RANKIN, SUSANNAH JANE (1897-1989), gweinidog (A) a chenhades ym Mhapwa

Enw: Susannah Jane Rankin
Dyddiad geni: 1897
Dyddiad marw: 1989
Priod: Robert Rankin
Rhiant: Jane Ellis
Rhiant: Frank Ellis
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gweinidog (A) a chenhades ym Mhapwa
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ioan Wyn Gruffydd

Susannah Jane, a anwyd 26 Tachwedd 1897, oedd y pedwerydd o'r naw plentyn a aned i Frank a Jane Ellis ar fferm Pengorffwysfa, nid nepell o dref Llanfyllin, Maldwyn, ac yno yng nghapel yr Annibynwyr, Pendref, y cafodd ei derbyn yn aelod.

Addysgwyd hi yn ysgol ramadeg Llanfyllin a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle bu rhwng 1918 a 1922, gan raddio'n B.A., gydag Anrhydedd mewn Hanes ac Athroniaeth. Yn Hydref 1922 aeth i Goleg yr Annibynwyr ym Mala-Bangor ac ym 1925, enillodd ei B.D, y wraig gyntaf i ennill y radd honno ym Mhrifysgol Cymru. Ordeiniwyd hi yn eglwys ei chartref yn Llanfyllin, fis Hydref 1925, cyn cael ei phenodi'n genhades gan Gymdeithas Genhadol Llundain (L.M.S.). Hwyliodd i Bapwa ymhen blwyddyn.

Treuliodd ei dwy flynedd gyntaf fel cenhades yn darlithio yn Saesneg yng Ngholeg Diwinyddol Lawes. Yn raddol, meistrolodd yr iaith Motw. Ym 1928 aeth hi a chenhades arall, eiddil o gorff fel hithau, i wneud gwaith efengylu arloesol yn ardal fynyddig Boku Kapakapa. Pan adawodd ei ffrind i briodi, gadawyd Sue Ellis i wneud y gwaith ei hunan. Ym 1931 aeth i wneud gwaith cyffelyb yn Saroa, ymysg y casglwyr penglogau, lle nad oedd neb wedi pregethu'r Efengyl cyn hynny. Yr un flwyddyn, priododd y Parchg. Robert Rankin, ac ymrôdd y ddau i wneud y gwaith am 26 mlynedd gan sefydlu eglwysi newydd a dwyn rhai miloedd o bobl y mynyddoedd at Iesu Grist a'u troi o fod yn ganibaliaid. Ym 1957, pan agorwyd Coleg Coffa Diwinyddol Chalmers, penodwyd y ddau genhadwr, y gŵr a'r wraig, yn Brifathro ac yn Athro yn y coleg newydd, er bod ei leoliad rhwng pedwar a phum can milltir i'r gorllewin o'r fan lle buont yn gwasanaethu. Ar ymweliad byr ag Awstralia ym 1960, bu farw'r Parchg. Robert Rankin. Dychwelodd Sue Rankin, fodd bynnag, at ei gwaith yn y coleg, gan barhau fel Prifathro hyd ei hymddeoliad ym 1964, pan lwyddodd Cymdeithas Genhadol Llundain i ganfod olynydd iddi.

Dychwelodd i fyw at ei chwaer yn Awstralia. Ond nid un i ymddeol oedd Mrs. Rankin a byr fu ei harhosiad yn Awstralia. Dychwelodd i Bapwa i wasanaeth'r Eglwys newydd a sefydlasid yno fel Cyfarwyddwr Cyrsiau i weinidogion ac i hyfforddi cenhadon. Wedi tair blynedd, ymddeolodd eilwaith, ond cyn dychwel i Awstralia, ymunodd â gwaith efengylaidd newydd ymysg y bobl fwyaf anwar, a golygodd hynny fod yn rhaid iddi ddysgu iaith newydd arall.

Yn ystod ei chyfnod yn Saroa cyfieithodd lawer o weithiau o'r Gymraeg a'r Saesneg i'r iaith Motw, un o'r 14 o'r prif ieithoedd a siaredir ym Mhapwa ac iaith swyddogol y wlad ar ôl annibyniaeth. Bu gan Sue Rankin ran amlwg hefyd yn y gwaith o adolygu'r Testament Newydd yn yr iaith honno. Cydnabu Prifysgol Cymru gyfraniad Sue Rankin ym 1973 pan gyflwynodd iddi radd M.A. er Anrhydedd. Wrth ei chyflwyno cyfeiriodd Alun Davies, yr Athro Hanes yn Abertawe, ati nid yn unig ‘fel pregethwr ac addysgwr crefyddol, ond … hefyd fel ieithydd a chyfieithydd.’ Ymwelodd â Chymru droeon dros y blynyddoedd, gan ymweld â'r gwahanol eglwysi yn eu tro, ond trist oedd ei chlywed yn dweud ym 1973 mai hwnnw a fyddai ei hymweliad olaf â Chymru - Cymru a oedd yn golygu cymaint iddi. Bu Susannah Jane Rankin farw yn Awstralia ar 24 Gorffennaf 1989. Cafwyd gwasanaeth o ddiolch am ei bywyd yng Nghapel Pendref, Llanfyllin, ar 25 Tachwedd, 1989.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-13

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/