Ganwyd ef ar 23 Gorffennaf 1902, yn fab i David Soskice, newyddiadurwr alltudiedig y chwyldro yn Rwsia a ymfudodd i Loegr yn y 1890au. Roedd ei dad yn un o'r Mensheficiaid cynnar a ruthrodd yn ôl i Rwsia ym 1917 er mwyn ymuno â'r chwyldro, ond pan enillodd y Bolsheficiaid y dydd, bu'n rhaid iddo ddianc yn ôl i Brydain. Roedd ei fam Juliet yn wyres yr arlunydd Ford Maddox Brown, ac roedd hefyd yn nith i Dante Gabriel Rossetti ac yn chwaer i Ford Maddox Ford. Addysgwyd ef yn Ysgol Sant Paul a Choleg Balliol, Rhydychen, lle y graddiodd yn y clasuron a bu hefyd yn astudio Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg (PPE). Bu hefyd yn astudio'r gyfraith a galwyd ef i'r bar o'r Deml Fewnol ym 1926. Yn ei yrfa fel bargyfreithiwr daeth yn adnabyddus fel awdurdod uchel ei barch ar y gyfraith ar hurbrynu. Gwasanaethodd yn Affrica a'r Dwyrain Canol gyda chatrawd Troedfilwyr Ysgafn Swyddi Rhydychen a Buckingham drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Soskice oedd AS Llafur Dwyrain Penbedw, 1945-50, sedd a ystyrid yn ddiogel i'r Rhyddfrydwyr cyn hynny, ond diddymwyd yr etholaeth cyn etholiad cyffredinol Chwefror 1950. Yna cynrychiolodd etholaeth Neepsend, Sheffield, o Ebrill 1950 (ar ôl i'r AS yno, Harry Morris, sefyll i lawr er mwyn creu bwlch ar gyfer Soskice) tan 1955, pan ddiddymwyd etholaeth Neepsend eto mewn ailddosbarthiad pellach o'r etholaethau seneddol. Bu Soskice wedyn yn cynrychioli Casnewydd, sir Fynwy o 1956 (is-etholiad a gynhaliwyd ar farwolaeth Peter Freeman) nes iddo ymddeol o'r senedd ym 1966. Ar ei ymddeoliad o Dŷ'r Cyffredin daeth yn Arglwydd Stow-Hill (iarllaeth am oes). Roedd hefyd wedi sefyll yn aflwyddiannus yn etholaeth Bebington yn etholiad cyffredinol Chwefror 1950 a method sicrhau'r enwebiaeth Lafur ar gyfer etholaeth Gorton, Manceinion yn etholiad cyffredinol 1955. Urddwyd ef yn farchog a daeth yn Gwnsler y Brenin ym 1945, a daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1947.
Roedd Soskice yn Gyfreithiwr-Cyffredinol yn ystod llywodraethau Attlee ar ôl y rhyfel, Awst 1945-Ebrill 1951, ac yn Atwrnai Cyffredinol, Ebrill-Hydref 1951. Fel Cyfreithiwr-Cyffredinol, edrychid ar Soskice fel dadleuwr pwysig ar ran y llywodraeth o fewn Tŷ'r Cyffredin, a phrofodd ei arbenigedd cyfreithiol yn hynod werthfawr. Gwyddai'n dda sut i yrru deddfwriaeth anodd drwy eisteddiadau stormus a barai drwy'r nos yn y Tŷ Cyffredin. Bu hefyd am gyfnod byr yn gynrychiolydd y Deyrnas Unedig i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym 1950. Ymunodd â chabinet yr wrthblaid ym 1952. Roedd yn aelod o Bwyllgor Seneddol y Blaid Lafur Seneddol, 1952-55 a 1956-64, ac yn llefarydd yr wrthblaid ar Faterion Cyfreithiol, 1957-64. Roedd ei ragolygon wedi gwella'n arw ym 1955 gydag etholiad ei gyfaill agos Hugh Gaitskell i arweinyddiaeth y Blaid Lafur i ddilyn Attlee, er i Soskice barhau gyda'i waith cyfreithiol yn ogystal. Bu Frank Soskice yn deyrngar i Gaitskell dros Gymal IV a materion amddiffyn. Roedd cymaint o barch iddo ymhlith y wrthblaid Geidwadol fel iddynt awgrymu ym 1959 y gallai Soskice (ac ef yn unig allan o'r Aelodau Seneddol Llafur) gael swydd y Llefarydd pe dymunai hynny. Ond gwrthod yr awgrym oedd ei hanes. Pan fu farw Gaitskell ym 1963, roedd rhai o fewn y Blaid Lafur yn barod i gyflwyno enw Soskice fel ymgeisydd cyfaddawdol ar gyfer arweinyddiaeth y blaid. Ond gan fod Soskice yn gefnogydd cryf i George Brown, gwrthododd y cynnig.
Gwasanaethodd yn Ysgrifennydd Cartref dan Harold Wilson, Hydref 1964-Rhagfyr 1965, ac (wedi ei ryddhau o'i gyfrifoldebau o fewn y Swyddfa Gartref) yn Arglwydd y Sêl Gyfrin, Rhagfyr 1965-Ebrill 1966. Yn ystod ei dymor yn Ysgrifennydd Cartref, ni wnaeth Soskice argraff ffafriol iawn ar Harold Wilson - roedd ei iechyd yn dirywio, a gwnaeth gawl o'r ymateb i anghydweld yn swydd Northampton dros newid ffiniau'r etholaethau seneddol, ac o dderbyn diwygiadau a fyddai'n gwanhau Deddf Cysylltiadau Hiliol 1965. Ef, fodd bynnag, oedd yn gyfrifol am y ddeddfwriaeth a ddiddymodd o'r diwedd ddienyddio o fewn y Deyrnas Unedig (ar wahân i achosion o fradwriaeth). Yn aml cysylltir y cam hwn yn anghywir gyda diwygiadau Roy Jenkins a ddilynodd. Penodwyd ef yn drysorydd y Deml Fewnol ym 1968. Priododd ym 1940 Susan Isabella, merch William Cloudsley Hunter, a bu iddynt ddau fab. Roedd yn cynnal ei fusnes gyfreithiol o Harcourt Buildings, Temple, Llundain. Bu farw ar 1 Ionawr 1979 a gadawodd ystâd gwerth £131,700.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.