Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 3953 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1 - 12 of 3953 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • ABADAM, ALICE (1856 - 1940), ymgyrchydd dros hawliau merched Ganwyd Alice Abadam yn Llundain ar 2 Ionawr 1856, yr ieuengaf o saith o blant Edward Abadam (gynt Adams, 1810-1875) a'i wraig Louisa (g. Taylor, 1828-1886). Magwyd Alice yn Neuadd Middleton yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin (ar safle Gerddi Botaneg Cymru heddiw), a brynwyd gan ei thad-cu ar ochr ei thad, Edward Hamlin Adams, yn 1824 pan ddychwelodd o Jamaica lle bu'r teulu'n berchen ar gaethweision
  • ABEL, JOHN (1770 - 1819), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn Llanybri, Sir Gaerfyrddin, 1770, i William Abel, pregethwr cynorthwyol, un o gychwynwyr (1813) achos y Capel Newydd yno. Honnir iddo fynd 'i Academi Caerfyrddin,' ond yn Abertawe yr oedd yr Academi ar y pryd. Yn 1794 dilynodd David Davies fel gweinidog eglwys fechan Capel Sul, Cydweli, a chadwai ysgol. Nid oedd John Abel yn 'uniongred'; dywed yr Undodwr Wright, a ymwelodd â Chymru yn
  • ABEL, SIÔN, baledwr o'r 18fed ganrif yn trigo yn sir Drefaldwyn Ef oedd awdur ' Cerdd yn erbyn medd-dod, celwydd a chybydd-dra ', a gyhoeddwyd yn un o dair cerdd mewn llyfryn o wasg H. Lloyd, Amwythig, sef rhif 154 yn y Bibliography of Welsh Ballads (J. H. Davies). Fe geir hefyd yn NLW MS 14402B, sydd yn gasgliad yn llaw Humphrey Jones, o Gastell Caereinion (ganwyd 1719), o gerddi gan feirdd o ardaloedd Meifod a Chaereinion (ymhlith pethau eraill), ddarn
  • ABLETT, NOAH (1883 - 1935), Glöwr ac arweinydd Undeb Llafur bu hyd ei farw. Y mae i Ablett ddau bwysigrwydd yn hanes undebaeth yn ne Cymru. Yr oedd yn un o arweinwyr yr wrthblaid yn erbyn arweinwyr fel William Abraham Mabon. Bu hefyd yn bropagandydd syniadau syndicalaidd a Marcsiaidd ymhlith y glowyr. Yr oedd eraill fel William Brace wedi gwrthwynebu Mabon o flaen dyddiau Ablett, a'r canlyniad oedd ffurfio un undeb mawr, Ffederasiwn Glowyr y De, i gymryd
  • ABRAHAM, WILLIAM (Mabon; 1842 - 1922), aelod seneddol a llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru arall ei fywyd oedd yr eisteddfod. Yn herwydd ei gorff cadarn a'i lais cyrhaeddgar daeth yn enwog fel arweinydd effeithiol yn eisteddfodau diwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif. Dyna'r cyfnod yr oedd tyrfaoedd mawrion yn tyrru i'r eisteddfodau. Gan ei fod wedi ei ddonio â llais tenor clir, canai yn fynych i'r cynulleidfaoedd. Yn 1860 priododd Sarah, merch David Williams. Bu iddynt dri mab a thair
  • ADAM 'de USK' (1352? - 1430), gwr o'r gyfraith yn Nhwr Llundain. Yr oedd priffordd llwyddiant bellach yn agored o'i flaen, a derbyniai daliadau o goffrau'r Eglwys heblaw'r hyn a enillai wrth ei briod waith. Eithr daeth un o'r taliadau hyn ag ef i drybini; mynnai Walter Jakes (alias Ampney) nad oedd gan Adam hawl ddigonol i ganoniaeth Llandygwydd (Sir Aberteifi) yng ngholeg Abergwili, a ddaethai i feddiant Jakes ei hunan yn 1399 trwy gyfnewid
