Ganed hi yn 43 Cardiff Street, Aberdâr o fewn Cwm Cynon ar 16 Medi 1882, yn ferch i William Henry Rees, gweithiwr alcam lleol, a'i wraig Fanny (gynt Berry). Roedd yn un o saith o blant, a daeth chwech ohonynt yn athrawon yn eu tro. Yn y flwyddyn 1896 daeth Rose Davies yn fonitor yn Ysgol Genedlaethol Tref Aberdâr, ysgol gynradd, ac yna bwriodd ei phrentisiaeth fel disgybl-athrawes yno, gan ddod yn ysgolfeistres gynorthwyol ar ôl hynny. Enillodd gyflog o £40 y flwyddyn yn y swydd hon. Er nad oedd aelodau'r teulu, mae'n ymddangos, yn arbennig o flaenllaw yn y byd gwleidyddol, treuliodd Rose Davies ei blynyddoedd ffurfiannol yn yr awyrgylch gwleidyddol arbennig a grëwyd gan y streic hir a chwerw yn y diwydiant glo ym 1898, ac yna gan etholiad Keir Hardie fel AS y Blaid Lafur Annibynnol dros Ferthyr Tudful yn etholiad cyffredinol 1900.
Digwyddodd ei deffroad gwleidyddol yng nghyd-destun ei safiad fel ffeminist o fewn proffesiwn yr athrawon. Ym 1906, ar ôl iddi fynychu un o gyfarfodydd etholiad Keir Hardie ym Merthyr Tudful, penderfynodd Davies ymuno â'r Blaid Lafur Annibynnol. Ym 1908 priododd ag Edward (Ted) Davies, yntau hefyd yn athro ac yn weithgar o fewn y mudiad cydweithredol lleol. Tua'r un adeg dewiswyd Rose Davies yn ysgrifennydd cyntaf Gild Cydweithredol y Merched yn Aberdâr, gan barhau yn y swydd hyd nes i bwysau gwaith ei gorfodi i ymddiswyddo ym 1920. Ymddiswyddodd hefyd fel athrawes adeg ei phriodas, ond yn fuan iawn cafodd ei chyfethol fel aelod o Bwyllgor Addysg Cyngor y Dref yn Aberdâr. Yna ychydig yn ddiweddarach daeth yn aelod o fwrdd llywodraethwyr y ddwy ysgol ramadeg yn y dref. Erbyn 1915 Rose Davies oedd cadeirydd y pwyllgor addysg leol, ac yn fuan datblygodd ddiddordeb arbennig mewn darparu cyfleusterau addysg ar gyfer disgyblion dall a'r rhai oedd yn fud a byddar. Yna plant a oedd ag anableddau dysgu neu gorfforol oedd o ddiddordeb pennaf iddi. Ganed y cyntaf o'i phum plentyn hithau ym 1910.
Trwy gydol y cyfnod ffurfiannol hwn, ynghyd â'i gŵr Ted, daeth Rose Davies yn gyfeillgar iawn gyda Keir Hardie AS, a hynny'n wleidyddol ac yn bersonol, a bu'r ddau ohonynt yn cynorthwyo ei ymgyrchoedd lleol yn y ddau etholiad cyffredinol a gynhaliwyd ym 1910. Bu helbulon blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfrifol am ei gwthio i dderbyn cyfrifoldebau cyhoeddus pellach, gan gynnwys aelodaeth o'r Tribiwnlys Gwasanaeth Milwrol lleol. Erbyn 1918 etholwyd hi yn gadeirydd Cyngor Masnach a Llafur Aberdâr, y wraig gyntaf i esgyn i'r safle hwn, ac ym 1920 dewiswyd hi yn Ynad Heddwch. Ym 1919 safodd Davies yn aflwyddiannus fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer ward tref Aberdâr o Gyngor Dinesig Aberdâr, ond cafodd ei hethol i gynrychioli ward y Gadlys, ardal fwy dosbarth gweithiol ei natur, yn y flwyddyn ganlynol. Yn ystod ei hymgyrchoedd etholiadol lleol bu'n pwysleisio'r angen am well gwasanaethau genedigaeth a dulliau o atal cenhedlu. Ym 1925 etholwyd Davies yn gynghorydd Llafur ar gyfer ward Aberaman (Aberdâr) o Gyngor Sir Forgannwg - y ferch gyntaf erioed i ddal sedd ar y cyngor. Yn fuan etholwyd hi yn henadur y cyngor. Rhwng 1919 a 1926 bu hi hefyd yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Gymreig y Bwrdd Iechyd, corff a ddiddymwyd gan Neville Chamberlain pan yn Weinidog Iechyd ym 1926.
