REES, THOMAS IFOR (1890-1977), llysgennad

Enw: Thomas Ifor Rees
Dyddiad geni: 1890
Dyddiad marw: 1977
Priod: Elizabeth Rees (née Phillips)
Plentyn: Nest Rees
Plentyn: Morfudd Clarke (née Rees)
Plentyn: Geraint Rees
Plentyn: Ceredig Rees
Rhiant: Elizabeth Rees (née Davies)
Rhiant: John Thomas Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysgennad
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Morfudd Clarke

Ganed Thomas Ifor Rees ar y l6 Chwefror, 1890, ym Mronceiro, tŷ ar gyrion Bow Street a Llandre, Ceredigion. Roedd yn un o saith o blant a aned i'r cerddor a chyfansoddwr adnabyddus, J.T. Rees, a'i wraig Elizabeth (Davies). Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Rhydypennau ac wedyn yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, a Choleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1910. Wedi graddio, ymunodd â'r Swyddfa Dramor yn Llundain trwy'r arholiad cystadleuol ac yn fuan wedyn derbyniodd ei swydd gyntaf fel Is-Gonswl Gweithredol ym Marseilles, Ffrainc (1913-1914).Yn dilyn hynny, cafodd ei benodi yn Chargé d'Affaires yn Caracas, Venezuela. Glaniodd yno pan ddaeth y newyddion am ddechrau'r Rhyfel Mawr (1914-1918). Cafodd ei orchymyn i aros yn Venezuela drwy gydol y rhyfel.

Wedi'r rhyfel, priododd Elizabeth Phillips, Trefaes Uchaf, Llangwyrfon, Ceredigion, yn 1919 a rhwng 1920 a 1930 ganwyd iddynt bedwar o blant - Morfudd, Ceredig, Nest a Geraint.

Er ei holl deithio, Cymro i'r carn oedd T. Ifor Rees. Roedd ei Gymreictod yn bwysig iawn iddo, a gwnaeth yn sicr bod ei blant yn cael eu trwytho yn y Gymraeg o'r cychwyn, ble bynnag roedd y teulu'n byw ar y pryd. Yn y blynyddoedd cynnar, eu modryb Miss Margaret Phillips a oedd yn gyfrifol am hyn. Yn ddiweddarach danfonwyd hwy i ysgolion preswyl yn Nolgellau, cyn mynd i wahanol brifysgolion.

Yn 1921 trosglwyddwyd Ifor Rees yn Gonswl ac yna'n Chargé d'Afaires i Managua, Nicaragua, lle ganwyd dau o'r plant. Wedi tair blynedd yno, penodwyd ef yn Gonswl-Cyffredinol yn Bilbao, Sbaen, lle bu tan 1932, pan ddaeth yr alwad i fynd i Fecsico. Yn 1936, bu yn Havana, Cuba, rhwng 1934 a 1936 ac wedi hynny ym Milan, yr Eidal, yn 1937. Cyn pen blwyddyn, cafodd ei ddanfon yn ôl i Ddinas Mecsico i gymryd gofal o'r Llysgenhadaeth yn Weinidog Prydain wedi'r torri'r cysylltiadau diplomataidd rhwng Prydain a Mecsico oherwydd problem yr olew. Yn ystod y cyfnod yma ym Mecsico, gwyddai T. Ifor Rees bod Gweinidog Tramor y wlad, Eduardo Hay, wedi gwneud cyfieithiad Sbaeneg o Rubaiyát Omar Khayyám, yn union fel yr oedd ef wedi'i wneud i'r Gymraeg, a meddyliodd y gallai hyn fod yn ddolen gyswllt rhyngddynt i helpu datrys problem yr olew. Felly y bu pan gyfarfu'r ddau mewn parti a drefnwyd gan gyfaill i'r ddau. Dyma ddiplomatiaeth dawel ar ei gorau (gweler Yr Enfys, 63, 1964). Cyfieithiad T. Ifor Rees o Rubáiyát Omar Khayyám oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi ym Mecsico. Mynnai Ifor Rees feistroli iaith y wlad y byddai'n gweinyddio ynddi - Sbaeneg yn bennaf - ond Ffrangeg ac Eidaleg hefyd yn ystod ei gyfnodau ym Marseilles a Milan. Ond ei gariad cyntaf oedd ei famiaith - y Gymraeg.

Yn 1943, danfonwyd T. Ifor Rees i fod yn Weinidog Prydeinig yn Bolivia, De America, ac yn Llysgennad yn 1947 lle y bu tan 1949. Ef oedd llysgennad cyntaf Prydain yn Bolivia. Yn fuan wedi iddo ymgymryd â'r swydd, bu gwrthryfel milain yn La Paz yn 1945. Ymosododd torf lidiog ar balas yr arlwydd, lladdwyd yr Arlywydd Villaroel a chrogwyd ei gorff yn gyhoeddus yn y sgwar o flaen yr Eglwys Gadeiriol. Amser dyrys a chythryblus oedd hwn a roes brawf ar sgiliau diplomatyddol y llysgennad newydd.

