Ganwyd Clement Price Thomas ar 22 Tachwedd, 1893 yn Abercarn, Sir Fynwy, yr ieuengaf o naw plentyn William Thomas, groser, a Rosamund Gertrude Price, merch i glerigwr. Ar ôl addysg yn Ysgol Uwchradd Casnewydd ac Ysgol Caterham, Surrey, aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd yn 1913 gyda'r bwriad o gymhwyso'n ddeintydd. Torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei astudiaethau, a gwasanaethodd fel preifat yn 32nd Field Ambulance y RAMC yn Gallipoli, Macedonia a Phalestina cyn ailafael yn ei astudiaethau yng Nghaerydd yn 1917, wedi penderfynu mynd yn feddyg erbyn hyn. Yn 1919, ar ôl ennill Gwobr Goffa Alfred Hughes mewn anatomeg (medal uchel ei bri a ddyluniwyd gan y cerfluniwr enwog William Goscombe John), aeth ymlaen i Ysgol Feddygol Ysbyty Westminster ar gyfer hyfforddiant clinigol, gan ymgymhwyso yn 1921.
Uchelgais Price Thomas oedd bod yn llawfeddyg. Yn 1923 llwyddodd yn Arholiad Terfynol y FRCS ac ar ôl cyfres o swyddi dan hyfforddiant yn Ysbyty Westminster fe'i penodwyd yn 1927 yn llawfeddyg cyffredinol ar staff ymgynghorol yr ysbyty, lle y daeth o dan ddylanwad Cymro arall, Arthur Tudor Edwards o Abertawe, gŵr a gydnabyddid eisoes yn arweinydd ym maes llawfeddygaeth thorasig. Ar ôl i Edwards ymddiswyddo o Ysbyty Westminster yn 1930 i drefnu adran llawfeddygaeth thorasig yn Ysbyty Llundain, cymerodd Price Thomas gyfrifoldeb am arwain gwaith llawfeddygaeth thorasig yn Ysbyty Westminster. Daliai swyddi llawfeddygol yn Ysbyty Brompton ar gyfer Afiechydon y Frest, ac mewn mannau eraill yn ogystal, gan gynnwys Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru (WNMA), a gweithredodd fel ymgynghorydd mewn llawfeddygaeth thorasig i'r Fyddin ac i'r Awyrlu. Fe'i penodwyd hefyd yn ymgynghorydd ar lawfeddygaeth thorasig i'r Weinyddiaeth Iechyd. Yn ystod y 1930au ac wedyn bu'n flaenllaw yn y gwaith o drawsnewid disgyblaeth a fuasai'n destun pryder ac ofn gynt a'i gwneud yn dderbyniol yng ngolwg y cyhoedd. Cydnabuwyd Price Thomas yn arbennig am ei gyfraniad i lawfeddygaeth twbercwlosis a thiwmorau'r ysgyfaint. Yn 1947 ef oedd y llawfeddyg cyntaf i gyflawni echdoriad y llawes fronciol er mwyn gwaredu tiwmor bronciol canseraidd.
Yn sgil bri mawr Price Thomas yn ei faes deuai cleifion o bedwar ban byd i ymgynghori ag ef, a phan benderfynwyd yn 1951 fod angen triniaeth lawfeddygol ar y Brenin George VI am afiechyd ar ei ysgyfaint gwahoddwyd Clement Price Thomas i wneud y llawdriniaeth, a wnaed ar 23 Medi mewn ystafell a baratowyd yn arbennig ar lawr cyntaf Palas Buckingham. Yr oedd canlyniad cyntaf y thoracotomi yn galonogol, ac un o weithredoedd cyntaf y Brenin pan ailafaelodd yn ei ddyletswyddau oedd cyflwyno'r KCVO i Price Thomas ym Mhalas Buckingham ar 14 Rhagfyr 1951. Yn anffodus ni wellodd y Brenin yn llawn ar ôl y llawdriniaeth, a bu farw yn Sandringham ar 6 Chwefror 1952.
