Cafodd ei eni 9 Chwefror, 1889, ym Mhontycymer, sir Forgannwg, y trydydd o bedwar o blant, dau fab a dwy ferch, Richard a Hannah Davies (née Bedlington Kirkhouse). Roedd ei chwaer ifancaf, Annie Davies yn un o dair merch ifanc a fyddai'n canu yn ymgyrchoedd Evan Roberts yn ystod diwygiad 1904-05. Glöwr oedd ei dad, ond pan oedd David yn 8 oed symudodd y teulu i Glydach yng Nghwm Tawe pan apwyntiwyd y tad yn gôr-feistr mewn capel Annibynnol. Tua 1901 bu i'r lofa gau a symudodd y teulu eto, i Nantyffyllon, Maesteg, lle cafodd y tad waith fel lampwr yn y lofa yn dilyn damwain ddifrifol a'i hataliai rhag unrhyw waith corfforol trwm. Bu D. R. Davies ei hunan yn löwr am beth amser cyn ymroi, yn 16 oed, yn fyfyriwr yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ac yna yn y Coleg Unedig, Bradford a Phrifysgol Caeredin.
Cychwynnodd ar ei yrfa yn 1919 fel gweinidog Annibynnol yn Ravensthorpe. Symudodd i Eglwys Annibynnol Stryd Hawkshead, Southport, yn 1922, pryd y daeth yn gynhyrfwr gwleidyddol yn ystod streic y glowyr yn 1926 a chofleidio Sosialaeth rhagor na Christnogaeth. Daeth, yn ei eiriau ei hun 'yn gaethwas i'r efengyl gymdeithasol', ac fe'i hetholwyd fel yr unig gynghorydd Sosialaidd yn y fwrdeisdref. Datblygodd ei eglwys i fod i bob pwrpas yn gangen o'r Blaid Lafur, ac ymddeolodd fel gweinidog yn 1928. Yn llawn disgwyliadau symudodd i Lundain ond cafodd ei ddadrithio ynglyn â'r posiblrwydd o gael gwaith yno. Dioddefodd gyni a gorfu iddo werthu ei lyfrgell o 3,000 o lyfrau.
Yn y man, cafodd waith yn cyfeirio amlenni ond daeth cyfle i gael gwaith mwy cydnaws â'i natur yn darlithio ar gerddoriaeth ar ran cwmni recordio HMV, nes iddo gael ei gyflogi gan y Serbiad magnetig a chymhellgar, Dimitrije Mitrinovič (1887-1953) sylfaenydd y mudiad New Britain. Teithiodd yn eang i annerch cyfarfodydd cyhoeddus a chyfrannodd yn gyson i'r cylchgrawn wythnosol o'r un enw; a bu'n olygydd iddo am gyfnod. Bu gyda'r mudiad am saith mlynedd.
Fodd bynnag, daeth Davies yn bur amheus o'r addewidion am fyd newydd ac yn fwyfwy ymwybodol o dwf bygythiol Natsïaeth. Daeth yn aelod blaenllaw o'r Socialist League ac o'r People's Front a chymdeithasai â Marcsiaid blaenllaw. Apwyntiwyd ef yn aelod o ddirprwyaeth i ymweld â Sbaen a oedd yng nghanol gwewyr y Rhyfel Cartref. O brofi yr arswyd a'r lladdfa yno dadrithiwyd ef o unrhyw hyder mewn gwleidyddiaeth fel ateb i drallodion y ddynoliaeth. Mathrwyd ei obeithion delfrydol. Mewn anobaith llwyr ceisiodd gyflawni hunan-laddiad trwy foddi ger Southerndown ar arfordir de Cymru, ond daeth i'w feddwl ddarlun o'i fam, a barchai yn fawr, yn darllen o'r Rhodd Mam, ac yn gofyn iddo 'Pwy yw Iesu Grist?' ac yntau'n ateb, 'Iesu Grist yw fy Ngwaredwr'. Syrthiodd arno dangnefedd dwfn.