Ymddeolodd yn 1950. Drwy gydol ei fywyd, yr oedd Ifor Rees yn ymwybodol o dlodi ac annhegwch ledled y byd. Roedd hynny'n amlwg iawn iddo yn ystod yr amser a dreuliodd yng Nghanolbarth a De America. Elusen a oedd yn agos iawn at ei galon oedd y Groes Goch a bu'n weithgar yn codi arian sylweddol i'r achos hwnnw i liniaru dioddefaint milwyr, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Trwy ei fywyd yr oedd yn gefnogol iawn nid yn unig i'r Groes Goch ond i lawer o fudiadau dyngarol eraill yn ogystal. Er iddo dreulio bron ddeugain mlynedd yn y Gwasanaeth Tramor, a hynny dros ddau gyfandir, llwyddodd i gadw ei ddiddordebau eang - canu a cherddoriaeth, llyfrau, darllen a chyfieithu o'r Sbaeneg a'r Ffrangeg i'r Gymraeg, hanes, dringo mynyddoedd, ac yn bennaf ffotograffiaeth. Mynych y gwelid ef yn mentro allan i ddringo rhai o'r copaon anodd yn yr Andes, Sierra Madre, llosgfynyddoedd ym Mecsico a Bolivia ac ati. Ni fyddai byth yn crwydro heb gamera, gan amlaf efo dau, a'r rheiny'n rhai trwm, ymhell cyn oes y camera digidol. Roedd mynydda a ffotograffiaeth yn gyfuniad perffaith, a gwelir ffrwyth ei lafur yn y llyfrau teithio a nodir isod, sy'n darlunio byd rhyfeddol a llawn hud. Mae yna luniau godidog o Popocatepetl, llyn Titicaca, Iztacihuatl, Yucatan, Macchu Pichu (dinas goll yr Incas), Illimani a Sajama, ac enwi ond ychydig.

Cyflwynodd ei lyfr Sajama i ‘Ieuenctid Cymru’. Llyfr yw hwn sy'n cofnodi ei deithiau ym Mecsico, Nicaragua, Peru a Bolivia, llyfr sydd, fel Illimani ac In and around the Valley of Mexico, yn wledd i'r llygad a'r dychymyg. A dyfynnu geiriau'r diweddar Dr. E.T. Griffiths, cyfaill a chymydog i Ifor Rees, yn ei ragair i Sajama, ‘Perthyn y Dr. Rees i'r dosbarth bychan, dethol hwnnw o Swyddogion y Gwasanaeth Gwladol a lwyddodd i gyfuno'n hapus ofalon a chyfrifoldeb aruchel swydd a diddordebau ac ymroddiad tawel ond di-feth y gwir lenor.’ Yn ei luniau gwelir ei gariad at wlad, mynyddoedd a golygfeydd godidog, ond hefyd ei gyfeillgarwch a'i gariad at y bobl gyffredin. Roedd ganddo'r ddawn naturiol i gyfathrachu â phob un, y tlawd a'r cyfoethog, y nodedig a'r di-nod, y gweinidog a'r gwerinwr. Dyna fesur ei bersonoliaeth a'i lwyddiant.

Wedi ymddeol yn 1950 a dychwelyd i'w hen gartref, Bronceiro, dangosodd yr un brwdfrydedd ac ymroddiad dros sefydliadau pwysig ei wlad ei hun. Bu'n aelod selog a gweithgar ar bwyllgorau'r Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Aberystwyth, ac yn arbennig, Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Bu yr un mor flaenllaw yn ei bentref genedigol ei hun lle bu'n Drysorydd Eglwys y Garn am gyfnod maith, yn athro Ysgol Sul ysbrydoledig ac yn gefnogol i bob achos da yn yr ardal. Roedd mynydda a thynnu lluniau yn dal yn ei waed ac wedi dychwelyd i Gymru, bu'n dringo bron bob copa a chrwydro i bob cornel o'i hoff wlad.

Roedd T. Ifor Rees yn wr tal, golygus a bonheddig, yn gadarn o gorff a chyfansoddiad, ac yn dangos yr un cadernid yn ei safonnau a'i egwyddorion. Gwnaed ef yn CMG yn 1942 a derbyniodd radd LlD Prifysgol Cymru er anrhydedd yn 1950. Bu farw 11 Chwefror 1977 a chladdwyd ef ym meddrod ei deulu yn mynwent y Garn, o fewn lled cae i Bronceiro, y tŷ lle y treuliodd ei febyd a'i flynyddoedd olaf.

Cyhoeddiadau: History of the British Cemetery at Bilbao (Horace Young), ‘The later history 1891-1933’, 1933; Rousille neu y tir yn darfod (René Bazun), 1933; Report on economic conditions in Mexico, November 1933, HMSO, Llundain, 1934; Rubaíyát Omar Khayyám: trosiad Cymraeg o gyfieithiad adnabyddus Edward FitzGerald, 1939; Marwnad a ysgrifennwyd mewn mynwent wledig (Thomas Gray), 1942; Taith o amgylch fy ystafell (Xavier de Maistre), 1944; La Paz (albwm ffotograffau), 1948; In and around the Valley of Mexico, 1953; Y Campwaith Coll a straeon eraill (Balzac), 1954; Y Brawd (Henri Troyat), gyda Rhiannon Davies, 1959; Sajama, teithiau ar ddau gyfandir, 1960; Platero a minnau (J. R. Jiménez), gyda E. T. Griffiths, 1961; Illimani yn nhiroedd y gorllewin, 1964; Geiriau diddorol y Beibl, 1965, 1966; Y meirw ar y mynydd (Henri Troyat), gyda Rhiannon Davies, 1965; Y llyfryn poced gwyrdd a straeon eraill (Henri Troyat), 1967; Pan gwympodd y mynydd (F. Ramuz), gyda Gwenda Thompson, 1968; nifer o ysgrifau llenyddol mewn amryw o gylchgronau. Hefyd (gydag E. T. Griffiths) drosiadau o nifer o ganeuon ar gyfer cystadlaethau'r Eisteddfod Gendlaethol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-09-06

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/