Yn nes ymlaen yn y 1950au dewisodd Price Thomas adael gwaith thorasig arbenigol i genhedlaeth newydd o lawfeddygon, ond daliodd ati i wneud llawfeddygaeth gyffredinol tan droad y 1960au. Trwy gydol ei yrfa roedd myfyrwyr meddygol, disgybl-lawfeddygon a'i gydweithwyr hŷn yn ddiwahân yn ei ystyried yn athro campus, un oedd â'r gallu i gyflwyno ei arbenigedd mewn dull cyfeillgar ac awdurdodol. Gan ei fod mor annwyl yng ngolwg ei gydweithwyr nid yw'n syndod bod galw mawr am ei wasanaeth gan ystod eang o gyrff proffesiynol ac academaidd. Ar gyfer Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr gwasanaethodd fel arholwr rhwng 1948 a 1952, ac fel aelod o Gyngor y Coleg o 1952 hyd 1964, gan ddal swydd is-lywydd rhwng 1962 a 1964. Traddododd dair o ddarlithoedd uchaf eu bri y Coleg, darlith goffa Tudor Edwards yn 1959, Darlith Vicary yn 1960 a Darlith Bradshaw yn 1963. Ymhlith amryw anrhydeddau a ddaeth i'w ran yr oedd llywyddiaeth Cymdeithas Feddygol Prydain, y Gymdeithas Thorasig, y Gymdeithas Llawfeddygon Thorasig, Cymdeithas y Llawfeddygon, Cymdeithas Feddygol y Byd, y Gymdeithas Amddiffyniad Meddygol a Chymdeithas Frenhinol Meddygaeth. Dyfarnwyd graddau er anrhydedd iddo gan brifysgolion Cymru, Belffast, Paris, Lisbon, Athen a Karachi.
Un o'r anrhydeddau a roes y pleser mwyaf iddo yn ei flynyddoedd olaf oedd cael ei ethol yn llywydd yr ysgol feddygol lle dechreuasai ei astudiaethau, Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru, swydd a ddaliodd rhwng 1958 a 1970. Deuai i gyfarfodydd y Cyngor, ac i seremonïau graddio a digwyddiadau eraill mor aml ag y gallai a chymerai ddiddordeb byw ym musnes yr Ysgol. Yn wir, nododd y profost ar y pryd, Alan Trevor Jones, yn ei ddyddiadur yn fuan ar ôl i Price Thomas ddechrau fel llywydd fod ganddo 'ddiddordeb mawr, bron rhyw fawr ym mhopeth'. Y gwir amdani oedd, er gwaethaf cyfnodau o iechyd symol gan gynnwys thoracotomi am gancr yr ysgyfaint yn 1964, roedd ei flynyddoedd fel llywydd yn cyd-fynd â'r hyn a ddisgrifiwyd gan brofost diweddarach, Patrick Mounsey, fel 'one of the most exciting and productive periods in the school's development, the success of which owed much to his inspiring leadership, enthusiasm and wise guidance'. Yn ystod y 1960au y gwireddwyd cynlluniau i adeiladu canolfan ddysgu meddygol newydd o'r radd flaenaf ym Mharc y Waun yng ngogledd Caerdydd, a gynhwysai Ysbyty Prifysgol Cymru, ysgol ddeintyddol newydd ac ysbyty a hefyd Institud Tenovus ar gyfer Ymchwil Cancr, y gosodwyd ei garreg sylfaen gan Price Thomas yn 1965.
Yn 1925 priododd Clement Price Thomas ag Ethel Doris Ricks, merch Mortimer Ricks o Paignton, a chawsant ddau fab. Daeth un o'r meibion yn llawfeddyg ymgynghorol yn ne Cymru. Roedd Clem a Dorrie, fel y'u gelwid, yn bâr cariadus ac roedd croeso cynnes ar eu haelwyd yn St John's Wood i lu o gyfeillion a chydweithwyr. Bu farw Syr Clement ar 19 Mawrth 1973 yn 79 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym medd ei rieni ym mynwent Capel Bethel Newydd, Mynyddislwyn, bellach ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Daeth torf fawr i wasanaeth coffa yn Abaty Westminster ar 29 Mai 1973.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-08-15
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.