Ganwyd Trevor Jones ym Mhengam, Morgannwg, ar 24 Chwefror 1901 ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Lewis, Pengam, lle bu ei dad, Roger Williams Jones, yn brifathro. Fe ymgymerodd â'i astudiaethau meddygol cyn-glinigol yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Fodd bynnag, ym 1921, yn hytrach na chanlyn cwrs clinigol yng Nghaerdydd, er mwyn derbyn graddau meddygol Prifysgol Cymru - fel y dywedodd yn ddiweddarach 'arddangosiad diangen o genedlaetholdeb, gan y rheini ohonom oedd yn hapus gyda Gradd Llundain, a oedd yn haws a llai llafurus' - aeth ymlaen i Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain, a derbyn yr MB BS Llundain ym 1924.
Wedi cyfnod fel meddyg ysbyty i'r meddyg amlwg o Gymru, Syr Thomas Lewis, ymgymerodd â nifer o apwyntiadau yn Llundain a'r taleithiau a'i cymhwysodd i ennill Aelodaeth o Goleg Brenhinol y Ffisigwyr ac MD Llundain ym 1927 a Thystysgrif Iechyd Cyhoeddus ym 1929. Rhwng 1927 a 1929, fel swyddog meddygol â gofal gwelyau meddygol cyffredinol ac fel dirprwy arolygwr y St Marylebone Infirmary, o dan Dr Basil Hood, fe fagodd ddiddordeb arbennig mewn manylion llywodraeth meddygol a barhaodd ar hyd ei oes.
Ym 1929, gan obeithio ennill swydd fel ymgynghorydd yng Nghymru, fe ymgymerodd â'r swydd o Arolygwr Meddygol Ysbyty Cyffredinol Abertawe, lle y cyfunodd ddyletswyddau clinigol a llywodraethol. Wedi cyfnod o ychydig dros flwyddyn, symudodd i Gaerfyrddin i ymuno â meddygfa deuluol brysur o dan arweiniad Dr Arwyn Davies, gwr chwaer hynaf ei fam. Yn y swydd yma medrodd ymgymryd â gwaith clinigol yn yr ysbyty ac hefyd ddyletswyddau iechyd cyhoeddus - fel swyddog meddygol iechyd - yn y dre.
Erbyn 1935, roedd ganddo brofiad meddygol helaeth, a arweiniodd at wahoddiad iddo i wneud cais am y swydd o swyddog meddygol i'r Bwrdd Iechyd Cymreig yng Nghaerdydd. Treuliodd lawer o'r ddwy flynedd cyntaf yn y swydd yma yn pwyso a mesur prosiectau i'w gweithredu yn ardaloedd dirwasgedig De Cymru, i leddfu diweithdra a gwella darpariaeth cyfleusterau iechyd. Ym 1937, o dan Gynllun Gwasanethau Meddygol Argyfwng y llywodraeth, a fu'n cynllunio ar gyfer effeithiau y rhyfel a oedd yn nesáu, apwyntiwyd ef yn Swyddog Ysbytai dros Gymru, yr unig swyddog i barhau yn ei swydd, o'i apwyntiad cyntaf ym 1937 tan ddiwedd yr argyfwng ym 1947. Blaenoriaeth gyntaf Trevor Jones oedd adolygu cyfleusterau gofal iechyd Cymru er mwyn sicrhau eu haddasrwydd i ddelio ag anafusion wedi cyrchoedd awyr, dinasyddion digartref a chanlyniadau eraill y rhyfel, yn berthnasol i iechyd.
Fodd bynnag, wrth i'r llywodraeth gynllunio ar gyfer cyflwyno gwasanaeth iechyd cenedlaethol wedi'r rhyfel, ymgymerodd Trevor Jones, yr Athro J. A. Nixon (Prifysgol Bryste) a'r Athro Ralph Picken (Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru) ag adolygiad sylfaenol, a gyhoeddwyd ym 1945 fel y Survey of Hospital Services of South Wales, a gafodd effaith o bwys ar batrwm gwasanaethau ysbytai yn y Dywysogaeth, gan bwysleisio yn arbennig y gofyn am ganolfan addysg feddygol fawr newydd yng Nghaerdydd. Apwyntiwyd ef i'r swydd o Brif Swyddog Llywodraethu Meddygol ar Fwrdd Rhanbarthol Ysbytai Cymru a bu'n allweddol i weithrediad y Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru.
