Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd William Sheen ar 30 Ebrill 1869 yn 61 Crockherbtown (a alwyd wedi hynny yn Queen Street), Caerdydd, yn fab hynaf o unarddeg o blant Alfred Sheen, llawfeddyg o Gaerdydd a oedd y dyn cyntaf i gyflwyno dawnsio i raglen gymdeithasol cynhadledd blynyddol y British Medical Association ym 1885. Addysgwyd ef i ddechrau yn y Cardiff Proprietary School. Treuliodd ei gyfnod cyn-feddygol, ym 1885/6 yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy cyn mynd yn ei flaen i Ysgol Feddygol Ysbyty Guy's am ei astudiaethau cyn-glinigol a chlinigol cyn ennill MB Llundain ym 1892.
Wedi amryw o apwyntiadau iau mewn ysbytai, ennillodd yr MD a'i MS Llundain a'r FRCS(Eng) cyn ei apwyntio yn llawfeddyg cynorthwyol Clafdy Caerdydd ym 1895. Ym 1900 dyrchafwyd ef i swydd llawfeddyg anrhydeddus, swydd a gadwodd hyd at 1919. Yn ystod ei gyfnod fel llawfeddyg er anrhydedd, daeth i'r amlwg ym myd llawfeddygaeth, fel aelod blaenllaw o'r Moynihan Surgical Club ac yn feddyg o fri ym meysydd llawdriniaeth y prostad a sblenectomi. Yn gefnogol i'r fyddin, enillodd ryddhad oddi wrth ei ddyletswyddau cartref er mwyn teulio cyfnod yn llawfeddyg i'r Imperial Yeomanry Field Hospital yn ystod rhyfel De Affrig, ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf 'roedd â gofal dros Ysbyty Gyffredinol y 34eg (Cymreig), yn yr India gan ennill clod am ei waith. Cyflwynwyd CBE iddo ar ddiwedd y rhyfel. Ym 1919 gorfodwyd iddo ymddeol o Glafdy Caerdydd (a elwid yn Ysbyty Brenin Edward VII erbyn hynny), oherwydd rheolau dyrys a hynafol a oedd yn eu grym ar y pryd ac fe weithiodd am gyfnod byr yn Llundain, cyn symud yn ôl i Gaerdydd ym 1921 i ymgymryd â swydd fel Athro Astudiaethau Sylfaenol Llawfeddygaeth yn Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru.
O ddechrau 1920 'roedd materion dadleuol yn amharu ar gynnydd yr Ysgol. 'Roedd yn rhannol yn ddadl na allai ond gwanychu'r sefydliad, rhwng Coleg Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru ynghlch ei statws cyfansoddiadol ac anghytundeb chwerw gyda Chlafdy Brenhinol Caerdydd (fel y gelwid yr ysbyty o 1923) dros gyfrifoldebau yr ysbyty fel ysbyty athrofaol. Fel y cyfaddefodd Sheen ar y pryd, wedi'i siomi gan agweddau anghydweithredol nifer o'i gyd-weithwyr, 'mae ffordd o weithio a buddiannau breintiedig staff ysbyty sy'n anghyfarwydd â gwaith a dyheadau ysbyty athrofaol, yn naturiol yn creu anawsterau'.
Ym 1926, er mawr syndod iddo, fe'i hapwyntiwyd yn Ddeon yr Ysgol. Mewn gwirionedd, fel olynydd i nifer o ragflaenwyr didaro, Sheen oedd yr unig ymgeisydd credadwy yn y frwydr ac iddo ef y syrthiodd y dasg o lywio'r sefydliad drwy ddyfroedd garw. Er i Sheen fod yn aelod o staff glinigol y Clafdy am nifer o flynyddoedd cyn ei apwyntiad, nid oedd hyn yn rhwystr i nifer o'i gydweithwyr benderfynu tynnu yn ôl eu cefnogaeth fel athrawon, am iddynt deimlo nad oedd awdurdodau'r Ysgol - ac yn wir, Sheen ei hunan, a oedd ar adegau yn medru bod yn swta a dideimlad - yn gwerthfawrogi eu cyfraniad. Oherwydd hyn rhoddwyd y gorau i addysgu clinigol yn ystod 1928/9, cam na welwyd mo'i debyg o'r blaen yn hanes addysg feddygol Prydain ac a orfododd genhedlaeth gyfan o fyfyrwyr Caerdydd i orffen eu hastudiaethau meddygol mewn man arall. Yn ffodus, fe gamodd pawb yn ôl o'r dibyn ac o fewn rhai misoedd cafwyd cyfaddawd rhwng awdurdodau Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymry a'r Clafdy Brenhinol, a sicrhaodd, ymysg pethau eraill, fwy o gyfraniad i glinigwyr yr ysbyty yn nhrefniant y cwrs meddygol. Er gwaethaf sylwadau a wnaed gan aelod o Bwyllgor Grantiau y Prifysgolion i un o brif-swyddogion y Cyfrin Gyngor fod 'cytundeb yn rhinwedd brin yn Ne Cymru', cytunwyd hefyd ar statws cyfansoddiadol yr Ysgol mewn ysbryd o gyfaddawd, yr adran gyn-glinigol i aros yn rhan o'r Coleg Prifysgol, tra bo'r adrannau clinigol i ddod yn annibynnol fel Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru o fewn Prifysgol ffederal Cymru, ym 1931.
