Ganwyd 13 Mehefin 1939 yn Llundain, yn ail fab a thrydydd plentyn Lewis Pugh Lloyd a'i wraig Ruby Margaret Doris (née Haste). Hanai ei dad o Llanfair, ger Harlech, Meirionnydd, a'i fam o Llundain, er bod cysylltiadau Cymreig ganddi. Symudodd y teulu o Llundain i Llanfair yn 1953. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y sir, Willesden, ysgol sir Abermaw, Ysgol Ardudwy, Harlech; Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (LLB, 1960 gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf; dyfarnwyd 'Gwobr Syr Samuel Evans' iddo), Coleg Gonville a Caius, Caer-grawnt (LLB, 1962; ailddynodwyd y radd hon yn LLM yn 1985), a Phrifysgol Genedlaethol Awstralia, Canberra (Ph.D., 1966 am draethawd ar y testun 'The sources and development of Australian mining law'). Bu'n ddarlithydd yn adran y gyfraith ym Mhrifysgol Leeds, 1966-68. Yn 1968 penodwyd ef yn diwtor (dyrchafwyd ef yn uwch-diwtor yn 1973) mewn theori gwleidyddol a sefydliadau yng Ngholeg Harlech. Dewisodd aros yno hyd ei ymddeoliad cynnar yn Awst 1993. Er iddo raddio'n ddisglair yn y gyfraith ac ymchwilio'n uwchraddol i'r pwnc, a hyd yn oed ymaelodi (ar anogaeth yr Athro D. J. Llewelfryn Davies, Aberystwyth), â Gray's Inn mor gynnar â 1961, hanes yn hytrach na'r gyfraith oedd ei brif ddiddordeb. Nid aeth ymlaen â'i fwriad i eistedd arholiadau'r bar ar ôl dychwelyd o Awstralia yn 1966, a chefnodd ar y gyfraith fel pwnc academaidd pur ar ôl ymadael â'i swydd yn Leeds. Rhoes ei benodiad i Goleg Harlech y cyfle iddo i ddilyn ei wir ddiddordeb, sef ymchwil hanesyddol.
Roedd gan Lewis Lloyd gariad angerddol at Feirionnydd ac at gwmwd Ardudwy yn arbennig - 'Canmol dy fro a thrig yno' oedd un o'i hoff ddiarhebion. Ymfalchïai yn ei wreiddiau lleol a'r ffaith i'w hynafiaid ar ochr ei dad fyw yn yr ardal ymhell cyn i Edward I adeiladu ei gastell yn Harlech yn niwedd y 13g. Cyfrifai Lwydiaid, Cwm Bychan, ymhlith ei hynafiaid mwy diweddar. Yn fuan ar ôl ei benodiad i Goleg Harlech cychwynnodd ymchwilio i hanes Ardudwy ac i hanes morwrol siroedd Caernarfon a Meirionnydd yn benodol. Daeth hyn yn ganolbwynt ei fywyd, ac yn ystod yn agos i'r 30 mlynedd nesaf ymdaflodd yn llwyr i ymchwilio i'r maes. Roedd ganddo wybodaeth drylwyr o'r holl ffynonellau - gwreiddiol a phrintiedig. Teithiodd lawer ym Mhrydain (er na allai yrru modur!) a thramor - i Awstralia (yn 1988 ac 1994) ac U.D.A. (yn 1997) i ymgynghori â chasgliadau archifol a llyfryddol. Cyplysodd hanes morwrol y siroedd hyn â'u hanes cymdeithasol; roedd ganddo barch aruthrol at y werin - yn ffermwyr, crefftwyr a morwyr fel y'i gilydd. Daeth yn awdurdod hefyd ar hanes y Cymry a ymfudodd i Awstralia yn ystod y 19g.-20g. Cychwynasai ymchwilio i hanes y Cymry a ymfudodd i U.D.A. yn ystod yr un cyfnod pan fu farw.
Cyhoeddodd yn helaeth mewn gwahanol gylchgronau o 1972 ymlaen, ond yn fwyaf arbennig yn Cymru a'r Môr a Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd. Roedd ymhlith sylfaenwyr Cymru a'r Môr yn 1976, a bu'n un o'r golygyddion o'r cychwyn hyd ei farw. Ceir llyfryddiaeth o'i weithiau yn rhifyn 28 (2007) o'r cylchgrawn hwnnw. Dyma deitlau ei brif gyhoeddiadau: The book of Harlech (1986); Australians from Wales (1988); The port of Caernarfon 1793-1900 (1989); Pwllheli: the port and mart of Llyn (1991); Wherever freights may offer: the maritime community of Abermaw/Barmouth 1565 to 1920 (1993); A real little seaport: the port of Aberdyfi and its people 1565-1920 (1996; dwy gyfrol). Cyhoeddodd y mwyafrif o'r cyfrolau swmpus hyn yn breifat ac ar ei gost ei hun. Dywed yn ei ragair i'w lyfr cryno, The town and port of Barmouth (1565-1973), a gyhoeddwyd yn 1974: 'The sea provided a highway to the world and sustained the curiosity of those who wished to lead a more adventurous life…'. Gwnaeth gyfraniad unigryw a thoreithiog trwy groniclo hanes y morwyr dewr hyn a'u cymunedau.
Etholwyd ef yn F.S.A. yn 1977 ac yn F.R.Hist.S. yn 1990. Bu'n aelod ffyddlon o Gyngor Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd yn ystod 1977-89; gwnaed ef yn is-lywydd yn 1989. Cai fwynhad arbennig o draethu ar hanes lleol i wahanol gymdeithasau a dosbarthiadau nos, yn arbennig yn Ardudwy. Rhannai ei wybodaeth a'i frwdfrydedd heintus ag eraill trwy ei lythyron, ei ddarlithoedd a'i gyhoeddiadau niferus ar hyd y blynyddoedd. Yn 1998 sylfaenwyd Cymdeithas Hanes Harlech i'w goffáu.
Roedd Lewis Lloyd yn berson hoffus, dirodres a hynod boblogaidd. Bu farw yn ddisymwth ar 11 Ebrill 1997 yn 57 oed yn Cadair Owain, ei gartref yn Llanfair, a chladdwyd ef ar 19 Ebrill yn ymyl bedd ei rieni ym mynwent eglwys y Santes Fair. Yn briodol iawn cyflwynodd ei deulu ran o'i lyfrgell i Goleg Harlech a'i gasgliad ymchwil i Archifdy Meirionnydd, Dolgellau.
Dyddiad cyhoeddi: 2010-07-13
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.