O hyn ymlaen ymrôdd o'r newydd i astudio'r Beibl yn drwyadl ac ailddarganfod diwinyddiaeth Reinhold Niebuhr. Daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Saesneg, Richmond Road, Caerdydd yn 1939 ac ail-gydio mewn pregethu ac ysgrifennu. Croesawyd ei gyfrol On To Orthodoxy, a ymddangosodd yn 1939, am ei deallusrwydd onest a'i confessio fidei argyhoeddiadol, ac am ei arddull ddisglair a deifiol. Ond darganfu fod y galwadau eglwysig o fewn y drefn Gynulleidfaol yn atalfa iddo rhag ennill bywoliaeth a fyddai yn ei alluogi i ganolbwyntio ar ysgolheictod ac ymchwil. Trodd at yr Eglwys Anglicanaidd am gefnogaeth, a maes o law cafodd ei dderbyn fel ymgeisydd at ei ordeinio.
Yn dilyn cwrs yn Llyfrgell Sant Deiniol, Penarlâg, Sir y Fflint, fe'i hordeiniwyd yn ddiacon yn 1941 ac yn offeiriad yn 1942. Roedd yn giwrad yn St. John, Newland, Hull o 1941 i 1943, ac yn ficer West Dulwich o 1943 i 1947, a Holy Trinity, Brighton o 1947 i 1949, a St. Mary Magdalen, St. Leonards-on-Sea, Hastings o 1949 i 1958 pryd y symudodd i blwyfi gwledig Parham, Wiggonholt a Greatham yng Ngorllewin Sussex. Yn ystod y blynyddau hyn enillodd hygrededd fel darlledwr poblogaidd.
Bu D. R. Davies yn briod âg Edith Firth o 1921 hyd at ei marwolaeth yn 1934. Ailbriododd â Ruth McCormick yn 1935. Ganwyd tri o blant o'r ail briodas.
Cafodd D. R. Davies ei gymharu â Reinhold Niebuhr a Karl Barth ac fel un o arweinwyr y ddiwinyddiaeth neo-uniongred ym Mhrydain. Cyhoeddodd Reinhold Niebuhr, a prophet from America yn 1945. Cafodd fywyd cythryblus. Trwy ei allu fel areithydd a'i ddeallusrwydd nodedig bu'n gefnogol i lawer o fudiadau radical ac adain chwith. Ond bu iddo gael ei ddadrithio gan ei ddelfrydiaeth ei hun a adlewyrchai dymer ei ddydd yn Ewrop ar y pryd, a darganfu gyfeiriad newydd i'w fywyd mewn Cristnogaeth uniongred. Mae'n crynhoi, yn ei fywyd, yrfeydd llawer o Gymry o'r cyfnod a gododd o dlodi enbyd i amlygrwydd.
Roedd yn ddarllenydd brwd mewn athroniaeth, seicoleg, gwleidyddiaeth, llên a diwinyddiaeth. Carai gerddoriaeth a chelf. Roedd yn bregethwr ac yn ddarlithydd nodedig ac yn newyddiadurwr o gryn statws; ymhlith ei amryw gyflawniadau bu yn gyd-olygydd y Church of England Newspaper am ddeg mlynedd.
Bu farw 1 Tachwedd 1af, 1958. Fe'i claddwyd yn Parham, Gorllewin Sussex, ar 5 Tachwedd, 1958.
Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir The Two Humanities (1940); The Church and the Peace (1940); Down Peacock's Feathers: Studies in the contemporary significance of the General Confession (1942); Divine Judgement in Human History (1943); Religion and Nationality (1944); On To Orthodoxy (1939, 1948); Secular Illusion or Christian Realism (1942, 1948); The World we have forgotten (1946); The Sin of Our Age (1947); Theology and the Atomic Age (1947); Thirty minutes to raise the dead: sermons (1949); The Art of Dodging Repentance (1952); Communism and the Christian (1954). Cyfrol nodedig yw ei fywgraffiad In Search of Myself (sy'n cynnwys llun ohono) a olygwyd gan ei weddw, Ruth, ac a gyhoeddwyd yn 1961 wedi ei farw.
Dyddiad cyhoeddi: 2010-12-14
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.