THOMAS, JEFFREY (1933-1989), bargyfreithiwr a gwleidydd Llafur/y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol

Enw: Jeffrey Thomas
Dyddiad geni: 1933
Dyddiad marw: 1989
Priod: Valerie Thomas (née Ellerington)
Priod: Margaret Thomas (née Jenkins)
Rhiant: Phyllis Thomas (née Hile)
Rhiant: John James Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr a gwleidydd Llafur/y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Abertyleri ar 12 Tachwedd 1933, yn fab i John James (Jack) Thomas, prifathro lleol a Phyllis Thomas (gynt Hile). Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Abertyleri a Choleg y Brenin, Llundain. Gwasanaethodd fel Llywydd Undeb Prifysgol Llundain, 1955-56. Galwyd ef i'r bar o Gray's Inn ym 1957. Gwasanaethodd yn y fyddin, 1959-61, ar wasanaeth cenedlaethol, a rhoddwyd ef yn bennaeth ar y Lluoedd Trafnidiaeth Brenhinol ym 1959 (Uwch Is-swyddog), a phenodwyd ef yn is-gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfraith y Fyddin, BAOR, ym 1961. Dringodd i swydd Uwchgapten. Daeth yn gyfreithiwr mewn cwmni prysur ar gylchdaith Cymru a Chaer, ac yn ddiweddarach yn Llundain. Daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1974 ac yn Gofiadur Llys y Goron ym 1975, gan wasanaethu am ddeuddeg mlynedd. Roedd bob amser yn hynod o deg wrth ddelio â throseddwyr. Drwy gydol ei fywyd roedd yn hoff iawn o'r bar.

Ymunodd Jeffrey Thomas â'r Blaid Lafur ym 1953, aeth drosodd i'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol ym 1981, ond nid oedd yn teimlo'n gwbl gartrefol o fewn ei rhengoedd ac felly ailymunodd â'r Blaid Lafur ym 1986. Safodd yn ymgeisydd Llafur ar gyfer Cyngor Dinesig Barnett a Chyngor Sir Hertford rhwng 1964 a 1967. Bu ar y rhestr fer ar gyfer yr enwebiaeth Lafur yn is-etholiad Abertyleri 1965 a safodd yn y Barri yn etholiad cyffredinol 1966, pan ddaeth o fewn 1394 pleidlais i orchfygu'r AS Ceidwadol Syr Raymond Gower. Gwasanaethodd yn AS Llafur dros Abertyleri, ei dref enedigol, 1970-83 (fel AS y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol ar ôl 1981). Ei fwyafrif yn etholiad cyffredinol Mehefin 1970 oedd bron i 20,000 o bleidleisiau. Safodd fel ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol/y Cynghrair yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiad cyffredinol 1983, ond braidd yn llugoer oedd ei agwedd drwy'r ymgyrch. Roedd yn aelod blaenllaw o gyngor Justice a Chymdeithas y Ffabiaid. Roedd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Ymddygiad Aelodau, 1976-77, yn ysgrifennydd preifat seneddol, 1976-79, i John Morris, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, is-gadeirydd cangen y Deyrnas Unedig o'r Undeb Rhyng-seneddol, 1979-82, a chadeirydd y Grŵp Seneddol Cymreig, 1980-81. Ym 1979 penodwyd ef yn llefarydd yr wrthblaid ar Faterion Cyfreithiol ac ym 1981-83, gwasanaethodd yn llefarydd Y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol ar Faterion Cyfreithiol. Yn gynnar yn ei yrfa wleidyddol, roedd argoelion y byddai'n esgyn i swyddi bras yn y llywodraeth, ond nid felly y bu. Ailddosbarthwyd ei etholaeth ac fe'i collwyd yn llwyr yn ailddosbarthiad 1983. Fel canlyniad roedd yn ddigartref yn wleidyddol. Gwasanaethodd hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Brydeinig y Caribïdiad. Daeth yn aelod o Lys Llywodraethwyr Prifysgol Llundain ym 1981. Ei ddiddordebau oedd gwylio rygbi a theithio. Mae ei bapurau gwleidyddol yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru - mewn dau grŵp a gyflwynwyd gan ei ddwy wraig. Ei gartref oedd 60 Lamont Road, Llundain, ac roedd yn cynnal ei fusnes cyfreithiol o 3 Temple Gardens, Temple, Llundain. Priododd (1) yn Ebrill 1960 Margaret Jenkins B.Sc., a diddymwyd y briodas ym 1982, a (2) Valerie Ellerington ym 1987. Ni fu plant o'r naill briodas na'r llall. Roedd Thomas yn byw gyda'i ail wraig yn Whitebrook, ger Mynwy yng nghwm hyfryd Gwy. Bu farw o gancr ar 17 Mai 1989.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.