JACKSON, Sir CHARLES JAMES (1849-1923), gwr busnes a chasglwr

Enw: Charles James Jackson
Dyddiad geni: 1849
Dyddiad marw: 1923
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwr busnes a chasglwr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Diwydiant a Busnes; Cyfraith; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd ef yn Nhrefynwy 2 Mai 1849, y fab i James Edwin Jackson (neu, weithiau, Edwin James Jackson) a Mary Ann Bass. Yn fab i adeiladydd blaenllaw yn Nhrefynwy yr oedd James Jackson wedi ymuno â chwmni ei dad yn ifanc. Tua 1860 symudodd Jackson i Gaerdydd a daeth ei fab yntau, Charles, yn adeiladydd gyda'i dad. Cynlluniai a chodai'r tad a'r mab adeiladau gan ganiatáu i Charles Jackson ei ddisgrifio'i hun yn bensaer. Sefydlodd y teulu fusnes lewyrchus yng Nghaerdydd a buddsoddi'n drwm mewn eiddo, yn arbennig eiddo masnachol.

Yn 1879 safodd Charles Jackson yn ymgeisydd annibynnol yn ward y Rhâth ar Gyngor Caerdydd ond ef a oedd ar waelod y bleidlais. Bu'n fwy llwyddiannus ar 1 Tachwedd 1882 pan etholwyd ef yn aelod Ceidwadol Ward Dwyreiniol y cyngor. Cyflwynodd ei hun yn dalwr trethi uchaf y ward ac yn areithiau ei ymgyrch addawodd arbed arian i'r trethdalwyr. Cadwodd ei addewid pan berswadiodd y cyngor i gyhoeddi bondiau Corfforaeth Caerdydd ar log o 3% a gynhyrchodd ddigon o gyllid i ad-dalu benthygiadau'r cyngor ar log o 5%. Yn 1885 penderfynodd Jackson ddilyn gyrfa newydd yn fargyfreithiwr ac ymddiswydodd o'r cyngor yn 1887. Er na chafodd addysg brifysgol yr oedd Jackson yn efrydydd galluog ac enillodd wobrau yn ei ail a'i drydedd flwyddyn. Ymaelododd yn y Deml Ganol fis Ionawr 1888 a sefydlodd bractis ar Gylchdaith De Cymru ac fel bargyfreithiwr seneddol ar fesurau preifat. Gyda'i gefndir yn y byd adeiladu ymddangosai Jackson yn fynych mewn achosion adeiladu.

Yr oedd perchennog y Western Mail, Henry Lascelles Carr, wedi priodi Helen Sarah, chwaer hynaf Charles Jackson. Prynodd Carr y News of the World yn 1891 ac anfonodd ei nai, Emsley Carr, i Lundain yn olygydd y papur. Bu farw Helen Carr yn 1900 a Lascelles Carr yn 1902. Yr oedd Charles Jackson wedi buddsoddi yn y News of the World a gwnaed ef yn un o gyfarwyddwyr y papur yn 1893. Yr oedd yn byw yn Llundain erbyn 1901 ac olynodd Carr yn gadeirydd y papur. Byddai yn y wasg nosweithiau'r argraffu wythnosol gan roi cildyrnau o hanner coron i staff y cynhyrchu a'r dosbarthu i sicrhau eu bod yn dal trên y newyddiaduron. Parhaodd Charles Jackson yn gadeirydd y papur hyd ei farw. Bu Emsley Carr yn olygydd llwyddiannus a thrwy ei fuddsoddiad yn y News of the World ynghyd â'i feddiannau eiddo yn ne Cymru daeth Jackson yn wr cyfoethog.

