Ganwyd James Mansel John yn Nhrecynon, Aberdâr, Morgannwg, ar 22 Ebrill 1910. Ef oedd yr hynaf o dri phlentyn Thomas David John a'i wraig, Jennet (gynt George). Beryl oedd yr ail o'u plant ac Esmor y trydydd. Goruchwyliwr (overman) yn y gwaith glo oedd ei dad. Roedd y teulu yn weithgar a ffyddlon yng nghapel y Bedyddwyr, Heol-y-felin, ac yno y bedyddiwyd Mansel John gan weinidog yr eglwys, y Parchg Cynog Williams. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Elfennol Aberdâr cyn symud i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, ac yna gael ei dderbyn i ddarllen hanes yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd yn 1929. Graddiodd yn 1933 gan ennill Gwobr Charles Morgan am waith ar Hanes Cymru. Yn 1934 aeth ymlaen i ddarllen Diwinyddiaeth yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen. Dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth James Neobard, a sefydlwyd yn 1926 er mwyn cynorthwyo Bedyddiwr i astudio yng Ngholeg Mansfield, ond oherwydd afiechyd yn ystod y flwyddyn olaf, bu'n rhaid iddo dynnu allan o'r cwrs cyn graddio. Fodd bynnag, cafodd gynnig i fynd ymlaen i wneud B.Litt. ar William Erbury gyda Dr Claude Jenkins yn arolygu'r gwaith. Cyn dechrau ar y gwaith hwnnw, cafodd alwad i fugeilio eglwys Saesneg y Bedyddwyr yn Alfred Place, Aberystwyth ac fe'i derbyniodd. Ordeiniwyd ef yn weinidog Alfred Place yn 1937. Y prifathrawon Wheeler Robinson a Nathaniel Micklem o Rydychen bregethodd bregethau siars y cyfarfodydd. Tra oedd yn Aberystwyth bu Mansel John hefyd yn darlithio yn Adran Allanol y Brifysgol yno. Yn Aberystwyth, cyfarfu â Margaret Parry o Fachynlleth, trefnydd gydag Urdd Gobaith Cymru, a'i phriodi; bu iddynt ddau o blant, David (ganwyd 1945) a Janet (ganwyd 1947).
Treuliodd flwyddyn yn 1946-47 yn ddarlithydd Hanes a Chymdeithaseg yng ngholeg yr ail-gyfle yn Harlech, cyn symud i ofal bugeiliol Bethlehem, Trefdraeth (1947-52). Symudodd i fod yn weinidog Ebenezer, Aberafan yn 1952 ac yno yr arhosodd tan i awdurdodau Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd, ei wahodd i ymgeisio am swydd Athro Hanes yr Eglwys yn y Coleg wedi ymadawiad Mervyn Himbury i Awstralia. Dechreuodd ar ei waith yn y Coleg yn Ionawr 1959.
Yn 1955, tra oedd yn weinidog yn Aberafan, bu farw ei wraig, ac yn Awst 1959 priododd â Dorothy Penhale, ysgolfeistres yn Port Talbot. Bu iddynt un mab, Rhys (ganwyd 1963).
Bu gan Mansel John ddiddordeb mewn rygbi ar hyd ei oes ac yn llanc yn Ysgol Ramadeg Aberdâr cafodd brawf i chwarae yn nhîm bechgyn-ysgol Cymru. Gwasanaethodd ar Fwrdd Gwaith Undeb Cymru Fydd a Bwrdd Gwaith Cymdeithas Clubiau Ieuenctid Cymru. Yr oedd hefyd yn gerddor medrus. Chwaraeai'r piano a'r organ, a thra oedd yn fyfyriwr yng Nghaerdydd chwaraeai mewn pedwarawd a ddarlledai yn gyson ar raglenni Cymraeg y B.B.C. yng Nghymru. Tra oedd yn weinidog, cyfrannodd erthyglau i Seren Cymru (weithiau dan y ffug-enw 'Selnam'), Y Goleuad, Y Faner, Y Dysgedydd, Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr a Seren Gomer. Cyfrannodd ysgrif hanesyddol i'r gyfrol Sylfeini'r Ffydd Ddoe a Heddiw (1942) a gyhoeddwyd gan wasg S.C.M. Llundain dan olygyddiaeth J. E. Daniel. Gwelir ei enw hefyd ymhlith y cyfranwyr i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Pan fu farw, roedd newydd orffen golygu'r gyfrol Welsh Baptist Studies a ymddangosodd ym Mehefin 1976. Hon oedd y gyfrol gyntaf o'r hyn a fwriadai Coleg y Bedyddwyr yn gyfres o gyhoeddiadau. Mansel John ei hun oedd yr ysgogydd, ac hebddo ef i'w llywio daeth y gyfres i ben gyda'r gyfrol gyntaf. Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg, darlledai'n gyson ar raglenni Cymraeg megis 'Gwybod y Gair' a 'Gair yn ei Le', tra'i fod hefyd wedi ymddangos ar Radio 4 yn Lift up your Hearts a'r Epilogue.
Bu Mansel John farw yn sydyn ar 19 Ionawr 1975 yn ei gartref, 21 Egremont Road, Caerdydd, a bu ei arwyl yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, 22 Ionawr.
Dyddiad cyhoeddi: 2010-02-10
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.