ROWLANDS, ROBERT JOHN ('Meuryn'; 1880 - 1967), newyddiadurwr, llenor, bardd, darlithydd, pregethwr

Enw: Robert John Rowlands
Ffugenw: Meuryn'
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1967
Priod: Margaret Rowlands
Plentyn: Eurys Ionor Rowlands
Rhiant: Mary Rowlands
Rhiant: William Rowlands
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr, llenor, bardd, darlithydd, pregethwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: John Roberts Williams

Ganwyd yn Ty'n Derw, tyddyn yn Aber ger Bangor, Sir Gaernarfon, 22 Mai 1880, yn fab i William a Mary Rowlands. Cyfarfu â damwain pan oedd yn blentyn tair oed; datgymalodd ei glun ac am na chafodd driniaeth lwyddiannus bu'n gloff dros weddill ei oes. Collodd ei dad pan oedd yn chwech oed. Fe'i haddysgwyd yn ysgol genedlaethol Aber ar gyfnod pan oedd y ' Welsh Not ' mewn grym. Wedi tro byr yn gweithio mewn siop yn Llanfairfechan aeth i Lerpwl i swyddfa argraffu a chyhoeddi Isaac Foulkes, ond bu'n gweithio am sbel yn gwerthu polisïau yswiriant ym Mhorthmadog - yr oedd yn gyfaill mawr i Eifion Wyn. Yn Lerpwl daeth yn ohebydd i'r Darian ac i'r Herald Cymraeg a daeth i ofalu am argraffiad Lerpwl o'r Herald. Bu'n amlwg ym mywyd Cymreig Lerpwl ac yr oedd yn un o sefydlwyr Undeb y Ddraig Goch ac yn hyrwyddwr i eisteddfod lewyrchus yr Undeb. Yn 1921 enillodd ei awdl ' Min y Môr ” y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ac ym mis Tachwedd 1921 daeth i Gaernarfon yn olygydd Yr Herald Cymraeg a Papur Pawb. Yn Ebrill 1937 unwyd cwmni'r Herald a chwmni'r Genedl Gymreig a fodolai'r drws nesaf i'w gilydd. Daeth yr Herald a'r Genedl yn un papur ac unwyd hefyd Papur Pawb a'r Werin a'r Eco gyda Meuryn yn olygydd ar y cyfan hyd ei ymddeoliad fis Mawrth 1954. Yr oedd hefyd wedi olynu ' Eifionydd ' (John Thomas) yn olygydd Y Geninen yn 1923 gan barhau hyd nes y peidiwyd â chyhoeddi'r cyfnodolyn yn 1928. Pan atgyfodwyd Y Geninen yn 1950 bu Meuryn yn ei gyd-olygu, gyda S.B. Jones, hyd ei farwolaeth 2 Tachwedd 1967. Fe'i claddwyd ym mynwent Caernarfon. Gwr gweddw ydoedd erbyn hynny: gadawodd 2 fab a 3 merch. Yr oedd yn wr eang ei ddiddordebau - yn naturiaethwr a ymddiddorai hefyd mewn llysieuaeth feddygol, yn dynnwr lluniau, yn chwaraewr gwyddbwyll - a billiards - pan oedd yn ifanc. Pregethai yn eglwysi ei enwad (EF) ar y Suliau a darlithiai i ddosbarthiadau y W.E.A. ar nosweithiau'r wythnos. Cyhoeddodd nifer o lyfrau yn amrywio yn eu cynnwys o farddoniaeth i storïau antur, i ddrama (gweler rhestr o'i weithiau, gan David Jenkins, yn Y Genhinen, Gaeaf 1967-8, sy'n rhifyn coffa i Meuryn). Fel newyddiadurwr a pherson yr oedd ganddo ei farn bendant iawn bob amser, a diddordeb mawr iawn mewn ysgrifennu Cymraeg cywir a graenus, a byddai'n dyrnu'r rheolau i benglogau'r gohebwyr. Bellach daeth ei enw barddol ef ei hun yn enw newydd yn yr iaith 'meuryn', sef y tafolwr mewn gornestau cynganeddu. Am flynyddoedd bu Meuryn yn cynnal dosbarthiadau nos ar y cynganeddion, a phan ddaeth Dr. Sam Jones a'i Ymryson y Beirdd ar y radio o Fangor, Meuryn oedd un o'r beirniaid yn y dechrau a'r unig feirniad yn y diwedd. Wedi ymddeol o swyddfa'r Herald bu'n helpu'r beirdd ifainc yn ' Cerdd Dafod ', ei golofn farddol yn Y Cymro.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.