Ganwyd 11 Mai 1913 yn Bexton Croft, ty sylweddol a mawreddog yn Heol Toft, Knutsford, Swydd Gaer, a gynlluniwyd gan M. H. Baillie Scott yn 1895.
Colin oedd yr ieuengaf o'r ddau fab a aned i Frank James Gresham a'i wraig, Janie Maud, merch i John Payne, cyfreithiwr ym Manceinion. Peiriannydd oedd ei dad a ddaeth yn gyd-gyfarwyddwr ac yn gyd-reolwr gyda'i ddau frawd hyn ar gwmni Gresham & Craven a sefydlwyd gan ei daid, James Gresham, yn Ordsall Lane, Salford, ger Manceinion, yn 1880. (Hanai ef o Newark-on-Trent, Swydd Nottingham, er bod cofnod i'r teulu darddu o bentref Gresham ger Holt, yng ngogledd-ddwyrain Norfolk, mor bell yn ôl â diwedd yr Oesoedd Canol.) Roedd James Gresham yn beiriannydd galluog ac yn berson eithriadol o ddyfeisgar fel y dengys llyfryn ei wyr arno. Daeth yn enwog ym Mhrydain a thramor (yn Awstralia, De Affrig ac yn yr India yn arbennig) fel dyfeisydd a gwneuthurwr y vacuum railway brake newydd.
Peiriannydd eithriadol ddisglair a dyfeisgar oedd Colin Mather yntau, ei hendaid ar ochr ei fam. Daethpwyd i'w adnabod fel 'Cast-iron Colin'. Symudodd y teulu Mather o Montrose yn yr Alban i Manceinion, ond ni wyddys pryd nac am ba resymau yr aethant yno. Sut bynnag, erbyn 1836 sefydlodd Colin Mather a'i frawd iau, William, gwmni bychan yn 23 Brown Street, Salford. Disgrifiwyd hwy ar y pryd fel 'Engineers, machine makers and millwrights'. Yn 1852 ffurfiwyd partneriaeth rhwng Colin Mather a William Wilkinson Platt, Salford. Yn wir, gosodwyd seiliau'r cwmni peirianyddol a ddaeth i enwogrwydd yn rhyngwladol yn ddiweddarach fel Mather & Platt Cyf. y pryd hwnnw. (Hen ewythr i Colin Gresham oedd y Gwir Anrhydeddus Syr William Mather (1838-1920), nid ei hendaid fel yr honnir gan W. R. P. George yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 50 (1989), 38. Ef a fu'n bennaf gyfrifol am ddatblygu ac ehangu'r cwmni o tua 1870 hyd ddiwedd y ganrif. Daeth i amlygrwydd fel ffigwr cyhoeddus a gwleidyddol ac fel dyn busnes eithriadol lwyddiannus - gweler Who was Who). Daeth cyfoeth teuluol i Colin Gresham o'r ddwy ochr.
Collodd Colin ei dad o'r niwmonia yn 1917 ac yntau ond yn bedair oed ar y pryd. Y trychineb teuluol hwn a barodd i'w fam symud gyda'i meibion ifanc yn Ebrill 1919 o Knutsford i Gricieth, Sir Gaernarfon, lle'r arhosodd hyd ei marw yn 1945. (Ymserchodd hi yng Nghricieth a'r cyffiniau ar ôl treulio gwyliau yno gyda'i gŵr ac yn ddiweddarach yn 1917 a 1918 gyda'i phlant.)
Addysgwyd ef yn ysgol ragbaratoawl Twyford, ger Caer-wynt (1922-26), Coleg Marlborough (1926-30), a Choleg Prifysgol Llundain (B.A., 1935 mewn pensaernïaeth; diploma mewn archaeoleg, 1937). (Penderfynwyd ymhlith y teulu pan oedd Colin yn blentyn mai pensaer fyddai wedi iddo dyfu a dyna fu ei dynged, ond cyfaddefodd flynyddoedd yn ddiweddarach y buasai dilyn cwrs gradd mewn archaeoleg yng Nghaer-grawnt wedi apelio llawer mwy ato!) Prynodd ei ddwy fferm, Llwyn-yr-hwch, ym Mlaen Nanmor yn Eryri, a Phenystumllyn, uwchben Cricieth, yn 1939 a 1940. Dros y blynyddoedd daeth yn arbenigwr ar fagu Gwartheg Duon Cymreig.
Dechreuodd Colin Gresham gymryd diddordeb mewn hanes lleol a hynafiaethau yn ystod ei arddegau. Yn wir, ysgrifennodd dudalennau agoriadol cyfrol arfaethedig ar hanes Eifionydd yn 1928 ac yntau ond yn bymtheg oed ar y pryd. Yn fuan wedyn aeth ati i ddysgu Cymraeg, ac fe wnaeth hynny yn bennaf (fel Ffransis G. Payne) trwy gyfrwng llyfr A. S. D. Smith ('Caradar'), Welsh Made Easy. Gyda'r un ymroddiad daeth yn delynor medrus; cafodd wersi ar yr offeryn gan Gwendolen Mason pan oedd yn fyfyriwr yn Llundain. Dylid cyfeirio hefyd at ei hoffter o gerddoriaeth glasurol, yn arbennig weithiau Wagner; meddai ar gasgliad mawr o recordiadau. Yn ystod ei gyfnod yn Llundain hefyd daeth yn bencampwr ar ddawnsiau yr Alban (Scottish reels). Derbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd (Urdd Ofydd Llên) yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933 dan yr enw 'Pennant', ar ôl y drefgordd o'r un enw yn ei hoff Eifionydd; dyrchafwyd ef i'r Urdd Derwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri, 1968.
