Fe wnaethoch chi chwilio am Edward Lhuyd

Canlyniadau

BARNES, WALLEY (1920-1975), pêl-droediwr.Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden

Enw: Walley Barnes
Dyddiad geni: 1920
Dyddiad marw: 1975
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pêl-droediwr
Awdur: Richard E. Huws

Ganed 16 Ionawr 1920 yn Aberhonddu, lle'r oedd ei dad, Y Sarsiant Edward ('Teddy') Barnes yn gwasanaethu gyda Chyffinwyr De Cymru (South Wales Borderers). Ganed Teddy a'i wraig Joyce (née Plummer) yng ngogledd Llundain. Walley Barnes oedd y trydydd o'u pedwar plentyn, a'r unig un i'w eni yng Nghymru. Ganed Edward a John yn Lloegr, a ganed Pearl, ei unig chwaer yn yr India, lle symudodd y teulu ym 1924. Mynychodd y Walley Barnes ifanc a'i frodyr yr ysgol yn Lebogh, gwersyll milwrol mynyddig ger Darjeeling lle bu'r teulu fyw mewn barics i deuluoedd tan Mai 1928. Yr oedd Teddy Barnes yn hyfforddwr addysg gorfforol yn y fyddin, pêl-droediwr da, ac a fu yn ei ieuenctid yn ymladd mewn gornestau bocsio yn Lerpwl yn erbyn paffwyr Cymreig nodedig fel Johnny Basham (1880-1947), “Peerless Jim” Driscoll (1880-1925) a Jimmy Wilde (1892-1969). Ymsefydlodd y teulu ym mhen hir a hwyr yn Gosport, swydd Hampshire ym 1932, lle'r arwyddodd Walley ffurflenni amatur gyda Southampton ymhen amser, wedi i'w dad symud i Hampshire i gymryd swydd sifil fel athro ymarfer corff yng Ngholeg Price, Fareham.

Tynnodd talentau Walley Barnes fel cefnwr sylw'r prif glybiau'n fuan, ac arwyddodd i Arsenal ym Mehefin 1943, ac yn ystod blynyddoedd y rhyfel chwaraeodd ym mhob safle i'r clwb heblaw am safle'r canolwr blaen. Cychwynnodd ei gêm gyntaf lawn yn erbyn Preston North End ar 9 Tachwedd 1946, ychydig wythnosau cyn ei ben-blwydd yn 26ain. Sefydlodd yn fuan i fod yn gefnwr rheolaidd yn nhîm y gynghrair, gan ennill medal y bencampwriaeth yn ogystal â'r cyntaf o'i 22 cap i Gymru yn ystod tymor 1947-48. Bu'n gapten Cymru ym 1948-50 yn ychwanegol at ennill medal y bencampwriaeth. Chwaraeodd i dîm buddugol Arsenal am y cwpan ym 1950, a hefyd ym 1952 pan drechwyd hwy 0-1 gan Newcastle United, ond cafodd anaf difrifol a orfu iddo adael y cae, mewn cyfnod cyn cyflwyno eilyddion. Effeithiodd yr anaf yn ofnadwy ar ei yrfa am 16 mis, ac wedi iddo ail-ddechrau chwarae, ymddangosodd yn anamlach. Gorfodwyd iddo ymddeol erbyn 1956.

Chwaraeodd gyfanswm o 267 gêm cynghrair i'r tîm cyntaf yn ystod ei yrfa yn Arsenal, a gwneud 25 ymddangosiad ychwanegol mewn gemau Cwpan yr FA, gan sgorio cyfanswm o 12 gôl. Chwaraeodd 395 gêm i Arsenal i gyd, os cyfrifir gemau cyfeillgar a'i gemau fel chwaraewr wrth gefn.

Ymunodd a staff y BBC wedi iddo ymddeol o bêl droed. Sefydlodd hefyd y cyntaf o ddwy siop chwaraeon llwyddiannus ym 1950. Yn y BBC bu'n sylwebu gyda Kenneth Wolstenholme (1920-2002) ar y rhifyn cyntaf o'r rhaglen Match of the Day, a ddarlledwyd ar BBC2 ar 22 Awst 1964. Cynorthwyodd Wolstenholme hefyd gyda sylwadau achlysurol yn ystod ei sylwebaeth o fuddugoliaeth Lloegr yn erbyn Gorllewin yr Almaen yng Nghwpan y Byd yng Ngorffennaf 1966.

Priododd Joan Sutton (ganwyd 1923), athletwraig sirol, mewn priodas dawel yn Portsmouth ym 1941. Ganed Sandra eu hunig ferch yn Gosport, Swydd Hampshire ym 1942. Bu'r teulu'n byw yn ardal Palmers Green o ogledd Llundain wedi hynny, yn 216, Winchmore Hill Road yn gyntaf, cyn symud ym 1971 i 68 Park Drive, hefyd yn Winchmore Hill.

Bu Walley Barnes farw mewn ysbyty yn Llundain ar 4 Medi 1975 yn 55 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-10-23

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.