EVANS, WILLIAM EMRYS (1924-2004), banciwr a ffilanthropydd

Enw: William Emrys Evans
Dyddiad geni: 1924
Dyddiad marw: 2004
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: banciwr a ffilanthropydd
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Dyngarwch
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd Emrys Evans 4 Ebrill 1924 yn fab i Richard a Mary Elizabeth Evans, Maesglas, Y Foel, sir Drefaldwyn. Gadawodd Ysgol Sir Llanfair Caereinion yn 1941 a mynd i weithio gyda Banc y Midland (yn awr HSBC). Flwyddyn yn ddiweddarach ymunodd â'r Llynges Frenhinol lle y gwasanaethodd yn negesydd radio; yr oedd ymhlith grwp bychan o wyr a laniodd yn Normandi ddiwrnod cyn Diwrnod-D i adrodd ar safleoedd y gelyn ac i gynorthwyo'r llongau yn yr ymosodiad ar arfordir Ffrainc. Un o'r ychydig a oroesodd o'r grwp bychan hwnnw oedd Evans a enwyd mewn cadlythyrau.

Yn 1946 dychwelodd Evans i weithio ym Manc y Midland lle y cafodd yrfa lwyddiannus dros y deugain mlynedd nesaf. Symudodd yn gyflym o weithio ar y cownter yng nghanghennau'r banc yng Nghymru i'r brif swyddfa yn Llundain. Penodwyd Evans yn Rheolwr Cyffredinol Cynorthwyol (Amaethyddiaeth) yn 1967, Cyfarwyddwr Rhanbarthol De Cymru yn 1972, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru yn 1974 a Chyfarwyddwr Rhanbarthol Hyn Cymru o 1976 hyd ei ymddeol yn 1984. Er gwaethaf ei ddyletswyddau trwm yn banc, gwnaeth amser i gynorthwyo llawer o sefydliadau Cymreig. Cefnogodd gyflwyno sieciau dwyieithog a bu'n aelod o Gyngor yr Iaith Gymraeg rhwng 1973 a 1978. Yr oedd economi Cymru o ddidordeb arbennig i Evans ac yr oedd yn gyfarwyddwr nifer o gyrff gan gynnwys Corfforaeth Ddatblygu Cymru, Bwrdd Ymgynghorol Datblygiad Diwydiannol Cymru a Bwrdd Datblygu Cymru Wledig.

Yn ystod ugain mlynedd ei ymddeoliad bu Evans yn aelod gweithgar o nifer o sefydliadau elusennol a rhai eraill yn gysylltiedig â'r economi, meddygaeth ac addysg yng Nghymru. Yr oedd yn arbennig o awyddus i wella cyfloedd gwaith ieuenctid yn rhannau Cymraeg Cymru ac fel cadeirydd datblygodd Menter a Busnes i ddarparu'r gefnogaeth angenrheidiol. Yr oedd hefyd yn gadeirydd Sefydliad Addysg Menter a Busnes ac o'r Pwyllgor Materion Economaidd a Diwydiannol Cymreig.

Yn rhannol oherwydd ei brofiad ei hun o afiechyd yr oedd Evans yn barod i gynorthwyo elusennau meddygol, gan gynnwys Uned Ymchwil Cancr Tenovus, Sefydliad yr Uned Ymchwil Arennau i Gymru ac Apêl Arch Noa i'r Ysbyty Plant i Gymru. Ac yntau'n 70 oed cododd arian i Tenovus trwy ymgymryd â thaith gerdded noddedig o Gaergybi i Gaerdydd. Tynnwyd Evans gan Brifysgol Cymru i weithredu ar ei phwyllgorau a bu'n drysorydd am gyfnod byr. Yr oedd ganddo gyswllt agos â Phrifysgol Cymru Abertawe o 1972 hyd 1996; bu'n gadeirydd y cyngor o 1982 ac yr oedd yn agos at James Callaghan, y cyn-brifweinidog a Llywydd y Coleg 1986-95. Gweithredodd hefyd ar Gyngor y Coleg Meddygol Cenedlaethol a Chyngor Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Ac yntau wedi'i eni ar fferm fechan yn sir Drefaldwyn yr oedd Evans yn arbennig o awyddus i gynorthwyo i hybu datblygiad amaethyddiaeth yng Nghymru. Bu'n aelod gweithgar o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru o 1973 a phan gafodd ei ethol yn gadeirydd y bwrdd rheoli yn 1999 rhoddodd gymorth pwysig i drechu'r argyfwng ariannol a gododd o effeithiau'r clwy traed a genau ar sioe genedlaethol 2001. Yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd yr oedd ynglyn â'r paratoadau i ddathlu canlwyddiant y Gymdeithas ond bu farw ar drothwy'r sioe flynyddol lle yr oedd i dderbyn medal aur y Gymdeithas. Ddiwrnod ei angladd yr oedd swyddfeydd y Gymdeithas ar gau yn arwydd o barch at wr a wnaethai gyfraniad sylweddol i'r Gymdeithas.

