PUGH, WILLIAM JOHN (1892-1974), Cyfarwyddwr Arolwg Daearegol Prydain Fawr

Enw: William John Pugh
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1974
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Cyfarwyddwr Arolwg Daearegol Prydain Fawr
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Mary Auronwy James

Ganed William (Bill) Pugh ar 28 Gorffennaf 1892 yn Westbury, Swydd Amwythig, mab John Pugh (pensaer olwynion, masnachwr glo'n ddiweddarach a phregethwr lleyg adnabyddus) a'i ail wraig, Harriet. Aeth i ysgol y pentref yn Westbury, ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Sir y Trallwng, Trefaldwyn. Yn 1910 derbyniwyd ef i Goleg Prifysgol Cymru (CPC), Aberystwyth, lle cafodd radd BA (Daearyddiaeth, 1914). Mynychodd gwrs atodol mewn daeareg o dan yr Athro O. T. Jones, a chynorthwyodd i gwblhau map daearegol manwl o ardal Aberystwyth a rhan o aber afon Dyfi.

Yna gwasanaethodd yn y Rhyfel Mawr gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, yn gysylltiedig â General Staff yr 2ail a 4ydd Pencadlys y Fyddin y British Expeditionary Force yn Ffrainc, a Phencadlys Byddin Brydeinig Afon Rhein. Penodwyd ef yn OBE a dyfarnwyd iddo Croix de Guerre Ffrainc, wedi iddo gael ei enwi ddwywaith mewn cadlythyrau. Yr oedd yn uwchgapten pan ryddhawyd ef o'r fyddin.

Dychwelodd i GPC, Aberystwyth, a daeth yn Athro Daeareg (1919-31) i olynu O. T. Jones. Yr oedd yn Ddeon y Gyfadran Wyddoniaeth o 1929 hyd 1931. Yn ogystal â gweinyddu a chryfhau'r Adran Ddaeareg drwy benodi dau ddarlithydd i'w gynorthwyo gyda'r addysgu, aeth ati i astudio allan yn y maes yr hen greigiau Ordofigaidd-Silwraidd yn ardal Corris a'r Bala i lunio map o'r haenau yn nhrefn amser. Yr oedd ei ganfyddiadau'n drawiadol ac o flaen yr oes, gan wrthbrofi casgliadau a wnaed am rai o'r ardaloedd gan ymchwilwyr cynharach. Enillodd radd DSc Prifysgol Cymru yn 1928 am ei waith yn ardaloedd Corris, Aberllefenni, Dinas Mawddwy, Llanymawddwy, Llanuwchllyn a (yn gynharach, pan yn fyfyriwr, gydag O. T. Jones) o gwmpas Machynlleth a chwm Llyfnant. Cyhoeddodd bapurau perthnasol yn y Quarterly Journal of the Geological Society of London rhwng 1916 ac 1929.

Yn 1931 olynodd O. T. Jones, unwaith eto, y tro hwn yn Athro Daeareg a Chyfarwyddwr y Labordai Daearegol ym Mhrifysgol Manceinion (1931-50). Gwasanaethodd yn gadeirydd Cyd-Fwrdd Recriwtio'r Brifysgol (1935-47), ac yn Ddeon y Gyfadran Wyddoniaeth (1939-41), Dirprwy Is-Ganghellor Dirprwyaidd (1941-43) a Dirprwy Is-Ganghellor (1943-50). Yr oedd yn aelod o'r Cyngor Rhyng-Brifysgolion dros Addysg Uwch yn y Trefedigaethau am bedair blynedd, ac aeth i Malaia yn 1947 gyda'r Comisiwn ar Addysg Uwch i gynghori ar ddatblygiad prifysgolion yno. Gwasanaethodd nifer o sefydliadau eraill, gan gynnwys bod yn llywydd Adran C (Daeareg) y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth (1948-49).

Ar waetha'r ymroddiadau hyn, parhaodd i lunio mapiau o'r ffin Ordofigaidd-Silwraidd yng ngogledd Cymru. Er hyn, y mae'n fwy enwog am ei sylwadau maes manwl, ar y cyd ag O. T. Jones (a oedd bryd hynny yn Athro Daeareg yng Nghaergrawnt), wrth adolygu'r mapiau maes a fodolai o'r creigiau Ordofigaidd a ffurfiwyd 500-400 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn yr ardal o Lanfair-ym-Muallt i Landrindod. Gwnaethant y darganfyddiad syfrdanol yn Llanfair-ym-Muallt o arfodir ffosiledig yn dyddio o tua 450 miliwn mlynedd yn ôl, yn gyflawn gyda thraeth, a staciau a chlogwyni glan môr. Ymddangosodd tua deg papur yn ymwneud â'r gwaith hwn mewn cylchgronau daearegol o dan eu cyd-awduraeth.

Yn 1951 fe'i gwnaed yn Athro Emeritws pan ymddeolodd i fynd yn Gyfarwyddwr Arolwg Daearegol Prydain Fawr a'r Amgueddfa Daeareg Ymarferol (1951-60) i wneud map daearegol o'r wlad (a gymerai ddegau o flynyddoedd i'w orffen). Yr oedd y swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am yr Adran Ddwr a'r Adran Ynni Niwclear. Cynhwysai gweithgareddau newydd neu ehangach y sefydliad hwn astudiaethau allan yn y maes mewn chwech o wledydd eraill ar draws y byd i'r Adran Ynni Niwclear; cychwyn arolwg eromagnetig (aeromagnetic) dros Gymru a Lloegr; gwneud arolwg o feysydd halen Swydd Gaer; paratoi mapiau meysydd glo a arweiniodd at ddarganfod haenau glo o fewn mil o droedfeddi i wyneb y ddaear yn Swydd Rhydychen; a llawer o waith yn cynghori'r Bwrdd Glo Cenedaethol, Bwrdd Hydro-electrig yr Alban a'r Weinyddiaeth Dai. Cyhoeddodd lawer o bapurau mewn cylchgronau gwyddonol yn adrodd hynt a datblygiad y gwaith hwn.

Derbyniodd Fedal Murchison gan Gymdeithas Ddaearegol Llundain yn 1952 am ymchwil ar stratigraffeg a thectoneg Creigiau Paleosöig isCymru. Derbyniodd hefyd DSc er anrhydedd Prifysgol Nottingham ac LLD er Anrhydedd Prifysgol Cymru. Ymddeolodd yn 1960 ac etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) yn 1951 am ei gyfraniadau at hyrwyddo, dysgu a threfnu gwyddorau daearegol, a gwnaed ef yn farchog yn 1956.

Priododd yn Llundain yn ystod haf 1919, Manon Clayton Davies Bryan (a fu farw 1973), ail ferch Joseph Davies Bryan, Alexandria, Yr Aifft; bu iddynt bedwar mab. Bu ef farw ar 18 Mawrth 1974 yn 171 Oakwood Court, Kensington, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-06-22

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.