Ganed ef yn Aberdâr ar 17 Ionawr 1916, yn fab i Syr David Richard Llewellyn, Barwnig, perchennog pyllau glo a diwydiannwr, a Magdalene Anne (bu hi farw ym 1966), merch y Parch. Dr Henry Harries, gweinidog gyda'r Bedyddwyr o Dreherbert. Roedd ganddo dri brawd a phedair chwaer. Un o'i frodyr oedd Syr Harry Llewellyn, y dyn ceffylau enwog, capten y Tîm Neidio Ceffylau Prydeinig yn y Gemau Olympaidd ac aelod blaenllaw o'r Jockey Club.
Addysgwyd D. T. Llewellyn yn Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Ymunodd â'r fyddin ym 1939 a chafodd ei gomisiynu. Dringodd i safle capten yn y Gwarchodlu Cymreig a chymerodd ran yn ymgyrch Gogledd-Orllewin Ewrop ym 1944-45. Yn y cyfamser bu ei wraig Jo yn gyfrifol am gynnal Swyddfa Seiffr y Cabined Rhyfel. Roedd yn feistr argraffydd, yn newyddiadurwr a darlledwr ac yn aelod o Sefydliad y Newyddiadurwyr.
Ar ôl iddo sefyll yn Aberafan fel ymgeisydd Ceidwadol neu 'Genedlaethol' ym 1945 (lle llwyddodd i ennill mwy o bleidleisiau nag unrhyw Dori o'r blaen, a hynny mewn etholiad lle gwelwyd y Blaid Lafur yn profi buddugoliaeth ysgubol), gwasanaethodd fel AS Ceidwadol Gogledd Caerdydd, 1950-59. Yna penderfynodd ymddeol o Dy'r Cyffredin ar dir iechyd. Ei fwyafrif gwreiddiol yng Nghaerdydd oedd 2900 o bleidleisiau, ond llwyddodd Llewellyn i'w gynyddu ym mhob etholiad canlynol. Ef hefyd oedd aelod cyntaf mudiad Ceidwadwyr Ifanc Cymru a Mynwy. Bu'n is-ysgrifennydd o fewn y Swyddfa Gartref, 1952-53, gyda chyfrifoldeb arbennig dros faterion Cymreig, ond bu cychwyn dioddef o Glefyd Ménière's yn gyfrifol am ei benderfyniad i ddychwelyd i'r meinciau cefn, fel yr awgrymwyd ganddo cyn hynny oni welid gwellhad yn ei iechyd. Ond cynyddu a wnaeth yr afiechyd creulon. Cyn sefydlu'r Swyddfa Gymreig ym 1964, y Swyddfa Gartref oedd yn gyfrifol am reoli Materion Cymreig, ac roedd angen dybryd am ASau Torïaidd galluog, ifanc i wasanaethu yno. Dim ond tri AS Ceidwadol a etholwyd ledled Cymru ym 1950. Gan ei fod ar y meinciau cefn, roedd gan Llewellyn lawer mwy o ryddid i gymdeithasu gyda'r Aelodau Seneddol Llafur o Gymru yr oedd yn mwynhau eu cwmni gymaint.
Ar ôl iddo ddychwelyd i'r meinciau cefn, y farn cyffredinol am Llewellyn oedd ei fod yn aelod seneddol effeithiol o fewn ei etholaeth. Mewn llawer ffordd roedd yn Rhyddfrydwr hen-ffasiwn neu hyd yn oed yn wleidydd radical a deimlai braidd yn annifyr ar y meinciau Ceidwadol yn y Ty Cyffredin. Eto roedd yn gynnes ei gefnogaeth i 'ffordd ganol' Harold Macmillan o Geidwadaeth gorfforaethol. Roedd ef ei hun yn dueddol o ofidio oherwydd ei ddiffyg dawn areithio o fewn y Ty Cyffredin. Fel canlyniad anaml y cymerai ran mewn dadleuon yn y Ty. Hollol nodweddiadol ohono oedd y ffaith mai ar anghenion pensiynwyr yr oedd ei araith forwynol yn y Ty.
Roedd Caerdydd bob amser yn ganolog i'w orwelion gwleidyddol. Cymerai falchder eithriadol ei fod wedi gosod y cwestiwn i Gwilym Lloyd-George a arweiniodd at gadarnhad y byddai dinas Caerdydd yn derbyn statws 'prifddinas Cymru' ym 1955. Argymhellodd Harold Macmillan ef i'w urddo'n farchog yn rhestr anrhydeddau diddymiad y senedd ym 1960. Digiodd rhai o'i hen gyfeillion oherwydd ei benderfyniad i dderbyn yr anrhydedd hwn.
Yn dilyn ei ymddeoliad o fywyd gwleidyddol, trodd Llewellyn at ei gariad mawr arall, sef rasio ceffylau. O 1965 bron hyd at ei farwolaeth cyhoeddodd golofn wythnosol o fewn y cylchgrawn Sporting Life o dan y ffug-enw 'Jack Logan'. Roedd ganddo syniadau hollol bendant parthed rasio ceffylau. Cawsant gylchrediad eang gan ennill cryn barch. Ymhlith ei hoff syniadau personol yr oedd hawl merched i gael eu hyfforddi, cael gwared ar bostynnau concrid anniogel ar gyrsiau rasio, cyflog leiafswm ar gyfer y bechgyn a weithiai yn y stablau, a'r angen i'r gymuned rasio wisgo hetiau caled wrth rasio ceffylau y tu allan.
Fel gwr ifanc, ysgrifennodd gryn dipyn o farddoniaeth. Ac yntau'n fawr ei edmygedd o Aneurin Bevan, Llewellyn oedd awdur y cofiant Nye: the Beloved Patrician (1961), a hefyd The Adventures of Arthur Artfully (1974), a chyfrol o Racing Quotations (1988). Roedd hefyd yn llunio colofn reolaidd ar gyfer argraffiad Cymreig y Sunday People. Cyhoeddodd yn ogystal golofnau yn y Western Mail a'i chwaer bapur gyda'r nos, y South Wales Echo.
Priododd ar 18 Chwefror 1950 Joan ('Jo') Williams, ail ferch R. H. Williams, Ty Bonvilston, Tresiwn, ger Caerdydd, a bu iddynt ddau fab ac un ferch. Bu farw 9 Awst 1992 yn ei gartref yn Yattendon, Newbury, Berkshire yn dilyn salwch hir.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-07-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.