Yr oedd Evans yn Annibynnwr ffyddlon a bu'n drysorydd ac yn llywydd Undeb Annibynwyr Cymru. Addolai yng nghapel Ebeneser Caerdydd lle y bu'n ysgrifennydd am lawer o flynyddoedd. Ar sail ei waith i Undeb Annibynwyr Cymru gwahoddwyd ef i fod yn drysorydd Coleg Mansfield Rhydychen yn 1977 (a hyd 1995) a rhoes gyngor gwerthfawr pan gyflwynodd y coleg gais llwyddiannus am statws coleg cyflawn ym Mhrifysgol Rhydychen.

Yr oedd Evans yn godwr cronfeydd effeithiol y bu ei waith yn llesol i sefydliadau Cymreig bach a mawr. Yr oedd bob amser yn barod i deithio i unrhyw fan i geisio cyllid; yn gadeirydd pwyllgor cyllid yr Eisteddfod Genedlaethol aeth i Frwsel yn 1978 i geisio rhodd gyson gan y Comisiwn Ewropeaidd. A phan gâi ei wrthod ni fyddai'n digalonni ond troi ar unwaith at ffynhonnell bosibl arall o gefnogaeth. Elwodd dros hanner cant o sefydliadau Cymreig o'i frwdfrydedd, ei arbenigedd a'i egni. Bu'n Uchel Sirif De Morgannwg yn 1985-86 a derbyniodd LlD Prifysgol Cymru er anrhydedd yn 1983 a gwnaed ef yn C.B.E. yn 1981.

Dyn byr, cydnerth oedd Evans â sbectol trwm, bob amser yn drwsiadus ei wisg. Yr oedd yn bersonoliaeth gynnes, gyda llawer o hiwmor a goddefgarwch, a chanddo berthynas dda â phobl o bob plaid wleidyddol a phob rhan o fywyd. Am lawer o flynyddoedd bu Evans a'i wraig yn gyfeillion agos ag Arglwydd ac Arglwyddes Cledwyn gan fynd ar wyliau gyda'i gilydd yn fynych. Yr oedd yn anodd cyfarfod â neb ymhlith holl rychwant ei gyfeillion a'i gydnabod trwy Gymru a oedd â gair gwael am Emrys Evans. Cyfeirid ato yn gyffredinol, gydag anwyldeb, fel 'Evans Banc y Midland'. Er iddo brofi cryn afiechyd yn ei flynyddoedd olaf ymdrechodd i gadw ei ymrwymiadau.

Priododd Mair Thomas yn 1946 a chawsant un ferch. Yn Llundain y trigai Emrys a Mair Evans tra oedd ym mhrif swyddfa'r banc ond yna symud i dde Cymru yn 1972 gan ymgartrefu yn Ninas Powys mewn ty a enwyd ar ôl cartref ei fachgendod. Bu farw yn ei gartref 18 Gorffennaf 2004. Bu'r angladd yng nghapel Ebeneser, Stryd Siarlys, Caerdydd, 26 Gorffennaf a'i dilyn gan amlosgi yn Amlosgfa'r Ddraenen (Thornhill), Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-05-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.