Yn ystod y 1920au cynnar bu Davies yn flaenllaw yn yr ymgais i sefydlu trefniadaeth y Blaid Lafur o fewn etholaeth seneddol newydd Aberdâr, a hi a etholwyd yn ysgrifenyddes gyntaf Cyngor Ymgynghorol Merched Llafur Dwyrain Morgannwg. Daeth yn frwd ei chefnogaeth i addysg wleidyddol fwy pellgyrhaeddol i ferched. Daeth hefyd yn weithgar o fewn Urdd Gydweithredol y Merched, rhychwant eang o fudiadau heddwch y 1920au, a nifer o fudiadau merched ledled Cymru. Bu hi hefyd yn cymryd rhan flaenllaw yn paratoi'r gofeb heddwch uchelgeisiol oddi wrth ferched Cymru i ferched yr Unol Daleithiau. Daeth Davies yn edmygydd mawr o safiad a gweithgarwch George M. Ll. Davies.
Yn etholiad cyffredinol hollbwysig 30 Mai 1929, safodd Rose Davies fel yr ymgeisydd Llafur cyntaf erioed ar gyfer etholaeth Honiton, swydd Dyfnaint, ardal arbennig o anaddawol i'r achos Sosialaidd, a 915 o bleidleisiau'n unig a enillodd yno, 2.6 y cant o'r cyfanswm, ac yn unol â'r disgwyl, collodd ei hernes yno. Roedd amryw yn yr ardal o'r farn i nifer o Sosialwyr o fewn yr etholaeth bleidleisio'n dactegol i'r ymgeisydd Rhyddfrydol yn yr etholiad sef J. G. H. Halse. Eto i gyd, gan amlygu doethineb ac optimistiaeth eithriadol, ymfalchïai mewn 'hau'r hadau' mewn tiriogaeth mor anaddawol i'r Blaid Lafur.
Parhaodd Davies yn ffigwr cyhoeddus blaenllaw o fewn Aberdâr a Sir Forgannwg drwy gydol gweddill ei bywyd. Ym 1925 dewiswyd hi yn llywodraethwr Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd. Roedd hefyd yn amlwg yng ngweithgareddau'r Gymdeithas Goffa Genedlaethol Gymreig. Bu'n gadeirydd yn ei thro ar bob pwyllgor Cyngor Sir Morgannwg, ac yn ddiweddarach etholwyd hi yn gadeirydd ar y cyngor. Yn dilyn marwolaeth ei gwr ym 1951 daeth yn fwy gweithgar fyth ym mywyd cyhoeddus yr ardal. Ei diddordeb mawr erbyn hynny oedd yr ymgyrch i sefydlu ysgol arbennig ar gyfer plant mud a byddar ym Mhenarth yn y 1950au. Roedd yn mynychu nifer aruthrol o gyfarfodydd cyhoeddus yn Aberdâr a Chaerdydd, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus leol yn ddi-ffael, a bu hefyd yn teithio ar y trên i fynychu cyfarfodydd gwleidyddol a chyhoeddus mewn dinasoedd llai cyfleus fel Birmingham a Manceinion. Dyfarnwyd iddi'r MBE ym 1934 a'r CBE ym 1954.
Bu farw 13 Rhagfyr 1958 yn yr Inffirmari Brenhinol, Caerdydd, yn 76 mlwydd oed, a chafodd angladd cyhoeddus eithriadol o barchus yn eglwys St Elvan, Aberdâr, gyda nifer fawr yn bresennol 17 Rhagfyr, gydag amlosgi'n dilyn yng Nglyn Taf, Pontypridd. Cyflwynwyd teyrngedau hynod o hael i'w chyfraniad eithriadol i fywyd cyhoeddus yr ardal.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-09-18
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.