Cam naturiol, wedi ei gyfnod fel deon yr ysgol feddygol, oedd ethol William Sheen i fod yn bennaeth llywodraethol cyntaf yr Ysgol Feddygol Cenedlaethol, gyda'r teitl Profost. Bu ei ddoniau arweinyddol diamheuol, fel y gwelwyd yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cymorth Gwirfoddol Morgannwg yn ystod yr ymgais achub wedi trychineb glofa Senghennydd ym 1913, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ystod ei gyfnod fel deon yr Ysgol - yn ased sylweddol i sefydliad newydd a oedd yn ceisio creu hunaniaeth unigryw mewn cyfnod o ddirwasgiad ariannol. Llwyddodd 'The Colonel', fel y galwyd ef yn hoffus gan ei ffrindiau, i ennill parch eu gyd-weithwyr academaidd ac hefyd y myfyrwyr a ystyriai ef (yn ôl cylchgrawn y myfyrwyr The Leech) fel 'tad gyffeswr a chyfaill, arweinydd a chynorthwywr'. Bu ef a'i wraig yn gynorthwyol i glwb y myfyrwyr meddygol, gan ymuno'n gyson yn y gweithgareddau cymdeithasol ac o dan stiwardiaeth Sheen, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol, llwyddodd wella'n sylweddol ar ddarpariaeth gynhaliol, breswyl ac adloniant y myfyrwyr yn ystod y 1930au.
Er iddo gymryd rhan flaenllaw yng ngwaith y Brifysgol, fe lwyddodd osgoi'r ddyletswydd achlysurol o weithredu'n Is-Ganghellor y Brifysgol. Nid oedd pennaeth yr Ysgol Feddygol yn rhan o'r trefniadau achlysurol oherwydd statws israddol cyfansoddiad yr Ysgol ymysg y sefydliadau a oedd yn cael eu cynnwys o dan y Brifysgol ffederal ar y pryd.
Er gwaethaf ei gyfrifoldebau trwm fel Prifathro, llwyddodd Sheen i barhau yn ei waith fel athro llawfeddygaeth a chyfarwyddwr yr uned lawfeddygol hyd at ei ymddeoliad ym 1935. O dan ei arweinyddiaeth, llwyddodd yr uned i ddenu llawfeddygon tra addawol a lwyddodd i sicrhau prif-swyddi yn eu tro, dynion fel Lambert Rogers a oedd yn olynydd i gadair Sheen yng Nghaerdydd, A. L. d'Abreu, a ddaeth yn athro llawfeddygaeth yn Birmingham ac R. V. Cooke a ddaeth yn brif lawfeddyg i Ysbytai Unedig Bryste. Yn ddiweddarach, rhoddwyd ar gof gan Syr Clement Price Thomas, y llawfeddyg o fri a ddaeth yn Llywydd Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru, i'r rhain i gyd, dystio 'mor ddoeth a hael ydoedd fel arweinydd, bob amser yn barod i roi cyngor, ac yn barhaus yn annog y dynion ifainc i sefyll yn gadarn'.
Er gwaethaf ei ddyletswyddau beichus, llwyddodd i ymgymryd â gweithgareddau meddygol eraill, yn gwasanaethu o bryd i'w gilydd fel llywydd y Gymdeithas Hunterian, Cymdeithas Physgwyr Guy's, a Chymdeithas Feddygol Caerdydd. Gwasanaethodd hefyd fel llywydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd ac fel Dirprwy Raglaw Sir Forgannwg.
Er i Sheen ymddeol fel athro llawfeddygaeth ym 1935, blwyddyn ar ôl oedran arferol ymddeoliad staff academaidd, fe ddaliodd ati fel Prifathro, ac ar ddechrau'r rhyfel, ail-gydiodd yn y gwaith fel athro llawfeddygaeth er mwyn rhoi cyfle i Lambert Rogers a d'Abreu ac eraill i ymuno â'r fyddin. Cydiodd yn yr awenau ac arweiniodd ysgol feddygol dipyn llai ei maint drwy gyfnod anodd a bu ei farwolaeth ar 28 Mawrth 1945, yn 75 oed, yn siom fawr, am ei fod ar ganol creu cynlluniau ar gyfer datblygiad yr Ysgol yn ôl argymhellion Pwyllgor Goodenough (1944). Roedd modd ei farwolaeth yn nodweddol o'i ysbryd anorchfygol. Ymlwybrodd o'i gartref i'r Ysgol Feddygol, siwrne flinderus o ryw bedair milltir, drwy'r eira trymaf ers cyn cof, er mwyn cadw cyfarfod. Profodd yr ymdrech yn ormod i'w galon, syrthiodd yn ei swyddfa ac er ymdrechion gorau ei gyd-weithwyr yn y Clafdy, bu farw fis yn ddiweddarach. Wedi ei angladd yng Nghapel Mair, Cadeirlan Llandaf, claddwyd ef ym mynwent y Gadeirlan. Bu farw ei wraig, Christine, o'i flaen, ym 1939. Yr oedd hi yn ail ferch J. P. Ingledew YH, Caerdydd, a bu'n wraig i Sheen oddi ar 1898. Nid oedd ganddynt blant.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-03-26
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.