Ac yntau'n adnabod pa mor hanfodol bwysig i Gymru oedd hyfforddi rhagor o feddygon - a deintyddion - ac arbenigwyr o bob math, magodd ddiddordeb yng ngwaith Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru a swyddogaeth arweiniol yr Ysgol yn nyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ym 1954, pan ddaeth cyfle i wneud cais am swydd Profost, manteisiodd ar y cyfle gyda hyder, gan ddadlau yn ei gyfweliad (fel y gwelwyd yn ei ddyddiadur) 'fod gan Brifathro â phrofiad cyffredinol o bob agwedd o feddygaeth, gyfle i gynnig rhywbeth i'r Ysgol, nad oedd yr Athrawon, gyda'u diddordebau cyfyng, yn medru ei gynnig'. Er hynny, gohiriwyd yr apwyntiad am sawl mis oherwydd amheuon amryw o'r prif academyddion, yn nodedig Harold Scarborough, yr athro meddygaeth, ond ymhen amser, bu ei gyfnod fel Profost o 1955 hyd at 1969 - yr unig Brofost Cymraeg ei iaith yn hanes yr Ysgol - yn hynod lwyddiannus. Yn wr cyfeillgar, ffurfiodd berthynas ardderchog gyda'r staff a'r myfyrwyr, llawer ohonynt wedi'u cyfweld ganddo ac fe ffynnodd yr Ysgol o dan ei arweiniad. Medrodd yr Ysgol ddenu a chadw staff academaidd o'r safon uchaf, llawer ohonynt â phersonoliaethau cedyrn. Nid y lleiaf yn eu mysg oedd y brawychus Jethro Gough, yr athro patholeg, gyda'i ffordd dra-awdurdodol na fedrai'r Profost hyd yn oed, ei feistroli, yn ôl yr Athro Archie Cochrane, a oedd yn gydweithiwr anodd ei hun.
Serch hynny, nododd Cochrane yn ei gyfrol One Man's Medicine, fod Trevor Jones 'yn weinyddwr meddygol eithriadol'. O 1940 ymlaen bu'n ymwneud â chynllunio'r syniad o ganolfan addysgu meddygol yng Nghaerdydd a'i flaenoriaeth fel Profost oedd gwireddu'r cynlluniau. Yng ngeiriau Owen Wade, yr athro therapiwteg yn Belfast ar y pryd, Trevor Jones oedd 'yr union ddyn' i ddatblygu'r prosiect hyd at ei gwblhau ar y safle 53 acer, ym Mharc y Waun, yng ngogledd Caerdydd. Yr adeilad cyntaf i'w adeiladu oedd yr Ysgol a'r Ysbyty Ddeintyddiaeth a agorwyd gan Ddug Caeredin ym 1966. Cychwynnodd adeiladu Ysbyty Prifysgol Cymru, gydag 800 gwely, a'r Ysgol Feddygol yr un flwyddyn. 'Roedd y cysyniad o gampws yn cyfuno swyddogaethau addysgu, ymchwil a gofal clinigol yn unigryw ym Mhrydain ar y pryd ac agorwyd y cyfleustra yn swyddogol gan y Frenhines, ym 1971. Erbyn hynny roedd Trevor Jones wedi ymddeol fel y Profost, er iddo barhau i eistedd ar amryw o brif bwyllgorau'r Ysbyty am rai blynyddoedd. Ymysg yr anrhydeddau pleserus a dderbyniodd ar ei ymddeoliad, 'roedd yn arbennig o falch o benderfyniad yr Ysgol i gomisiynu portread ohono gan yr arlunydd poblogaidd o Gasnewydd, Thomas Rathmell - mae'r darlun yn hongian ym mhrif ystafell bwyllgor yr Ysgol Feddygol ym Mharc y Waun. Er hynny, fe ysgrifennodd yn ei ddyddiadur, 'y peth mwyaf boddhaol oedd LLD er Anrhydedd a roddwyd i mi gan Brifysgol Cymru, pryd fe'm cyflwynwyd gerbron y Llys yn Abertawe gydag araith ganmoliaethus gan Patrick Mounsey, a oedd yn dra hael i'w ragflaenydd'. Yn ystod ei araith soniodd Mounsey am gred ddiysgog Trevor Jones yn swyddogaeth angenrheidiol y Brifysgol i feithrin ysbryd ymchwilgar a myfyrdod annibynnol, mor bwysig i feddygon ag i eraill. Yn ystod ei oriau hamdden (prin) 'roedd yn hoff o ddarllen - Dickens a chyfrolau hanesyddol - ac 'roedd yn aelod bywiol o'r 'Fortnightly', cymdeithas lenyddol yng Nghaerdydd gydag aelodaeth o academyddion a phobl broffesiynol. Wedi un cyfarfod fe ysgrifennodd yn ei ddyddiadur: 'Cinio da iawn ac ymgomio da, fel y disgwylir gan griw o'r math yma. 'Rwy'n ei hoffi'n fawr'.
Ym 1931 priododd Gwyneth Evans a ganed iddynt fab a ddaeth yn ymgynghorydd paediatreg, a merch a ddaeth yn nyrs. Bu farw Trevor Jones 10 Mehefin 1979, ac er iddo fod yn Annibynniwr selog ar hyd ei oes, claddwyd ef ym mynwent Gelligaer, lle gorwedd ei rieni.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-03-25
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.