Ganwyd Dafydd ap Thomas ar yr 28ain o Fai 1912 yn fab i'r Parchedig W. Keinion Thomas ai wraig Jeannete Thomas, Porthaethwy. Ef oedd yr ieuengaf o'u pum mab, Gwyn, Alon, Iwan a Jac, a chawsant chwaer ieuengach, Truda. Cafodd ei addysg gynradd yn y cartref, ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Biwmares ac yna Coleg y Brifysgol, Bangor, lle y graddiodd gydag anrhydedd mewn Hebraeg ac Ieithoedd Semitaidd yn 1934. Graddiodd yn M.A. mewn Diwinyddiaeth o Goleg Mansfield, Rhydychen, ac enillodd B.D. ym Mhrifysgol Llundain. Yn 1937 aeth i Brifysgol Berlin gan fwriadu paratoi traethawd ar gyfer doethuriaeth, ond blwyddyn yn unig a arhosodd yno, gan fod cymylau rhyfel rhwng yr Almaen a Phrydain yn crynhoi ac yntau'n teiml atgasedd at y natsïaeth a welai'n tyfu.
Yn 1938 fe'i penodwyd yn ddarlithydd mewn Hebraeg yn ei hen goleg ym Mangor, ac yn y man yn Uwchddarlithydd ac yno yr arhosodd hyd ei ymddeoliad yn 1977. Ar ôl priodi gyda Menna Davies, merch y Parchedig George a Mrs Marianne Davies, Bryn Bowydd, Blaenau Ffestiniog ym 1940, ymgartrefodd y ddau yng nghyffiniau Bangor a Phorthaethwy. Cawsant ddau o blant, mab, Keinion, a merch, Marian. Treuliodd gyfnodau byr o Fangor - fwy nag unwaith yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Toronto, ac am flwyddyn yn gwneud gwaith archaeolegol yng ngwlad Canaan.
Ar hyd y blynyddoedd cyhoeddodd draethodau ac astudiaethau mewn cylchgronau ysgolheigaidd. Ei gyfraniad pennaf i'w faes oedd cyfieithu astudiaethau pwysig o'r Almaeneg i'r Saesneg, cyfrol o draethodau Martin Noth (The Laws and the Pentateuch and other studies, 1961) ac un arall o draethodau Otto Eissfeldt. Ei gyfraniad gorchestol oedd cyfieithu o'r Norwyeg waith mawr ac arloesol Sigmund Mowinckel The Psalms in Israel's worship (2 gyfrol, 1962, a 2004). Cyhoeddodd hefyd Primer of Old Testament text criticism (1947, arg. diwygiedig 1964) a gyda Gwilym H. Jones, Gramadeg Hebraeg y Beibl (1976). Ef oedd golygydd y gyfres o lyfrau 'Beibl a Chrefydd' a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1976 a 1990. Bu'n Ysgrifennydd gweithgar a brwdfrydig i'r gymdeithas broffesiynol Brydeinig, Society for Old Testament Study o 1961 i 1972, a bu'n Llywydd iddi yn 1974. Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo dan olygyddiaeth Gwilym H. Jones yng nghyfres Efrydiau Beiblaidd Bangor (rhif 2) yn 1977.
Byddai'n pregethu'n gyson ar y Suliau, a bu am gyfnod, 1944-51, yn Weinidog Lleyg i gapel Hirael, Bangor. Gweithredodd am flynyddoedd, 1947-78, yn Ysgrifennydd Coleg Bala-Bangor. Yr oedd yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1979 a thraddododd anerchiad o'r gadair ar 'Yr Hen Destament Newydd'. Bu'n aelod ar hyd y blynyddoedd o banel cyfieithu'r Hen Destament i'r Beibl Cymraeg Newydd, ac am gyfnod yn Gadeirydd i'r panel.
Yn fyfyriwr ifanc yr oedd yn chwaraewr tennis brwdfrydig ac yn sgïwr penigamp. Yr oedd yn eithriadol fedrus ei law, yn gallu trin offer a pheiriannau, gan gynnwys edrych ar ôl ei gar heb alw am wasanaeth peiriannydd.
Bu farw ar Fai 19, 2011, a chladdwyd ei lwch gyda'i briod Menna (a fu farw yn Awst 2004) ym Mlaenau Ffestiniog.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-03-27
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.