ENOCH, SAMUEL IFOR (1914-2001), gweinidog (Presbyteriaid) ac athro diwinyddol

Enw: Samuel Ifor Enoch
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 2001
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Presbyteriaid) ac athro diwinyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Tudno Williams

Ganwyd Ifor Enoch yng Nghiliau Aeron, Ceredigion, 26 Rhagfyr 1914, yn un o dri mab y Parch. J. Aeronydd Enoch (Annibynwyr) a Jennie Enoch. Fe'i magwyd yng Nglan y Fferi, Sir Gaerfyrddin, lle mynychai'r tri brawd Ysgol Sul y Methodistiaid Calfinaidd. Graddiodd mewn Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe yn 1937 cyn symud i Goleg Westminster, Caergrawnt, ar ôl ennill Ysgoloriaeth Lewis a Gibson, a graddiodd mewn Diwinyddiaeth yno. Wedi blwyddyn o ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Bala derbyniodd alwad yn 1941 i fugeilio Eglwys Saesneg Trinity Aberdâr. Yn 1948 parhaodd â'i astudiaethau yn y Testament Newydd yn Union Theological Seminary, Efrog Newydd, lle daeth o dan ddylanwad yr ysgolhaig adnabyddus, F.C. Grant. Fe'i hapwyntiwyd i lenwi Cadair y Testament Newydd yn y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth, yn 1953, a dewiswyd ef yn Brifathro yn 1963. Ymddeolodd o'i swydd yn 1978.

Bu'n Ddeon Cyfadran Ddiwinyddol Prifysgol Cymru 1971-74, a chymerodd ran amlwg ym mhwyllgorau'r Brifysgol ac yn arbennig yng ngweinyddiad Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Yn weinyddwr wrth reddf, bu'n ddiwyd iawn yn ei ofal am bob agwedd ar weithgarwch a chynhaliaeth y Coleg Diwinyddol. Roedd yn ddarlithydd cymeradwy gan ei fyfyrwyr, gan feithrin perthynas dda a chyfeillgar â hwy ar hyd y blynyddoedd.

Am flynyddoedd llwyddodd i gynnal dosbarthiadau hynod boblogaidd yn siroedd Ceredigion a Maldwyn o dan nawdd Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol. Yn 1966 traddododd y Ddarlith Davies ar 'The Jesus of Faith and the Dead Sea Scrolls', a Darlith Pantyfedwen ar 'Jesus in the Twentieth Century' yn 1979. Cyhoeddwyd y ddwy ddarlith yn llyfrynnau. Ymddangosodd ei addasiad o Esboniad yr Athro David Williams ar Ail Epistol Paul at y Corinthiaid yn 1966. Bu'n aelod o Banel Cyfieithu'r Testament Newydd a'r Apocryffa ar gyfer y Beibl Cymraeg Newydd o gychwyn y gwaith yn 1964 hyd ei gyhoeddi'n gyflawn yn 1988. Pregethai'n gyson yng nghapeli Cymru benbaladr gan bwysleisio'r angen i'r eglwys gyflwyno neges gymdeithasol gref i'w hoes, ac yn enwedig yr angen iddi ddangos consyrn am dlodion 'y Trydydd Byd'.

Priododd Margaret Mary (Peggy) O'Connor, gwraig o Iwerddon ym 1953, bu hi farw o'i flaen yn y flwyddyn 2000. Mabwysiadodd y ddau fab a merch, Desmond John a Helen Margaret. Bu Ifor Enoch farw yn Aberystwyth ar 10 Mehefin, 2001, ac amlosgwyd ei gorff yn yr amlosgfa leol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-01-21

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.