Ganed yn Nolgellau 21 Ionawr 1834 a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Dolgellau a Phrifysgol Glasgow. Ymsefydlodd fel meddyg yn Nolgellau yn 1860 a gwasanaethu cylch eang o Gorris i Drawsfynydd: Ddydd Calan 1883 yr oedd ef a'i fab ymhlith y rhai a alwyd i gynorthwyo pan gafwyd damwain drên angheuol ar y Friog.
Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd cyhoeddus Dolgellau a dod yn arweinydd y Rhyddfrydwyr yn y dref a'r ardal. Ef oedd Llywydd cyntaf Cymdeithas Ryddfrydol Sir Feirionnydd a rhoddodd gymorth i Aelodau Seneddol Rhyddfrydol y sir, gan ddatblygu cyfeillgarwch agos â T. E. Ellis. Pan ffurfiwyd Cyngor Sir Meirionnydd yn 1889 penodwyd ef yn Gadeirydd; gwasanaethodd fel Ynad Heddwch, a bu'n gadeirydd cwmnïau dwr a nwy Dolgellau. Ymdrechodd i sicrhau'r llyfrgell rydd a agorwyd yn 1893. Bu hefyd yn feddyg i gymdeithasau cyfeillgar y dref.
Gweithiodd yn ddygn dros ddatblygiad addysg yn y cylch. Chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymdrech i sefydlu Ysgol Dr Williams i ferched, a bu'n gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol honno. Ar yr un pryd bu'n frwd o blaid datblygu Ysgol Ganolraddol y Bechgyn yn Nolgellau. Cefnogodd hefyd ddatblygiad achos Saesneg y Methodistiaid Calfinaidd a sylfaenwyd yn y dref yn 1878.
Bu farw 5 Chwefror 1900, gan adael gweddw a saith o blant - chwe mab ac un ferch. Bu dau o'i feibion, Hugh a John, hefyd yn feddygon yn Nolgellau.
Dyddiad cyhoeddi: 2012-05-02
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.