Gwrthrychau arian oedd nwyd fawr Jackson. Astudiai'n fanwl ddaliadau gwaith arian amgueddfeydd a chasgliadau eglwysig a dinesig. Yn raddol adeiladodd ei gasgliad ei hun, llwyau yn arbennig, a chydnabyddid ef yn arbenigwr yn y maes. Darllenodd bapur ar 13 Chwefror 1890, i Gymdeithas yr Hynafiaethwyr ar y llwy a'i hanes; caniataodd y Frenhines Victoria i lwy haen arian y Coroniad gael ei harddangos yn y cyfarfod o'r Gymdeithas. Etholwyd Jackson yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr ymhen y flwyddyn. Tua 1886 dechreuodd Jackson baratoi hanes llestri arian Seisnig ond sylwodd nad oedd ar gael ddisgrifiad o'r nodau aur ac arian a chan hynny rhoes y gorau i'r hanes a dechrau llunio disgrifiad nodau. Cyhoeddwyd English goldsmiths and their marks yn 1905 a'i ddilyn gan An illustrated history of English plate ecclesiastical and secular yn 1911. Bu'r ddau lyfr yn ddylanwadol yn natblygiad efrydiau llestri arian. Cyhoeddwyd ail argraffiad o'r arweiniad i nodau yn 1921. Tybiai Jackson y deuai argraffiad pellach ar ôl ei farw ac yr oedd wedi datgan y dylai Llewelyn Davies, asiant ei feddiannau Cymreig, gynorthwyo yn y gwaith o baratoi argraffiadau yn y dyfodol gan ei fod wedi cynorthwyo Jackson gyda'r llyfrau cynharach. Ond nid ymddangosodd trydydd argraffiad yr arweiniad i nodau tan 1989 pan gafodd ei olygu gan Ian Pickford a'i gyhoeddi dan y teitl Jackson's silver and gold marks of England, Scotland and Ireland; argraffiad poced yn 1994.

Bu Charles Jackson yn briod ddwywaith. Disgrifir ei wraig gyntaf, Agnes Catherine Martin, yng nghofnodion Caerdydd cyfrifiad 1881 fel Prydeinwraig a anwyd yn Boulougne. Ei ail wraig oedd Ada Elizabeth Williams, a anwyd yng Nghaerdydd yn 1877, yn ferch i Samuel Owen Williams, pwyswr rheilffordd ac wedyn yn berchennog gwesty. Pan symudodd Jackson i Lundain bu'n byw gyda'i ail wraig yn Hampstead ac yn ddiweddarach yn 6 Ennismore Gardens, Knightsbridge.

Gwnaed Jackson yn farchog yn 1919 am ei wasanaeth i'r Groes Goch adeg y Rhyfel. Bu farw yn ei gartref 23 Ebrill 1923 a chladdwyd ef ym mynwent Putney Vale. Bu farw Ada Elizabeth Jackson, na wyddys llawer amdani, ar 10 Mehefin 1924 ac wedi gwasanaeth angladdol yn eglwys Brompton Place 12 Mehefin claddwyd hithau ym mynwent Putney Vale. Gadawodd gymynrodd o £5000 i Ysbyty Brenhinol Caerdydd er cof am ei gwr gyda chais ar i ward y plant gael ei adnabod fel 'Ward Syr Charles a'r Fonesig Jackson'.

Yr oedd gan Charles ac Ada Jackson dri o blant, Diana Daphne Beatrix, ganwyd yn 1901, a'r efeilliaid unwy, Charles Vivian a Derek Ainslie, ganwyd 23 Mehefin 1906. Ni fedyddiwyd yr un o'r plant gan fod Jackson yn credu y dylent benderfynu trostynt eu hunain. Enwyd Arglwydd Riddell, a olynodd Charles Jackson yn gadeirydd y News of the World, yn warcheidwad y plant pe bai'r fam yn marw yn eu hieuenctid. Bu Riddell, cyfreithiwr y Western Mail yn Llundain, yn gyfaill tros y blynyddoedd â theuluoedd Jackson a Carr.

Priododd Daphne Jackson ag Alan Holmes-Watson, swyddog yn y Dragoons Brenhinol, yn 1925. Bu ganddynt un ferch cyn i Holmes-Watson farw o effeithiau'r gwres 1 Awst 1931 tra'n gwasanaethu yn Campbellpore yn yr India. Priododd ei weddw Jack Mason ac fel ei mam, bu farw'n ifanc.

Yr oedd yr efeilliaid, Vivian a Derek, yn blant dawnus a chefnogodd eu tad hwy trwy ddarparu'r offer drudfawr yr oedd ei angen arnynt yn eu diddordebau gwyddonol. Graddodd Vivian Jackson o Goleg Oriel, Rhydychen a chafodd swydd yn astroffisegydd yn Imperial College, Llundain. Yn Hydref 1927 priododd Mary, merch Bertram Roberts, Saltaire ond byr fu'r briodas. Ei ail wraig, a briododd 19 Mehefin 1932, oedd Maria Stella Wynn, unig blentyn 5ed Barwn Newborough, a chawsant un plentyn. Lladdwyd Vivian Jackson yn St Moritz 30 Rhagfyr 1936. Yr oedd yng nghwmni Peggy Hopkins Joyce, actores Americanaidd, pan fynnodd ef gymryd awenau'r car llusg yn yr eira ond gwylltiodd y ceffylau a thaflwyd Vivian Jackson allan gan daro ei ben yn erbyn carreg gilometr. Amlosgwyd ef yn amlosgfa Golders Green 19 Ionawr 1938. Ymhlith y galarwr yr oedd y teulu, ychydig o gyfeillion ffasiynol a Llewelyn Davies.

