Ganwyd ym Mangor 25 Medi 1856, yn fab hynaf i Robert Hughes Thomas, prif ôf chwarel y Penrhyn, a'i wraig Elinor. Bu'n ddisgybl-athro dan T. Marchant Williams, yna aeth tua 1872 i Fanceinion fel cyfrifydd mewn swyddfa. Codwyd ef i bregethu yng nghapel Garside Street, yna bu yng ngholeg annibynnol y Bala dan M. D. Jones pryd y mabwysiadodd yr enw ychwanegol 'Ceinion' (wedi hynny, 'Keinion'). Dyma restr ei ofalaethau: Garisim a Pheniel, Llanfairfechan (1879); Siloh a Moriah y Felinheli (1900) Pentraeth, Penmynydd, Llanfair a Phorthaethwy (1910); Biwmaris (1922-32).
Priododd ddwywaith: a Ruth ym (1889, a bu iddynt ddau fab, Garth a Robert Tibbot Kerris, ac ym 1902 priododd Jannette Spencer, a bu iddynt bum mab Gwyn, Alon, Iwan, Jac a Dafydd Rhys, ac un merch, Truda.
Credai y dylai pob gweinidog feddu rhyw grefft, a dewisodd ef newyddiadura. Ar ôl marw'i gyfaill ' J.R. ' (John Roberts (1804 - 1884), golygodd y Cronicl (1885-1910) gyda chymorth ' S.R. ' (Samuel Roberts) i ddechrau, yna gyda M. D. Jones, mewn enw, am ysbaid; ef hefyd a olygodd Y Celt (1885-1901). Ysgrifennodd ar ' S.R. ' yng nghyfres Y Tadau Anibynnol (L. D. Jones, 1898), ond ar wahan i englynion achlysurol a'i newyddiadura, ychydig arall a ysgrifennodd. Teithiodd gryn dipyn i gasglu ffeithiau ar ' Newyn y Tatws ' ac Ymreolaeth Iwerddon, y Llydawyr, a gwledydd y Beibl, ac yr oedd yn enwog am ei ddarlithiau ar ffurf ddramatig. Un o'r darlithiau hyn a dalodd gostau achos Arglwydd Penrhyn yn erbyn Y Celt. Bu'n ysgrifennydd coleg Bala-Bangor (1 913-32). Ef hefyd a gychwynnodd y ' Chapel Sites Bill ', yn herwydd perygl colli capel Ebenezer Llanfair-pwll.
Bu farw 5 Awst 1932, a chladdwyd ym mynwent eglwys Penmynydd. Dadorchuddiwyd tabled goffa iddo yn Seion Biwmaris yn 1937. Gwr cadarn o gorff ac o argyhoeddiad ydoedd, cwmnïwr diddan, a gwr a berchid hyd yn oed gan ei wrthwynebwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.