LEWIS, DAVID WYRE (1872 - 1966), gweinidog a threfnydd (B)

Enw: David Wyre Lewis
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1966
Priod: Eleanor Lewis (née Dodd)
Priod: Elizabeth Ellen Lewis (née Roberts)
Rhiant: Jane Lewis (née Davies)
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a threfnydd (B)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 13 Mai 1872 yn Felinganol, Llanrhystud Mefenydd, Ceredigion, yn fab i'r bardd a'r cerddor John Lewis (‘Eos Glan Wyre’; 1836 - 1892), Tŷ-mawr, a Jane (ganwyd Davies; 1844 - 1917), Felinganol, ac yn nai fab brawd i'r cerddor David Lewis (1828 - 1908). Addysgwyd ef yn ysgol eglwys y pentref, a phrentisiwyd ef yn saer coed yn Nhrawscoed. Oherwydd diffyg gwaith yn y fro symudodd i'r Maerdy, Morgannwg, ac yna drosodd i Ben-y-graig, lle y bedyddiwyd ef yn aelod yn eglwys Soar, Ffrwdamws a'i godi i bregethu. Yn dilyn cyfnod byr o ysgol nos yn y Porth a 14 mis yn y Severn Grove Academy yn Llanidloes (1893-94), fe'i derbyniwyd i Goleg y Bedyddwyr, Bangor, ond arhosodd hyd Fedi 1895 cyn cychwyn ar ei gwrs, gan fwrw'r flwyddyn gyntaf yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, er mwyn matricwleiddio, a'r pedair blynedd nesaf ym Mangor yn rhannu ei amser rhwng Coleg y Brifysgol a Choleg y Bedyddwyr. Ordeiniwyd ef 3 Gorffennaf 1900 yn weinidog eglwysi Nefyn a Morfa Nefyn, lle y cododd dŷ cwrdd newydd sbon i'r naill a gosod trefn ar gyllid y llall, a chael profiadau ‘cwbl anesboniadwy’ yno yn ystod y Diwygiad yn 1905. Sefydlwyd ef 19 Ebrill 1910 yn weinidog eglwys Calfaria, Llanelli, lle y daeth wyneb yn wyneb â therfysgoedd streic y rheilffordd yn Awst 1911, a symudodd 1 Medi 1913 i eglwys Penuel, Rhosllannerchrugog, lle y cyflawnodd waith aeddfetaf ei fywyd a lle y bu galw arno ar y dechrau cyntaf, fel yn Llanelli, i gymathu ei weinidogaeth bersonol a'r efengyl gymdeithasol a oedd yn ennill tir ymhlith yr aelodau. Ymddeolodd 7 Ebrill 1946, ond parhaodd i fyw yn yr ardal.

Yr oedd yn gynadleddwr profiadol ac arweinydd yng ngwasanaeth ei enwad. Bu'n ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon, 1906-10, ac ysgrifennydd Cymanfa Dinbych, Fflint, a Meirion, 1919-39, â chyfrifoldeb arbennig o 1934 ymlaen am ofynion y Gronfa Gynhaliol. Bu'n llywydd y Gymanfa ddwywaith (1930-31, 1954-55), ac wedi annerch yr Undeb (1910, 1920) dyrchafwyd ef yn llywydd 1938-39. Cyhoeddwyd anerchiad 1920, Crist a'r werin ac araith 1939, Yr Eglwys a'i chyfle heddiw. Bu'n gadeirydd y Drysorfa Goffadwriaethol, Pwyllgor Y Llawlyfr moliant newydd (1955), Pwyllgor y Gronfa Gynhaliol (o ganol y 1950au hyd ei farw), a threfnydd dros Gymru i'r Drysorfa Ad-drefnu (1944).

Yr oedd yn ysgrifwr toreithiog a chyhoeddodd fyrgofiant yn J. T. Rees (gol.), Detholiad o donau, anthemau a rhanganau Dafydd Lewis, Llanrhystyd (1930), ac Yr eglwysi a'r undeb. Y weinidogaeth a'i pherigl heddiw (1939). Yr oedd ar y blaen yn atgyfodi Seren Gomer yn 1909, yn olygydd y cylchgrawn, 1910-16, gyda phwyslais neilltuol ar ei ‘Nodiadau ar lyfrau’, ac y mae ei erthyglau ymlaen i'r 1930au yn cynnwys bywgraffiadau Bedyddwyr cyfoes o Gymry, adroddiadau ar gynadleddau blynyddol, a thraethiadau sylweddol ar bynciau amrywiol. Cyfrannodd lawer i Yr Hauwr (wedyn Yr Heuwr) a'i olynydd Yr Arweinydd newydd, o 1904 hyd ganol y 1930au.

Yr oedd yn ŵr effro i anghenion cenedl yn ogystal ag enwad. Bu'n ysgrifennydd Cymanfa Ddirwest Llŷn ac Eifionydd. Yr oedd yn heddychwr i'r carn, yn aelod o'r cwmni a gychwynnodd Y Deyrnas, Hydref 1916, ac yn ysgrifennydd a chofnodydd i'r Gynhadledd Heddwch a alwyd yn Llandrindod, 3-5 Medi 1917. Ef yn 1940-41 oedd cadeirydd y Pwyllgor er Diogelu Diwylliant Cymru, a phan unwyd hwnnw ag Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg yn 1941 i greu Undeb Cymru Fydd, bu o'r cychwyn yn aelod o Gyngor ac amryw o bwyllgorau'r corff newydd ac wedyn yn gadeirydd ac yn llywydd. Dyfarnwyd iddo D.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1961, ac ym marn llawer ef oedd Bedyddiwr pwysicaf yr 20fed ganrif yng Nghymru.

Priododd (1), 13 Ebrill 1904, ag Elizabeth Ellen Roberts (1896 - 1941), Caergybi. Priododd (2), 20 Mai 1946, ag Eleanor Thomas (ganwyd Dodd), Pen-y-cae, Wrecsam. Ganed o'r briodas gyntaf ddau fab. Bu farw 9 Mai 1966 yn ei gartref Tŷ Cerrig, Pen-y-cae, a chladdwyd ei lwch ym medd ei wraig gyntaf ym mynwent ei fam-eglwys, yn Salem, Llanrhystud.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/