LEWIS, DAVID VIVIAN PENROSE, Barwn Cyntaf Brecon (1905-1976), gwleidydd

Enw: David Vivian Penrose Lewis
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1976
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd 14 Awst 1905, yn fab Alfred William ac Elizabeth Mary Lewis, Craiglas, Tal-y-bont-ar-Wysg, Brycheiniog. Addysgwyd ef yn Ysgol Trefynwy, hyd at 16 oed pan ymadawodd i weithio gyda'i dad, perchennog chwareli a marchnatwyr slag. Gwnaeth gyfraniad sylweddol i ddatblygiad gwedd chwarela'r busnes a ddaeth y fwyaf a'r fwyaf blaengar yng Nghymru.

Dangosodd Vivian Lewis ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth leol yn ieuanc pan gafodd ei ethol i Gyngor Dobarth Gwledig Aberhonddu yn 1938. Cafodd sedd ar Gyngor Sir Brycheiniog yn 1946 ac ymddiswyddodd o'i sedd ar y Cyngor Dosbarth yn 1949. Ceidwadwr oedd Lewis a bu'n Gadeirydd neu'n Llywydd amryw sefydliadau Ceidwadol lleol: cangen Geidwadol Tal-y-bont-ar-Wysg 1935-50; Cymdeithas Geidwadol Brycheiniog a Maesyfed 1947-51; Ceidwadwyr Ieuainc Brycheniog a Maesyfed 1949-56. Gwobrwywyd ei wasanaeth cyson i'r Blaid Geidwadol yn 1956 pan wnaed ef yn Gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig. Yr oedd hefyd yn adnabyddus yn y canolbarth ym myd chwaraeon, yn llywydd a chapten tim criced Crughywel a chwaraewr rygbi yn nhîm Y Fenni a XV Crawshay, a ffurfiwyd gan ei gyfaill y Capten Geoffrey Crawshay.

Yn ystod y 1950au cynnar gwrthwynebai'r llywodraeth Geidwadol y pwysau cynyddol i sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Creodd Churchill swydd Gweinidog tros Faterion Cymreig i'w dal gan yr Ysgrifennydd Cartref. Newidiodd Macmillan y trefniant hwn yn Ionawr 1957 pan benododd Henry Brooke yn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ac yn Weinidog Materion Cymreig. Tua'r un adeg argymhellodd Cyngor Cymru a sir Fynwy benodi Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru gyda grymoedd gweithredol tebyg i rai'r Ysgrifenydd Gwladol dros yr Alban. Cefnogwyd argymhelliad y Cyngor gan bleidau'r wrthblaid a nifer o Geidwadwyr Cymreig.

Ar 3 Rhagfyr 1957 gwrthododd y Cabinet adroddiad y Cyngor ond cytunodd i benodi Gweinidog Gwladol dros Faterion Cymreig ac i ddatblygu mesurau pellach o ddatganoli gweinyddol. Apwyntiwyd Vivian Lewis yn Weinidog Gwladol dros Faterion Cymreig ar 1 Rhagfyr a'i greu'n arglwydd etifeddol yn Farwn Brecon o Lanfeugan, swydd Frycheiniog, ar 30 Ionawr 1958. Mynegwyd y syndod a achosodd yr apwyntiad gan The Economist: “How an obscure Brecon county councillor, visiting London (in his tweed suit) for the University Rugger match, was called to Downing Street to be made a baron and a Minister of State, represents one of the most curious political appointments since Caligula made his horse a consul. Mr. Lewis, the gentleman concerned, has shown engaging frankness about the unexpectedness of his appointment; he owes it, of course, to the fact that he combines some Welsh mystique, and probably the organising ability that often accompanies that mystique, with the very rare attribute of also voting Conservative.”

Ar wahân i ddinodedd Lewis, gwrthwynebiadau eraill i'r gweinidog newydd oedd fod ei swyddogaeth yn annelwig ac nad oedd ganddo rym gweithredol. Yr oedd i gynorthwyo Brooke wrth gyflwyno datganoli penodol gorchwylion o'r llywodraeth ganolog ac yr oedd i'w leoli yng Nghaerdydd. Nid oedd y penodiad yn bodloni Cyngor Cymru a sir Fynwy a chyflwynodd adroddiad pellach 18 Ebrill 1958; mewn ymateb swta datganodd y Prif Weinidog nad oedd yn rhannu barn y panel - yn wir byddai'n destun syndod iddo ddeall fod mwyafrif pobl Cymru yn ei rhannu - fod swydd newydd Gweinidog Gwladol dros Faterion Cymreig yn un ddiwerth i Gymru.

Dechreuodd yr Arglwydd Brecon yn weinidog egnïol, yn arbennig mewn materion economaidd a diwydiannol. Yn ystod ei fis cyntaf yn ei swydd ymwelodd â gogledd Cymru dair gwaith. Ar y trydydd achysur ymgymerodd â dadansoddiad o'r problemau a wynebai'r diwydiant chwareli ac yn yr un diwrnod fe'i cafodd ei hun 1000 troedfedd i fyny mynydd yn Chwarel Dinorwig a 1000 troedfedd dan ddaear yn Chwarel Oakley ym Mlaenau Ffestiniog. Ychydig fisoedd ar ôl ei benodiad yr oedd Arglwydd Brecon yn ymwneud â sefydlu Corfforaeth Datblygu Cymru a lansiwyd ganddo ef a Syr Miles Thomas, cadeirydd y Gorfforaeth, ar 17 Medi 1958. Yr oedd y gorfforaeth yn gyfundrefn o ddiwydianwyr Cymreig yn rhydd rhag rheolaeth a chyllid y llywodraeth. Ychydig o sylw a achosodd y gweithgarwch yma a oedd yn adlewyrchu cefndir Brecon mewn diwydiant ond yr oedd yn llai sicr pan ymwnâi â materion diwylliant. Mewn ymateb i feirniadaeth gyhoeddus, cytunodd, pan gafodd ei benodi, nad oedd yn siarad Cymraeg er ei fod yn deall rhyw gymaint. Addawodd y byddai'n sicrhau y deuai'n fwy hyderus yn ei wybodaeth o'r iaith.