Cychwynnodd ymchwilio i hanes lleol o ddifrif yn 1931 ac ar ei faeswaith archaeolegol yng ngogledd-orllewin Cymru yn fuan ar ôl iddo raddio yn 1935 pan gynorthwyodd R. E. Mortimer Wheeler a Wilfrid James Hemp. Yn dilyn awgrym a wnaeth Hemp iddo yn 1938 cychwynnodd wneud arolwg o safleoedd cylchoedd cutiau cynnar yn ne Sir Gaernarfon. Darganfuwyd rhai o'r safleoedd hyn am y tro cyntaf y pryd hynny. Ehangodd ei arolwg wedyn i rannau eraill o'r sir ac i rannau o Feirionnydd a Môn a chyhoeddodd yr ymchwil hwn ar y cyd â Hemp yn ddiweddarach. (Symudodd Hemp o Lundain i Gricieth yn 1939 ac o hynny ymlaen daethant yn bennaf cyfeillion.) Eto ar y cyd, cyhoeddasant astudiaethau pwysig ar Parc (1942), Rhiwlas (1955) a Lasynys (1957), Meirionnydd. Cydnabu yn ei ragair i'w ail gyfrol, ei ddyled i Hemp yn y geiriau canlynol: '[he] introduced me to the North Wales School [of ancient sculpture], and trained my eyes to see and my mind to appreciate the details of its monuments'. Cyflwynodd y gyfrol hon er cof am ei gyfaill.
Am hanner canrif (1938-88) cyhoeddodd Colin Gresham yn helaeth ar archaeoleg a hanes siroedd Caernarfon a Meirionnydd mewn gwahanol gylchgronau. Cyfrannodd hefyd i Atlas Meirionnydd (1974) ac i Atlas Sir Gaernarfon (1977). Ef a roddodd Ddarlith Flynyddol Eifionydd yn 1981 ar y testun 'Teulu'r Trefan'. (Cyfieithiwyd y ddarlith i'r Gymraeg gan Guto Roberts, Rhoslan, ac ef a'i traddododd ar ei ran.) Sut bynnag, campweithiau ysgolheigaidd Gresham, yn ddi-ddadl, yw ei dair cyfrol: History of Merioneth, volume i: from the earliest times to the age of the native princes (gydag E. G. Bowen, 1967); Medieval stone carving in north Wales… (1968); Eifionydd: a study in landownership from the medieval period to the present day (1973). (Disgrifiwyd y gyfrol olaf gan un ysgolhaig o Rydychen a'i hadolygodd ar y pryd fel '[a] Domesday of Eifionydd'.) Mae'r gweithiau hyn yn adlewyrchiad amlwg o'i feistrolaeth lwyr ar y meysydd dan sylw ac o'i ymroddiad, ei drylwyredd a'i gydwybodolrwydd dros flynyddoedd lawer. Ceir rhestr lawn o'i gyhoeddiadau yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 51 (1990).
Yn ychwanegol at ei waith ysgolheigaidd rhoddodd Gresham wasanaeth ffyddlon, yn ei ddull cwrtais a diymhongar, i nifer o gymdeithasau diwylliannol a sefydliadau am flynyddoedd megis Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, Cymdeithasau Hanes siroedd Caernarfon (fel swyddog cloddio mygedol) a Meirionnydd (roedd ymhlith is-lywyddion y ddwy Gymdeithas), a Bwrdd Henebion Cymru. Yn ogystal â bod yn aelod o rai o bwyllgorau esgobaeth Bangor (gwnaeth gyfraniad gwerthfawr ac arbenigol trwy gynghori'r Eglwys yng Nghymru ynglyn â'i hadeiladau a'i chyfrifoldeb cadwriaethol), bu'n drysorydd a warden plwyf Cricieth gyda Threflys am gyfnod hir. Hefyd, ymddiddorai yn arbennig yng ngweithgareddau'r Ymddiriedolaeth Genenedlaethol, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru (gadawodd ei ddwy delyn Gothig iddi yn ei ewyllys), Cyngor Diogelu Cymru Wledig (bu'n ysgrifennydd mygedol cangen Sir Gaernarfon am rai blynyddoedd), Parc Cenedlaethol Eryri a Chwmni Drama Cricieth.
Dyfarnodd Prifysgol Cymru radd D.Litt. er anrhydedd iddo yn 1969. Etholwyd ef yn F.S.A. yn 1950 ac yn F.R.Hist.S. yn 1973. Cynigiwyd llywyddiaeth Cymdeithas Hynafiaethau Cymru iddo am 1971-72, ond oherwydd ei swildod cynhenid a'i salwch ar y pryd gwrthododd yr anrhydedd. Cyflwynodd y Gymdeithas 'Wobr Goffa G. T. Clark' iddo yn 1956 a thrachefn yn 1974 i gydnabod ei gyfraniad nodedig i archaeoleg a hanes gogledd Cymru.
Gwr bonheddig o ysgolhaig a garai'r encilion oedd Colin Alastair Gresham. Ni bu'n briod. Bu farw o gancr yn 75 oed ar 27 Chwefror 1989 yn Ysbyty Madog, Porthmadog, ac amlosgwyd ei weddillion ym Mangor ar 3 Mawrth yn dilyn gwasanaeth cyhoeddus yn eglwys Saint Catrin, Cricieth. Yn unol â'i ddymuniad gwasgarwyd ei lwch ar dir Penystumllyn, o le y ceir golygfa banoramig o dref Cricieth a'r castell. Dadorchuddiwyd coflech iddo yn llyfrgell Cricieth ar 23 Hydref 1992. Gallasai Gresham ddweud am gwmwd Eifionydd yr hyn a ddywedodd yr hanesydd A. L. Rowse am Gernyw: 'This was the land of my content'.
Dyddiad cyhoeddi: 2010-07-06
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.