RICHARDS, DAVID WILLIAM (1894-1949), pregethwr ac athronydd

Enw: David William Richards
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1949
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr ac athronydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Ivor T. Rees

Ganwyd David W. Richards yn Llanegwad, Sir Gaerfyrddin, Mai 16, 1893, yn fab i John Richards, ffermwr, a'i wraig, Mary. Addysgwyd ef ysgol Capel Isaac, yr Ysgol Sir Llandeilo, Coleg Prifysgol Cymru, Aberyswyth, lle graddiodd mewn mathemateg yn 1914, gan ennill gradd M.A. yn 1917 am draethawd ar 'The reality of extra-intellectual knowledge with special reference to Bergson and Pragmatism'. Enillodd radd PhD Prifysgol Llundain yn 1942. Am dair blynedd bu'n dysgu mathemateg yn ysgol ganol Pwllheli ond yn 1917 derbyniodd alwad i fod yn weinidog gyda'r Annibynwyr. Bu'n gwasanaethu eglwysi Cymraeg Saron, Bedwas, a Pheniel, Trethomas (1917-20), eglwysi Saesneg Griffithstown, Pontypwl (1920-24); daeth yn ôl i'r weinidogaeth Gymraeg yn Seion, Abercanaid (1924-27), cyn iddo dderbyn galwad i Fethel, Penclawdd, yn 1927.

Bu'n llwyddiannus ar destunau athronyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol: Castell-nedd, 1920, am draethawd ar Tueddiad Athroniaeth yr Oes a'i ddylanwad ar Foesau a Chrefydd; Corwen, 1921, Traethawd Beirniadol ac Esboniadol ar Athroniaeth Bergsen; a'r Barri, 1922, Athroniaeth Anfarwoldeb yn wyneb Damcaniaethau Ysbrydegol Diweddar.

Cafodd ei weinidogaeth ddechreuad da iawn ym Methel, Penclawdd, gyda'i gapel yn orlawn pob nos Sul a grwpiau yn llogi bysiau i ddod yno. Daeth yn enwog fel pregethwr a'r ddawn ganddo i gyflwyno dehongliad modern o'r Efengyl a'i chymhwyso i anghenion yr oes, ac fel ddarlithydd o fri. Mawr iawn oedd ei ddylanwad ar ddynion ifanc yr eglwysi, llawer ohonynt yn lowyr, a llwyddodd i gael llawer ohonynt i addysgu eu hunain er mwyn gwella cyflwr eu cyd-ddynion yn ogystal â'u bywydau eu hunain.

David Richards oedd ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Prifysgol Cymru yn 1929. Ond er ei holl lwyddiant, bu rhaid iddo ef a'i deulu ymadael â'r eglwysi a'r mans ar unwaith ar Ragfyr 21, 1930. Bu'n darlithio dros Fudiad Addysg y Gweithwyr hyd nes iddo dderbyn swydd darlithydd mewn Athroniaeth yn Adran Allanol Prifysgol Birmingham ym Mehefin 1931, gan symud i fyw i Leamington Spa, ond parhaodd i wasanaethau pulpudau yng Nghymru a Lloegr.

Priododd Margaret Jane, merch Daniel a Sarah Davies, Capel Isaac, a ganwyd chwech o feibion iddynt, a phob un yn derbyn addysg prifysgol. Daeth trychineb i'r teulu yn Ionawr 1949, pan laddodd un mab, Gwilym Caradog, ei hun. Mae'n amlwg bod mab arall wedi marw cyn hyn ond ni ddaeth y manylion i'r golwg. Yr oedd hyn i gyd yn ormod i David Richards, a chymerodd yntau ei fywyd ei hun yn ei gartref, Ebrill 24, 1949.

Yn y modd trychinebus hwn y daeth bywyd yr athrylith hwn a'i drychinebau i ben. Yn ôl Dr. R. Tudur Jones yn ei lyfr, Hanes Annibynwyr Cymru (1966), td. 306, “Esbonio a chymhwyso'r Efengyl oedd dawn neillduol … David Richards …”. Cafodd ei ddisgrifio mewn ysgrifau coffa fel, “un o'r meddylwyr praffaf a manylaf ei ddawn … Heb afledneiswydd na mursendod na balchder, eithr yn foneddigaidd a brawdol ei ysbryd … Trwy ei bregethu a'i ddarlithio gwnaeth gymaint â neb arall i ddatguddio perthnasedd yr Efengyl a chymhwyso ei neges i anghenion cymdeithasol, gwleidyddol a deallusol y dydd”; “arloeswr a dehonglydd y meddwl modern”.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-04-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.