Ganed ef ym Mhenyrheol, Gorseinon ar 27 Mehefin 1881, yn fab i William ac Alice/Ann Grenfell. 'Roedd hi'n ferch i William Hopkins. Roedd ei dad yn löwr a oedd yn wreiddiol o Flaenafon yn sir Fynwy. Yr unig addysg ffurfiol a dderbyniodd D. R. Grenfell yn gynnar yn ei fywyd oedd yn Ysgol Elfennol Penyrheol. Gadawodd yr ysgol yn ddeuddeg oed i gychwyn gweithio fel glöwr, ond daeth yn frwdfrydig dros fynychu dosbarthiadau nos rhwng 1900 a 1903 er mwyn astudio peirianneg glofeydd, daeareg a mathemateg. Treuliodd y blynyddoedd 1903-05 yn Nova Scotia, lle y gweithiodd gyda phobl o sawl gwlad ac felly gosododd sylfeini ei wybodaeth eang o ieithoedd. Yno hefyd yr enillodd ei dystysgrif fel rheolwr ym 1904. Ar ôl iddo ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig ym 1905, chwaraeodd ran yn suddo pwll glo'r Mountain, ac yna sicrhaodd swydd ym mhwll glo'r Llwchwr. Yno yr enillodd ei dystysgrif fel is-reolwr ym 1906 ac yna ei dystysgrif dosbarth cyntaf fel rheolwr yn y flwyddyn ganlynol.
Bu Grenfell ei hun yn dysgu mewn nifer o ddosbarthiadau nos rhwng 1907 a 1911, a phenodwyd ef yn asiant i'r glowyr ym 1916 ar gyfer Adran Orllewinol Rhanbarth De Cymru o Ffederasiwn y Glowyr yn dilyn marwolaeth William Morgan. Daeth hefyd yn weithgar o fewn y Blaid Lafur leol ym 1916, ac ym 1920 cafodd ei fabwysiadu yn ddarpar ymgeisydd ar gyfer etholaeth Gwyr. Aeth i'r senedd fel AS Llafur etholaeth Gwyr mewn isetholiad hollbwysig a gynhaliwyd yno ar 20 Gorffennaf 1920 yn dilyn marwolaeth John Williams AS. Yna llwyddodd i ddal ei afael ar yr etholaeth nes iddo ymddeol o'r Senedd ym 1959. Bu ei etholwyr bob amser yn deyrngar iddo, hyd yn oed adeg chwalfa'r Blaid Lafur ym 1931.
Gwasanaethodd Grenfell yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol yn ystod llywodraethau lleiafrifol Llafur 1924 a 1929-31, a daeth yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur yn Nhachwedd 1935. Yn ystod y 1930au roedd yn gefnogwr brwd i'r mudiad i geisio sicrhau penodiad Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, ond oedd ganddo unrhyw gydymdeimlad â chenedlaetholdeb Cymreig. Aeth i ymweld â Sbaen yn Nhachwedd 1936 yn ystod y Rhyfel Cartref yn y wlad honno fel aelod o ddirprwyaeth swyddogol o Aelodau Seneddol. Gwasanaethodd fel aelod o nifer mawr o bwyllgorau seneddol a chomisiynau, yn fwyaf arbennig y Comisiwn Brenhinol ar Ddiogelwch o fewn y Glofeydd ym 1936, ac roedd yn aelod o'r Pwyllgor Ymgynghorol Seneddol rhwng 1929 a 1945. Ef oedd yr unig AS o Gymru i wasanaethu ar y Cyngor Cenedlaethol Llafur ym 1939.
Grenfell oedd yr Ysgrifennydd Seneddol dros y Glofeydd yn ystod yr Ail Rhyfel Byd o Fai 1940 tan Fehefin 1942, cyfnod tyngedfennol iawn. Yma bu'n dadlau'n frwd dros genedlaetholi'r diwydiant glo, mater a gefnogodd eto ar ôl y rhyfel, yn enwedig o fewn ei gyfrol bwysig Coal (1947). Yn fuan daeth yn adnabyddus fel gweinidog arbennig o gydwybodol a atebai'r cwestiynau ychwanegol o fewn Ty'r Cyffredin gyda gofal a manylder eithriadol. Ond yr Uwch-gapten Gwilym Lloyd-George a ddewiswyd fel y gweinidog hyn i fod yn bennaeth ar Weinyddiaeth newydd Ynni a Phwer a ffurfiwyd adeg haf 1942. Mynegwyd cryn syndod pan na chafodd Grenfell unrhyw swydd o fewn llywodraeth Attlee ar ôl 1945, ond ar adegau roedd yn llawn abl i ddilyn trywydd annibynnol ar ambell bwnc. Yn gyffredinol, serch hynny, roedd yn deyrngar i lywodraeth Attlee ac i'w arweinydd. Gwasanaethodd Grenfell hefyd yn gadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig o 1935 (gan olynu Syr Henry Haydn Jones AS), ac roedd yn aelod o'r Bwrdd Twristiaeth Cymreig (Y Bwrdd Croeso) o 1948 tan 1951. Ym 1951 hefyd daeth Grenfell yn aelod o'r Cyfrin Gyngor. Ef oedd Tad y Ty Cyffredin rhwng 1953 a'i ymddeoliad ym 1959.
Ystyriwyd ef bob amser yn unigolyn o ddaliadau cadarn ac yn ddadleuwr medrus o fewn y Ty Cyffredin. Cyndyn ydoedd i ymddeol o'r senedd ym 1959, ond rhoddwyd pwysau cynyddol arno gan y Blaid Lafur leol ym mro Gwyr. Ni fynnai fynd i Dy'r Arglwyddi chwaith. Daliodd Grenfell swyddi mewn nifer o gyrff lleol, a gwnaethpwyd ef yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus tref Abertawe oherwydd ei gyfraniad i wasanaethau cyhoeddus. Mae penddelw ohono'n sefyll yn Neuadd y Ddinas yn Abertawe.
Gwnaethpwyd ef yn CBE ym 1935 a dyfarnwyd iddo radd LlD er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1958 i gydnabod ei waith cyhoeddus helaeth. Gwnaed ef yn Chevalier de la Légion d'Honneur yn ogystal ym 1953. Roedd Grenfell yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Roedd yn feistr ar y Saesneg, y Gymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg ac roedd ganddo grap ar Rwsieg hefyd. Roedd yn awdur dwy gyfrol sef Industrial Planning (1935) a Coal (1947), gwaith a thros 200 o dudalennau ynddo a gyhoeddwyd gan Gwmni Cyhoeddi Gollancz.
Priododd ym 1905 Beatrice May, merch John Morgan, Gorseinon. Bu iddynt un ferch Eileen a fu'n ddibriod. Roedd Beatrice Grenfell ei hun yn YH dros Sir Forgannwg. Bu hi farw tua 1970. Roedd y ddau ohonynt fel ei gilydd yn aelodau gweithgar o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Cartref y teulu oedd 'Ardwyn', Ffordd Camglas, y Sgeti ger Abertawe. Bu farw D. R. Grenfell ar 21 Tachwedd 1968 yn 87 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Brynteg, Gorseinon. Cyflwynwyd ei bapurau i ofal Archif Maes Glo De Cymru, Llyfrgell Prifysgol Abertawe.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-02-27
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.