Ganwyd Jethro Gough ar y 29 Rhagfyr 1903 yn Woodland Street, Aberpennar, Morgannwg, yn un o 11 o blant Jabez William Gough, masnachwr a pherchennog cwmni bysiau, a'i wraig Ellen (gynt Mortimer).
Yr oedd wedi penderfynu dilyn gyrfa fel meddyg yn ei ieuenctid, ac wedi rhagori yn ysgol ramadeg Aberpennar aeth i Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru (rhan o Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy y pryd hynny) yn 1921. Enillodd Wobr Alfred Sheen a rhagoriaeth mewn patholeg yn ystod ei hyfforddiant cyn-glinigol; cafodd gymhwysterau MRCS LRCP y Bwrdd Cyfunol yn 1926 cyn graddio'n MB BCh Prifysgol Cymru flwyddyn yn ddiweddarach gyda rhagoriaeth mewn sawl pwnc clinigol.
Yr oedd Gough yn frwd o'r cychwyn i ddilyn gyrfa academaidd a'i swydd sylweddol gyntaf oedd fel arddangoswr yn Adran Batholeg yr Ysgol Feddygol Genedlaethol yn Hydref 1927. Yr adeg honno yr oedd tyndra ynglyn â'r trefniadau addysgu clinigol yn cynyddu rhwng awdurdodau'r Ysgol a chlinigwyr yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd a dirywiodd y berthynas i'r fath raddau nes rhoi'r gorau i addysgu clinigol dros sesiwn 1928-29 gan orfodi carfan gyfan o is-raddedigion Caerdydd i gwblhau eu hyfforddiant mewn mannau eraill. Cafodd Jethro Gough, fel rhai aelodau eraill o'r staff academaidd, y sefyllfa hon yn un annifyr a dewisodd gymryd swydd iau ym Mhrifysgol Manceinion. Esboniodd i Ysgrifennydd yr Ysgol yn Ionawr 1929, 'Mae'n flin iawn gennyf am yr amgylchiadau sydd wedi peri imi gymryd y cam hwn, ond teimlaf y gallaf wneud gwell cynnydd rywle arall'. Yn ffodus ac er lles pawb, adferwyd y sefyllfa yn fuan ac erbyn hydref 1929 yr oedd Gough yn ôl yng Nghaerdydd wedi iddo gynnig yn llwyddianus am swydd darlithydd cynorthwyol yn ei hen adran. Ni allai adroddiad y pwyllgor dewis fod yn gynhesach, 'Tra oedd ar staff adran Batholeg yr Ysgol hon nodweddid ei waith gan y fath wreiddioldeb ac addewid fel y gwelwyd ei fod yn ddyn â dawn eithriadol ac yn un a â ymhell, gan gadarnhau arwyddion ei yrfa israddedig ddisglair.' Yn 1930 ef oedd y trydydd (ar ôl Daniel T. Davies a J. W. Tudor Thomas) i ennill gradd MD Prifysgol Cymru am ei draethawd ar 'Mitochondria', a thair blynedd yn ddiweddarach dychafwyd ef yn ddarlithydd mewn patholeg.
Yn ystod y 1930au prif feysydd ychwil Gough oedd metaboledd Fitamen C a histoleg tyfiannau yr ymennydd, ond trwy ei waith post mortem deuai i gyswllt cyson â phroblemau iechyd glowyr de Cymru ac ymddiddorodd fwyfwy yn yr astudiaeth o batholeg yr ysgyfaint yn gyffredinol ac yn benodol yn niwmociniosis glowyr. Bu blynyddoedd Rhyfel Byd II yn rhai tra phrysur i'r Adran Batholeg. Ymgymerodd â chyfrifoldebau ychwanegol sylweddol gan arolygu datblygiad labordai patholeg newydd yn y prif ysbytai ledled Cymru a darparu hyfforddiant addas i'w staff. O 1944 ymlaen daeth yr adran yn gyfrifol hefyd am ddosrannu penisilin i ysbytai yng Nghymru ac am hyfforddi meddygon ysbyty ac ymarferwyr cyffredinol ar sut i'w ddefnyddio, yn arbennig yn achos clwyfedigion rhyfel.
