1953 ac yn niwedd 1956 fe'i hapwyntiwyd yn Ddarlithydd yn Adran Gelteg Prifysgol Glasgow. Ddechrau 1958 cafodd ei benodi'n Ddarlithydd yn y Gymraeg a Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Deheudir Cymru a Mynwy yn Nghaerdydd lle'r arhosodd am 11 mlynedd. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd daeth yn amlwg ei fod yn dioddef gan afiechyd meddwl difrifol a chynyddol a'i gorfododd i ymadael â'i swydd. Cafodd Gymrodoriaeth Syr John Williams gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn ystod y flwyddyn academaidd 1972-3 i barhau â'i ymchwil a dechrau 1974 derbyniodd wahoddiad i ymgymryd â swydd Darlithydd yn Adran y Gymraeg Coleg y Brifysgol Dulyn. Bu yno hyd haf 1978 ond wrth i'w afiechyd afael ynddo eilwaith a'i rwystro rhag cyflawni gofynion ei swydd gorfu iddo roi'r gorau iddi. Bu'n byw am gyfnodau ar ôl hynny yng Nghaerdydd, Caer a Lerpwl.
Yr oedd Eurys Rowlands yn un o ysgolheigion Cymraeg galluocaf ei genhedlaeth. Er bod ei ddiddordebau'n cwmpasu llawer maes, yng ngwaith beirdd yr uchelwyr yr ymddiddorai'n bennaf gan ganolbwyntio'n arbennig ar Oes Aur beirdd y cywydd rhwng c.1330 a c.1530. Yr oedd yn feistr ar bob agwedd ar waith y beirdd hyn: eu cefndir hanesyddol a gwleidyddol, eu perthynas â'u noddwyr, eu perthynas â'i gilydd, y llawysgrifau y cedwid eu gwaith ynddynt ac yn arbennig eu crefft a'u celfyddyd. Golygodd Gwaith Lewis Môn (Caerdydd, 1975) a Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel (Caerdydd, 1984) a chwblhau golygiadau o Gwaith Iorwerth Fynglwyd (Caerdydd, 1975) ac o Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd, 1976) yn ogystal â llunio detholiad defnyddiol o waith y cywyddwyr, Poems of the cywyddwyr, c 1375-1525 (Dulyn, 1976). Cyhoeddodd liaws o erthyglau a nodiadau arloesol a blaengar yn y maes yn ogystal â golygu argraffiad newydd o Awdlau Cadeiriol Detholedig y Ganrif Hon, 1900-25 (1959) a Llywarch Hen a'i Feibion (Aberystwyth, 1984). Yr oedd hefyd yn ieithegydd galluog ac yn gyfarwydd â damcaniaethau diweddar ym maes ieithyddiaeth fel y dengys ei erthyglau yn y maes hwn. Ychydig o farddoniaeth a gyhoeddodd, ond y mae'n ddigon i ddangos ei fod yn fardd da iawn.
Priododd Nina Bevan a bu iddynt fab a merch. Bu farw Eurys Rowlands mewn ysbyty yn Lerpwl 18 Ebrill 2006 a bu gwasanaeth claddu yn amlosgfa Bangor 25 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 2009-06-18
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.