GRIFFITHS, WINIFRED MAIR (1916-1996), gweinidog (A) a phrifathrawes

Enw: Winifred Mair Griffiths
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 1996
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gweinidog (A) a phrifathrawes
Maes gweithgaredd: Addysg; Crefydd
Awdur: Ioan Wyn Gruffydd

Ganwyd Mair Griffiths yng Nghaerdydd 6 Mehefin 1916 yn un o ddwy ferch a aned i Griffith William ac Alice Maud Griffiths. Daethai'r tad yn ŵr ifanc i weithio i Gaerdydd o Faldwyn, lle'r oedd ei rieni'n amaethu fferm y Forge, nid nepell o Bontrobert, ar y ffordd i Feifod. Diddorol yw cofio, yn y cyswllt hwn, fod brawd un o hendeidiau tad Mair wedi priodi merch ifanc o Ddolannog o'r enw Ann Thomas, a ddaeth i gael ei hadnabod fel yr emynyddes, Ann Griffiths. Yr oedd mam Mair yn ferch i'r Parchg. a Mrs. R. O. Jones, ef yn weinidog eglwysi'r Annibynwyr ym Moreia, Bedlinog, a'r Graig.

Cafodd Mair ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, a Choleg Prifysgol De Cymru a Mynwy, gan raddio'n B.A. gydag Anrhydedd mewn Almaeneg a Ffrangeg ym 1939. Bu'n athrawes rhwng 1940 a 1942 yn Ysgol Sirol Greeford (ac yn aelod, yn y cyfnod hwnnw, yn Eglwys y Tabernacl, King's Cross, Llundain). Rhwng 1942 a 1945 bu'n athrawes yn Ysgol Uwchradd Abertawe. Rhwng 1945 a 1947, hi oedd Trefnydd Cymru o Fudiad Cristionogol y Myfyrwyr. Yr oedd yn byw gartref yng Nghaerdydd yn y cyfnod hwnnw ac yn aelod yn Eglwys Minny Street. Ym 1946 cynigodd ei gwasanaeth i Gymdeithas Genhadol Llundain (L.M.S.). Treuliodd gyfnod yn ymbaratoi yn Selly Oak, Birmingham ac yng nghyfarfyddiad Bwrdd Cymdeithas Genhadol Llundain ar Ebrill 30, 1947, penodwyd Mair i wasanaethu ym Madagascar. Bu Gwasanaethau Cysegru iddi yn y Tabernacl, King's Cross, Llundain, ar Ionawr 8, 1948, ac ym Minny Street, Caerdydd, ar Ionawr 21 o'r un flwyddyn.

Hwyliodd i Fadagascar ar Ebrill 1, 1948, gan wasanaethu fel athrawes yn Ysgol Ambodin' Andohalo, yn Antananarivo, y brifddinas, a gofalu hefyd am hostel y merched yno. Yn yr amser hwn bu'n weithgar iawn â Mudiad Cristionogol y Merched Ifainc. Rhwng 1950 a 1964, gwasanaethodd fel prifathrawes Ysgol Amboitrantantentenaina, yn Fianarantsoa. O 1964 ymlaen, parhaodd i ddysgu yno ar ôl i brifathro o Fadagascar gael ei benodi. Bu hefyd yn dysgu yn y Coleg Hyfforddi Athrawon y bu ganddi ran amlwg yn ei sefydlu. Bu'n barod iawn ei gwasanaethu i eglwysi cylch eang. Arwydd o faint ei chyfraniad i fyd addysg ym Madasascar oedd i Lywodraeth y wlad gyflwyno iddi Urdd Teilyngdod fis Mehefin 1968.

Dychwelodd i Gymru o Fadagascar ym 1967 a phenodwyd hi'r un flwyddyn yn Brifathrawes Ysgol Ysbyty Orthopedig Rhydlafar, Caerdydd, gan hyfforddi'r plant a ddeuai i'r ysbyty fel cleifion tymor-hir. Bu yn y swydd honno hyd 1976. Ordeiniwyd a sefydlwyd hi'n weinidog Eglwys Mynydd Seion, Casnewydd, ym 1976, a gwasanaethodd yno hyd ei hymddeoliad ym 1983. Ar gyfrif afiechyd, gadawodd ei chartref yn y Rhath, Caerdydd, fis Tachwedd 1993, ac ymsefydlu yng Nghartref yr Henoed yn Lake Road East.

Bu farw Hydref 13, 1996, yn Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-11

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.