Ddiwedd y rhyfel, a John Bright Duguid, ei bennaeth adran, yn dilyn astudiaethau arloesol yn afiechyd y rhedwelïau, daliodd Jethro Gough ati gyda'i ymchwil i newmoconiosis. Yn ystod y 1930au derbynnid yn gyffredinol mai'r silica tanddaear oedd achos newmociniosis ymhlith gweithwyr yn y diwydant glo, ond o astudio amodau gwaith llwythwyr glo yn nociau de Cymru, gwyr nad aent byth danddaear, daeth i'r casgliad mai llwch y glo nid silica a achosai newmociniosis ymhlith gweithwyr yn y diwydiant glo, darganfyddiad a enillodd i Gough fri cydwladol. Yn wir, ei waith ar newmoconiosis gweithwyr glo fyddai'n sylfaen deddfwriaeth iawndal gweithwyr ym Mhrydain a thramor, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau lle y rhoes dystiolaeth i amrywiol gyrff ar y mater. Ymfalchïai yn arbennig yn ei gyflwyniad o flaen Pwyllgor Llafur a Lles y Cyhoedd yn Senedd yr Unol Daleithiau yn 1969. Dathlodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr ym Mhrydain waith arloesol Gough trwy sefydlu yn 1974 yn Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru Wobr Gough mewn Patholeg, 'yn gydnabyddiaeth o gyfraniad Jethro Gough i les glowyr y byd'.
Yn 1948 pan symudodd J. B. Duguid o Gaerdydd i'r gadair patholeg ym Mhrifysgol Durham, penodwyd Jethro Gough yn ei le, cyn-fyfyriwr cyntaf yr Ysgol Feddygol Genedlaethol i'w benodi i un o'i chadeiriau. Yr un flwyddyn, cafodd ei benodi, ar gyfrif ei gyraeddiadau ymchwil, yn aelod o Bwyllgor Afiechyd yr Ysgyfaint y Cyngor Ymchwil Feddygol. Dros y blynyddoedd wedyn cododd statws ei adran mewn ffyrdd eraill yn ogystal. Mewn cydweithrediad â J. E. Wentworth, aelod hyn o'r staff technolegol, datblygodd yr hyn y daethpwyd i'w adnabod yn dechneg trychiad ysgyfaint mawr Gough-Wentworth, cam bras ymlaen yn yr astudiaeth o batholeg yr ysgyfaint, yr hyn unwaith eto a enillodd fri cydwladol i'r adran. Datganwyd gyda balchder yn Adroddiad blynyddol yr Ysgol am 1949/50 fod 'gwaith yr adran ar agweddau patholegol newmociniosis a thechneg trychiad mawr yn dal i ddenu sylw eang ac wedi dwyn ymwelwyr o lawer o rannau pellennig byd i'r Ysgol'. Yn ystod sesiwn 1952/53 croesawyd ymwelwyr o Awstralia, Canada, De Affica, Unol Daleithiau America, Norwy, Rhodesia, Seland Newydd, Yr Iseldiroedd, Guinea Newydd a'r Yswistir. Gwahoddid Gough yn fynych i gynadleddau tramor yn y blynyddoedd wed'r rhyfel, ac i Havrad a phrifysgolion eraill yng ngogledd America yn gyson.
Oherwydd ei safle uchel yn y proffesiwn a'i bersonoliaeth rymus daeth Jethro Gough yn fuan yn aelod blaenllaw o'r Ysgol Feddygol. Cyfeiriodd y Profost Trevor Jones ato yn ei ddyddiaduron yng nghanol y 1950au fel 'person rhagorol … yn ennill bri a hefyd yn dwyn clod i'r Ysgol Feddygol'. Bu'n Ddirprwy-Brofost rhwng 1954 a 1956 ac yn un o'r grwp bychan o gydweithwyr y troai Trevor Jones atynt am gyngor ar faterion ynghlych datblygiad yr Ysgol. Yn ddiau, bu'n ddylanwad nodedig ar gynnydd ei arbenigedd yng Nghymru wedi'r rhyfel ac yn oedd yn un o sylfaenwyr Coleg y Patholegwyr yn 1962 (cafodd ei siartr frenhinol yn 1970). Etholwyd ef yn aelod o gyngor y coleg o 1963 hyd 1966 a bu'n un o'r is-lywyddion o 1966 hyd 1968 pan ymddiswyddodd oherwydd cyflwr ei iechyd. Gwnaed ef yn gymrawd er anrhydedd o Goleg Brenhinol Ffisigwyr Llundain yn 1967 ac ymddeolodd o Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru yn 1969.
Yn 1934 ymbriododd Jethro Gough ag Ann Thomas, cyd-ddisgybl ag ef yn Ysgol Ramadeg Aberpennar, a bu hi'n gefn iddo yn ei yrfa broffesiynol ac yn fawr ei gofal ohono yn ystod gwaeledd ei flynyddoedd olaf. Bu ef farw 16 Chwefror 1979 ac amlosgwyd ei weddillion yn Thornhill Caerdydd yn dilyn gwasaneth dan ofal gweinidog Bethel, eglwys y Bedyddwyr, yr Eglwys Newydd lle'r oedd ei wraig yn aelod. Yr oedd ganddynt ddau fab; dilynodd un ohonynt gamre ei dad yn batholegydd yn Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-01-07
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.