Graddiodd Derek Jackson o Goleg y Drindod, Caergrawnt ond symudodd i Brifysgol Rhydychen lle y bu'n ddarlithydd o 1934 hyd 1937 ac yn Athro Spectromeg o 1947 hyd 1957. Ar gyfrif ei waith gwyddonol sylweddol etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1947. Priododd â Poppet, merch Augustus John, yn 1931. Ei ail wraig, a briododd yn 1936, oedd Pamela Freeman-Mitford, un o'r chwiorydd Mitford enwog; ysgarwyd hwy yn 1951. Janetta, cyn-wraig Robert Kee y llenor, oedd ei drydedd wraig ond diddymwyd y briodas yn 1956. Y bedwaredd wraig oedd Consuelo Regina Maria, cyn-wraig y Tywysog Ernest Ratibor Hohenloe Schillenfurst, a pharhaodd y briodas hon o 1957 hyd 1959. Y bumed wraig, o 1966 hyd 1968, oedd Barbara Skelton, a fu'n briod â'r ysgrifennwr Cyril Connolly. Priododd am y chweched tro, a'r tro olaf, yn 1968 â Marie-Christine, merch Barwn George Reille. Yr oedd gan Derek Jackson ferch o'i drydedd briodas. Wedi gyrfa nodedig yn wyddonydd a gyrfa lwyddiannus yn berchennog ceffylau rasio, bu farw Derek Jackson yn Lausanne 20 Chwefror 1982. Yn ystod ei flynyddoedd olaf câi fwynhad mawr yn gwylio Cymru'n chwarae rygbi ar y teledu.

Gadawodd Syr Charles Jackson ddwy gymynrodd bwysig mewn ymddiriedolaeth i'w blant: y cyfranddaliadau yn y News of the World a'r casgliad arian. Tra oedd Arglwydd Riddell yn warcheidwad i'r plant darbwyllodd ef farnwr i ganiatáu gwerthu rhan o'r cyfraniadau, gan ystyried, mae'n debyg, nad doeth ydoedd i'r ymddiriedolaeth ddal ei holl gyfranddaliadau yn yr un cwmni. Prynodd Riddell ei hun y cyfranddaliadau hyn a'u cyflwyno'n gymynrodd i deulu Carr. Digiodd hyn Derek Jackson a phenderfynodd werthu ei gyfranddaliadau yn 1969, a phan nad oedd teulu Carr yn fodlon talu mwy na phris y farchnad yr oedd Jackson yn hapus i ystyried cynnig uwch gan Robert Maxwell. Gofynnodd y teulu Carr i Rupert Murdoch eu cynorthwyo i drechu ymgais Maxwell i feddiannu'r papur; prynodd Murdoch gyfranddaliadau Jackson am bris boddhaol.

Dymuniad Syr Charles Jackson oedd cadw ei gasgliad arian yn un. Benthyciodd rai eitemau i Amgueddfa Victoria ac Albert a dichon ei fod wedi bwriadu ar un adeg i'r amgueddfa ddal y casgliad cyfan. Pan agorodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei hadeilad newydd yng Nghaerdydd cytunodd Jackson i fenthyca tua chant o eitemau, chwarter y casgliad, i'r amgueddfa. Yn raddol daeth rhagor o'r casgliad i Gaerdydd a phan drosglwyddwyd y casgliad pwysig o lwyau i'r Amgueddfa Genedlaethol yn 1947 unwyd y casgliad cyfan. Am y trigain mlynedd nesaf daliwyd y casgliad gan yr Amgueddfa Genedlaethol ond ym meddiant ymddiriedolaeth teulu Jackson. Yn 2001, gyda chymorth grantiau amrywiol, pwrcasodd yr amgueddfa hanner y casgliad ac erys yr hanner arall, sy'n dal ym meddiant yr ymddiriedolaeth deulu, dan warchodaeth yr amgueddfa.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-04-13

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.