Ganwyd yn Erddig, Dinbych, 23 Mawrth 1905, ail fab Philip Yorke II a'i ail wraig Louisa Matilda (née Scott), merch caplan Eglwys Loegr ym Malaga, Sbaen, a disgynnydd olaf Philip Yorke, 1743-1803/4. Cafodd blentyndod hapus yng nghwmni ei frawd Simon ymysg dodrefn cain a thrysorau eraill a gasglwyd gan y teulu o'r 18g. ymlaen. Aeth i ysgol baratoawl Moorland House, Heswall, ac oddi yno i Ysgol Amwythig yn 1918. Nid oedd yn arbennig o academaidd ond rhwyfodd dros ei ysgol a dysgodd chwarae'r trombôn, y corn tenor, y ffidil un-llinyn a'r llif gerddorol. Wedi cyfnod byr yn Hwlffordd aeth i goleg Corpus Christi, Caer-grawnt, lle y rhwyfodd dros ei goleg a graddio yn BA yn 1927. Aeth i Ridley Hall gyda'r bwriad o gael ei ordeinio ond gadawodd cyn cwblhau'r cwrs.
O ddyddiau ei blentyntod yr oedd Philip, fel ei deulu, un hoff o ddramâu llwyfan. Yn 1930 ymunodd â'r Northampton Repertory Theatre fel actor proffesiynol a symud yn 1932 at y Folkstone Repertory Theatre. Yn ddiweddarach ffurfiodd y London and County Players a phrynodd hen fws i'w cludo o gwmpas neuaddau de-ddwyrain Lloegr. Bu'n chwarae hefyd yn Cork a Waterford. Enwodd Gwen Nelson a James Hayter, ei gyfeillion o'r dyddiau hynny, yn ei ewyllys olaf. Pan ddaeth Rhyfel Byd II ymunodd Philip â'r Education Corps gan wasanaethu'n bennaf yng Ngogledd Iwerddon. Gollyngwyd ef yn siarsant-hyfforddwr gyda chlod uchel gan ei uwch swyddog.
Nid oedd ganddo arian na thir yr adeg honno ac eithrio Pentre Clawdd, fferm 250 acer ger Rhiwabon, a nifer o dai teras yn y pentref. Anrheg oedd y rhain iddo gan ei frawd Simon pan etifeddodd hwnnw holl ystad ei dad pan fu ef farw yn 1922. Bu Mrs Yorke yn byw ym Mhentre Clawdd a Simon yn Erddig, a phan fu farw Simon yn ddiewyllys yn 1966 daeth Erddig yn eiddo i Philip. Yr oedd y plasty mewn cyflwr bregus, wedi ymsuddo bum troedfedd yn un pen o ganlyniad i weithiau glo oddi tano. Dylifai'r glaw drwy'r to, gellid gweld drwy'r holltiau yn y muriau ac yr oedd pydredd pren ymhobman. Prif bryder Philip oedd cael adfer y tŷ a'i gadw'n gytûn a'i gynnwys i'r dyfodol. Wedi iddo oedi'n hir rhoddodd y cyfan i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar 14 Mawrth 1973. Gwnaed hynny'n bosibl gan eu bod wedi cael caniatâd i godi tai ar dir ar ymyl yr ystad ac i'w werthu er adfer Erddig.
Gwasanaethodd Philip yn ddarllenydd lleyg yn eglwysi ei ardal, ond nid oes gan yr esgobaeth unrhyw gofnod o'i drwyddedu i wneud hynny. Gwelid ef yn aml ar gefn beic ceiniog-ffyrling ac yr oedd yn ddarlithydd doniol gyda 'magic lantern' hynafol. Treuliai ei ddyddiau yn Erddig yn neuadd y gweision, a'i fwrdd anferth yn orlawn o duniau bwyd iddo ef a'i gi, poteli pop, papurau ac offer radio ffaeledig. Ni welid yno na chig na diod gadarn ar wahân i botel o sieri Cyprus i'w ymwelwyr. Prynai ei geir, ei feiciau a'i ddillad llychlyd yn ail-law. Ni thaflwyd dim i ffwrdd gan deulu'r Yorkiaid. Pan gliriwyd cypyrddau'r ty cyflwynwyd dros 15,000 o ddogfennau i Archifdy Clwyd.
Bu farw Philip Yorke yn eglwys Pen-y-lan, 2 Gorffennaf 1978, wedi iddo frysio yno ar ei feic ar fore Sul poeth. Claddwyd ei lwch ym mynwent eglwys Marchwiel. Y mae cofeb iddo o waith Jonah Jones yn yr eglwys.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.