Ganwyd David Mervyn Himbury yn Ystrad Mynach, sir Forgannwg, ar 22 Gorffennaf 1922. Hanai ei dad, Reginald Harry Himbury, o Rampisham yn swydd Dorset, ac fe ddaeth i Gymru i chwilio am waith yn y pyllau glo. O Aberystwyth yr hanai teulu ei fam, Olwen Thomas - brawd iddi hi oedd y Parchg Idris Thomas a fu'n weinidog y Bedyddwyr yng Nghefn-mawr. Roedd gan Mervyn frawd iau, John (1932-1970). Eglwyswr pybyr oedd tad Mervyn Himbury ar hyd ei oes, a phan briododd ei fam, derbyniodd hi fedydd esgob ac ymunodd â'r Eglwys yng Nghymru. Ymweliadau â'i famgu Gymraeg oedd cysylltiad Mervyn Himbury â'r Bedyddwyr, ac yn ddeg oed gwrthododd fynychu'r ysgol Sul yn yr Eglwys a dechrau addoli gyda'r Bedyddwyr yn eglwys hynafol yr Hengoed. Yno cafodd ei fedyddio yn 1936 yn bedair-ar-ddeg oed a thua'r un adeg ailymaelododd ei fam â'r Bedyddwyr.
Cafodd Mervyn Himbury ei addysg yn yr ysgol gynradd leol ac yn Ysgol Lewis Pengam (1933-41) cyn symud i'r brifysgol yng Nghaerdydd yn 1941 i ddarllen am radd mewn hanes. Derbyniwyd ef yn ymgeisydd ar gyfer y weinidogaeth a chofrestrodd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd, yn 1942. Graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn 1945 gan ychwanegu gradd B.D. yn 1948. Ef oedd Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerdydd yn 1945-46. Derbyniodd ysgoloriaethau gan Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Ymddiriedolaeth Dr Williams i gofrestru yng ngholeg Regent's Park a choleg St Catherine, Rhydychen, ar ôl ennill y B.D., ac yn 1950 derbyniodd radd B.Litt. (Rhydychen) am draethawd, The Christian Magistrate in Dissenting Thought to 1660.
Derbyniodd alwad i eglwys Saesneg y Bedyddwyr yn Chester Street, Wrecsam, ac ordeiniwyd ef yno yn haf 1950. Prin chwe mis a dreuliodd yn y weinidogaeth fugeiliol yn Wrecsam cyn ymateb i wys Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd, i ddychwelyd yno yn Athro Hanes. Dechreuodd ar ei waith yn Ionawr 1951 ac yn 1957 cyhoeddwyd llyfr o'i eiddo i nodi trydedd jiwbili Coleg y Bedyddwyr, The South Wales Baptist College (1807-1957).
Yn 1951 priododd â Gwladys Marion Phillips o Gaersalem, Lanelli, a bu iddynt ddau o blant, Philip Maelor Himbury a Dewi Michael Himbury. Roedd y teulu'n byw yn Llanbedr-y-fro wedi symud yn ôl i'r de, a chytunodd y tad i fwrw gofal dros eglwys hynafol Croes-y-parc.
Tra oedd yn athro yng Ngholeg y Bedyddwyr, yr oedd Mervyn Himbury'n awyddus i barhau gyda'i waith ymchwil academaidd, ond rhwystrwyd ef rhag cofrestru am ddoethuriaeth gan reoliadau'r Brifysgol ar y pryd. Yn ganlyniad i raddau helaeth i'w ymdrechion ef newidiwyd y Rheoliadau er mwyn caniatáu i athrawon yn y sefydliadau cysylltiol gofrestru am raddau uwch, ond pan newidiwyd hwy, roedd yn rhy hwyr iddo fanteisio ar y newid. Yr oedd ei yrfa ar droi o fod yn un academaidd bur i fod yn un weinyddol. Yn 1958 roedd Dr Ernest Payne, a fuasai'n gyfarwyddwr iddo yn Rhydychen ond a oedd erbyn hynny yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, yn dra awyddus iddo ymgeisio am swydd Prifathro Coleg y Bedyddwyr yn Victoria, Awstralia. Ufuddhaodd i gais ei hen athro ac fe'i hapwyntiwyd i'r swydd, gan ymfudo gyda'i deulu i Melbourne, Awstralia, yn 1959. Un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach ymfudodd Ithel Jones, Prifathro Coleg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd, i fod yn weinidog eglwys y Bedyddwyr yn Collins Street, Melbourne.
Hon oedd yr adeg pan oedd cynlluniau ar droed i ddatblygu Coleg y Bedyddwyr yn Victoria yn goleg preswyl yn gysylltiedig â Phrifysgol Melbourne a chyfrifoldeb Mervyn Himbury oedd gwireddu'r breuddwydion. Dyna a wnaeth. Yn 1965 agorwyd campws newydd Coleg Whitley (wedi'i enwi ar ôl ei sylfaenydd, W. T. Whitely, a ymfudodd o Loegr i sefydlu'r Coleg yng nghapel Collins Street, Melbourne yn 1891). Ar y pryd, arfer Prifysgol Melbourne oedd dyfarnu gradd M.A. i benaethiaid y colegau cysylltiedig os oedd ganddynt radd o'r un safon o brifysgol arall. Dyfarnwyd M.A. i Mervyn Himbury pan agorwyd y coleg newydd. Llywiodd yntau waith y sefydliad newydd am un mlynedd ar hugain tan ei ymddeoliad yn 1986, pryd y penodwyd ef yn weinidog cynorthwyol anrhydeddus i Ithel Jones yn eglwys Collins Street. Yn 1989, enwodd Coleg Whitley ganolfan newydd ar ei ôl, The Mervyn Himbury Theological Centre.
Ni chafodd Mervyn Himbury lawer o gyfle i ddychwelyd at waith academaidd wedi iddo gael ei ddenu i'r byd gweinyddol, ond fe gyhoeddodd British Baptists: a Short History (1962), a phamffledyn, An Unusual Mr Smyth: Baptist Beginnings (1964), gyda Victorian Baptist Fund: centenary history of the Victorian Baptist Fund yn dilyn yn 1988, a chyfrol fechan, The Theatre of the Word: traditions, ministry, future of The Collins Street Baptist Church, Melbourne yn 1993, pan oedd yn weinidog cynorthwyol yn Collins Street.
Fe'i hanrhydeddwyd â chymrodoriaethau Prifysgolion Caerdydd a Melbourne. Bu farw ar 31 Hydref 2008 a chynhaliwyd ei angladd yng Nghapel Coleg Whitley ar 7 Tachwedd 2008.
Dyddiad cyhoeddi: 2010-01-20
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.