Penodwyd Arglwydd Brecon yng ngyd-destun y dadlau parthed Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a oedd wedi peri nifer o ymddiswyddiadau o Gyngor Cymru a Sir Fynwy a gwanhau'r corff o'r herwydd, a hefyd yng nghefndir y ddadl ynghylch Tryweryn. Y mae'n rhyfedd felly na ragwelodd y gwrthdystio a fyddiai'n codi yn sgil penodi Mrs Rachel Jones yn llywodraethwr Cymreig y BBC. Gwraig Deon Aberhonddu oedd Rachel Jones a oedd wedi treulio nifer o flynyddoedd yn Awstralia lle daliai ei gwr swyddi yn Perth; prin oedd ei gwybodaeth am faterion Cymreig na'r iaith Gymraeg. Yr oedd Deon Aberhonddu a'i wraig yn gyfeillion agos ag Arglwydd ac Arglwyddes Brecon. Bu ffrwgwd cyhoeddus enfawr ynghylch y penodiad a roes amser annifyr iawn i Brooke a Brecon a honnid yn gellweirus mai'r Brooke, Brecon Club a ddynodai BBC. Fel y digwyddodd, bu Mrs Jones yn gadeirydd effeithiol ar y Cyngor Darlledu i Gymru.

Gwasanaethodd Arglwydd Brecon yn Weinidog Gwladol i Henry Brooke 1957-61, Charles Hill 1961-62 a Keith Joseph 1962-64. Arhosodd yn y llywodraeth pan ddaeth Syr Alec Douglas-Home yn Brif Weinidog yn 1963. Gyda chynhorthwy Joseph, a chyda golwg ar arwisgo Tywysog Cymru, hybodd Arglwydd Brecon benodiad yr Uwch-gapten Francis Jones yn Herodr Arbenigol Cymru.

Pan adawodd ei swydd yn 1964 dychwelodd Arglwydd Brecon i fod yn un o gyfarwyddwyr Television Wales and the West Cyf., ymunodd â bwrdd Powell Duffryn a oedd wedi pwrcasu cwmnïoedd ei deulu yn Ionawr 1964 ac ymgymerodd â swyddi mewn cwmnïoedd eraill. Yr oedd yn un o'r pedwar comisiynydd dros Gymru a benodwyd i gynorthwyo Comisiwn y Cyfansoddiad wrth archwilio problemau rhanbarthol. O fis Rhagfyr 1972 hyd haf 1973 enwebwyd ef yn aelod o'r ddirprwyaeth Geidwadol i Senedd Ewrop lle y gwasanaethodd ar y pwyllgorau economaidd a thrafnidiaeth. Yn y Senedd codai gwestiynau ar faterion Cymreig. Yr oedd yn Gadeirydd Awdurdod Cenedlaethol Datblygu Dwr Cymru o 1973 hyd ei farw, cyfnod a gynhwysai haf eithriadol sych 1976. Yn ei swydd dibynnai'n drwm ar swyddogion yr Awdurdod.

Yr oedd Vivian Lewis yn ddyn egnïol gydag ymwybyddiaeth gref o ddyletswydd gyhoeddus, ond ni feddai ar bersonoliaeth eithriadol. Priododd Mabel Helen, ail ferch John McColville, Y Fenni, 19 Ebrill 1933 ac yr oedd ganddynt ddwy ferch. Bu farw yn ei gartref, Greenhill, Cross Oak, Aberhonddu, 10 Hydref 1976 a darfu ei farwniaeth. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol i'r teulu a phlwyfolion yn eglwys Llanfeugan 13 Hydref a'i ddilyn ag amlosgi. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yng nghadeirlan Aberhonddu 23 Hydref 1976 pan oedd John Morris, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a ffigurau blaenllaw yn y Blaid Geidwadol a bywyd cyhoeddus Cymru yn bresennol.

Yr oedd Arglwyddes Brecon (8 Mai 1910 - 4 Medi 2005) hithau'n weithgar ym mywyd cyhoeddus sir Frycheiniog. Olynodd ei gwr yn aelod o Gyngor Dosbarth Gwledig Aberhonddu a bu'n Ynad Heddwch ac yn Uchel Sirif y sir. Apwyntiwyd Arglwyddes Brecon yn CBE yn 1964 ar gyfrif ei gwasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus yng Nghymru.

Priododd eu merch hynaf Rosalind Helen Penrose (Lindy) Lewis (12 Medi 1938-8 Mehefin 1999) Leolin Price, bargyfreithiwr, ac yr oedd yn weithgar ym maes carchardai a charcharorion a hefyd addysg. Pan ddychwelodd i Frycheiniog bu'n flaenllaw ar lawer o gyrff iechyd. Bu Lindy Price hithau'n Uchel Sirif y sir ac apwyntiwyd hi'n CBE yn Rhagfyr 1993 ar gyfrif ei gwasanaeth i ofal iechyd yng Nghymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-04-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.