JONES, TOM ELLIS (1900-1975), gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg

Enw: Tom Ellis Jones
Dyddiad geni: 1900
Dyddiad marw: 1975
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: D. Hugh Matthews

Ganwyd Tom Ellis Jones yn Princess Road, Rhosllannerchrugog ar 4 Awst 1900 yn fab i Benjamin Jones, ffotograffydd wrth ei alwedigaeth tan iddo fynd yn ddall, a'i briod. Yr oedd y tad yn ddiacon ym Mhenuel, eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yn y dreflan, ac roedd bywyd yr aelwyd yn troi o gwmpas y capel. Aeth Tom Ellis Jones yn syth o'r ysgol lleol i weithio fel clerc mewn swyddfa cyfrifydd yn Wrecsam cyn ymuno â'r fyddin ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwasanaethodd yn yr Almaen ac yn Iwerddon, gan orffen ei dymor o wasanaeth yn 1919. Erbyn hynny yr oedd wedi dechrau pregethu o dan weinidogaeth y Parchg D. Wyre Lewis. Wedi gadael y fyddin cofrestrodd yn yr ysgol baratoawl ar gyfer ymgeiswyr am y Weinidogaeth a gynhaliai y Parchg J. Powell Griffiths yn eglwys y Bedyddwyr Saesneg yn y Ponciau, ac yn 1920 cafodd fynediad i Goleg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol ym Mangor i baratoi am y Weinidogaeth. Graddiodd yn y Celfyddydau yn 1923 ac mewn Diwinyddiaeth yn 1926. Y flwyddyn honno, hefyd, derbyniodd alwad i fugeilio eglwys y Bedyddwyr yn Ebeneser, Yr Wyddgrug, ac ordeiniwyd ef yn weinidog yr eglwys yno, gan fwrw golwg hefyd dros y gangen ym Maes-y-dre. Priododd ag Edith Gwendoline Jones o Benuel, Bangor, yn Ebrill 1928 a ganwyd un ferch, Luned, iddynt.

Symudodd i fod yn weinidog eglwys y Bedyddwyr yn Soar, Llwynhendy, yn 1929, ac yn fuan ar ôl ymsefydlu yno dyfarnodd Prifysgol Cymru radd M.A. iddo am draethawd yn olrhain gogwyddiadau crefyddol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar Ffwleriaeth. Anerchodd Gymdeithas Hanes y Bedyddwyr ar y pwnc yn 1936 a chyhoeddwyd sylwedd ei draethawd yn Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru (1936). Etholwyd ef yn Athro'r Ysgrythur Lân yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1943 a gwasanaethodd fel Prifathro Coleg y Bedyddwyr o 1959 hyd 1967. Ef oedd y Prifathro adeg dathlu canmlwyddiant sefydlu'r Coleg yn Llangollen yn 1862.

Cyfrannodd yn helaeth i lenyddiaeth ei enwad. Bu'n olygydd Seren Cymru, papur wythnosol Bedyddwyr Cymru, a chynorthwyodd E. Cefni Jones a oedd yn heneiddio pan oedd ef yn golygu Llawlyfr Moliant Newydd y Bedyddwyr a gyhoeddwyd yn 1956. Cyhoeddwyd pump o'i emynau ef ei hun ac un hwyrol weddi o'i eiddo yn y llyfr emynau. Gwelir ysgrifau o'i eiddo mewn sawl rhifyn o Seren Gomer a Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr. Yn y 1960au cadeiriodd gomisiwn ar y Weinidogaeth a sefydlwyd gan Undeb Bedyddwyr Cymru ac adroddiad a luniwyd dan ei lywyddiaeth ef yw Adroddiad Comisiwn y Weinidogaeth. Mae ysgrifau o'i eiddo yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Lluniodd Credo Cristion a Paham? - dwy gyfrol fechan i gynorthwyo credinwyr ifainc, Y Portread, cyfrol o fyfyrdodau ar y Bregeth ar y Mynydd, a Sgroliau'r Môr Marw, astudiaeth o'r dogfennau a ddarganfuwyd yn yr ogofâu o gwmpas y Môr Marw.

Roedd T. Ellis Jones yn gyfathrebwr medrus a galwyd am ei wasanaeth ar draws Cymru. Ar gyfrif ei wasanaeth mewn gwahanol gylchoedd fe gafodd lu o anrhydeddau. Bu'n Llywydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon (1954-55) ac yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru (1965-66); yn Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru a phan grëwyd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru gyfan, ef a etholwyd y Llywydd cyntaf iddo.

Bu farw ym Mangor ar y Sul, 16 Tachwedd 1975.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-02-11

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.