  • ADAMS, DAVID (1845 - 1922), diwinydd weinidogaeth gynnar oedd ei ymdrech ym mhlaid sobrwydd a'i lafur gwerthfawr fel holwr ysgolion Sul. Yn 1884 enillodd ar draethawd ar Hegel yn eisteddfod genedlaethol Lerpwl. O hyn ymlaen ceisiodd (yn ei eiriau ei hun) 'wneuthur i ffwrdd â'r syniad o ddigwyddiad ('contingency') mewn diwinyddiaeth, a dwyn i mewn angenrheidrwydd hanfodol yn ei le.' Yn 1888 symudodd i Fethesda, Sir Gaernarfon. Yn ei bregethu yno
  • ADAMS, ROGER (bu farw 1741), argraffydd yng Nghaer Courant. Efe, hefyd, a argraffodd John Reynolds, The Scripture Genealogy and Display of Herauldry, 1739. Wedi ei farw bu ei weddw, ELIZABETH ADAMS, yn dwyn y busnes ymlaen. Hyhi a argraffodd Cydymaith Diddan (Dafydd Jones o Drefriw), 1766; argraffodd hefyd, e.e. yn 1752 a 1753, lawer o faledi.
  • ADAMS, WILLIAM (1813 - 1886), arbenigwr mewn mwnau Ganwyd yn Penycae, Ebbw Vale, 10 Hydref 1813, mab John a Mary Adams. Glowr oedd ei dad ar y pryd ac yn hynod fedrus yn y gwaith hwnnw, a daeth yn gynrychiolydd mwnawl dros Charles Lloyd Harford & Co. Addysgwyd William yn Ysgol Ramadeg Pontfaen. Prentisiwyd ef yn 1828 gyda Charles Lloyd Harford, ac yng nghwrs amser daeth yn arbenigwr yn ei gangen ef ei hun o'r gwaith. Cyhoeddodd Science of Mining
  • ADDA FRAS (1240? - 1320?), bardd a brudiwr o fri Yn ôl Dr. John Davies a Thomas Stephens, blodeuai tua 1240. Cyfeirir ato yn Peniarth MS 94 (26), a Llanstephan MS. 119 (82) fel gwr yn byw tua 1038, ac yn cydoesi â Goronwy Ddu o Fôn. Ond yn G. P. Jones, Anglesey Court Rolls, 1346, tt. 37 a 39, ceir sôn am 'the son of Adda Fras', a 'the suit of Goronwy Ddu, attorney for the community of the Township of Porthgir.' Yn Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr
  • AELHAEARN (fl. 7fed ganrif), nawdd-sant Yn ôl rhestrau'r saint yr oedd yn fab Hygarfael, mab Cyndrwyn o Lystin Wennan (Moel Feliarth yn awr) ym mhlwyf Llangadfan, Sir Drefaldwyn. Iddo ef y priodolir sefydlu Cegidfa, Llanael-haearn, a chapel arall o'r un enw nad ydyw mewn bod yn awr ond a gynrychiolir gan Gwyddelwern. Cofir am ei enw, a geir yn aml ar y ffurf Elhaearn, yn Ffynnon Aelhaearn, ffynnon sanctaidd y credid gynt fod rhinwedd
  • ALBAN DAVIES, DAVID (1873 - 1951), gŵr busnes a dyngarwr yn Nghroesoswallt pan oedd yn 18 oed. Ar 28 Tachwedd 1899 priododd â Rachel Williams, Brynglas, Moria, Penuwch, yn Eglwys y Drindod, Aberystwyth, a bu iddynt 4 mab a merch. Aethant i weithio gydag Evan, brawd Rachel, a gadwai fusnes laeth lwyddiannus yn Llundain. Ymhen yrhawg prynodd David Alban Davies gwmni llaeth Hitchman a ddatblygodd yn fusnes lewyrchus o dan ei gyfarwyddyd. Yn 1933 cododd dŷ