Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 3955 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

13 - 24 of 3955 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • ALBAN DAVIES, JENKIN (1901 - 1968), gŵr busnes a dyngarwr Ganwyd 24 Mehefin 1901, yn Walthamstow, Llundain, mab hynaf David Alban Davies a Rachel (ganwyd Williams) ei wraig, y ddau o Geredigion. Addysgwyd ef yn ysgol Merchant Taylors, ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg S. Ioan, Rhydychen, ond ni allai fforddio mynd yno. Aeth i Brifysgol Cornell, T.U.A., am ddwy flynedd yn efrydydd amaethyddiaeth a llaetheg a gweithiodd am gyfnod byr mewn cwmnïau
  • ALBAN, Syr FREDERICK JOHN (1882 - 1965), cyfrifydd a gweinyddwr. Ganwyd 11 Ionawr 1882 yn (?) Y Fenni, yn fab i David Alban a'i wraig Hannah. Bu'r fam farw yn Y Fenni 28 Medi 1884. Teiliwr wrth y dydd oedd y tad a bu yntau farw yn Henffordd 2 Ionawr 1891. Y canlyniad fu chwalu'r teulu. Bu'r ddau fab hynaf yn cadw siop grydd yn agos i Fleetwood. Magwyd Frederick John gan ' Miss Williams ' a elwid yn fodryb gan ei blant, ond ni wyddys a oedd yn berthynas gwaed
  • ALEN, RHISIART ap RHISIART, awdur 'Carol ymddiddan ag un marw ynghylch Purdan' Ceir y garol yn NLW MS 1559B, tt. 313-5, a ysgrifennwyd yn gynnar yn y 17fed ganrif gan William Bodwrda o Aberdaron. Hwyrach, serch hynny, fod cyfnod cyfansoddi'r garol rymus hon gryn dipyn yn gynharach na'r llawysgrif, yn enwedig gan nad oes awgrym ynddi fod neb yn amau bodolaeth y purdan. Gwaith beirdd Llŷn a geir gan mwyaf yn y llawysgrif, ac awgryma hyn fod yr awdur o'r rhan honno o'r wlad. Y
  • ALIS ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (c. 1520), prydyddes Llanelwy, Thomas Llwyd y Faenol (bu farw 1602), William Llwyd, M.A., rheithor Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanfechain, a Llanwrin, 1590-1600, a chanon yn Llanelwy, 1587-1600, ac Edward Llwyd (bu farw 1639), proctor yn Llanelwy. Ychydig o waith prydyddol Alis ferch Gruffudd a gadwyd - cyfresi o englynion ar y math o ŵr a fynnai, a'i barn am ailbriodas ei thad yn ei hen ddyddiau, a chywydd cymod rhwng Grigor
  • ALLEN, JAMES (1802 - 1897), deon Tyddewi a hynafiaethydd Ganwyd 15 Gorffennaf 1802, mab David Bord Allen, rheithor Burton, Sir Benfro. Cafodd ei addysg yn ysgolion Westminster a Charterhouse ac yng Ngholeg y Drindod, Caer-grawnt (B.A., 1825, M.A., 1829). Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon, 1834, ac yn offeiriad, 1835; bu'n gurad Miserden, swydd Gaerloyw, 1834-9, ficer Castell-Martin, Sir Benfro, 1839-1872, deon gwladol Castell-Martin, 1840-1875, canon Tyddewi
  • ALLEN, JOHN ROMILLY (1847 - 1907), hynafiaethydd Ganwyd yn Llundain, 9 Mehefin 1847, o hen deulu Alleniaid Cresselly, Sir Benfro, yn ddyledus yn ddiau am ei ail enw i'r ffaith i'w daid briodi nith Syr Samuel Romilly. George Baugh Allen, Cilrhiw, gerllaw Llanbedr Efelffre, oedd ei dad, a'i fam yn ferch Roger Eaton, Parc Glas, gerllaw Crinow. Ar ôl cael addysg yn Rugby a King's College, Llundain, dewisodd y mab beidio â dilyn esiampl ei dad, a
  • teulu ALLGOOD Thomas Allgood I. Unodd mewn partneriaeth ariannol â John Davies a William Edwards. Eu prif arluniwr a phaentiwr ydoedd Benjamin Barker, tad Thomas Barker o Bath; yn ystod y cyfnod hwn cododd ansawdd lacar Pontypwl i'w uchafbwynt, ac anfonodd cwmni Pontypwl her (nas derbyniwyd) i'w cystadleuwyr ym Mrynbuga. Bu farw Thomas IV 22 Tachwedd 1779, ac fe'i claddwyd ym mynwent y Bedyddwyr ym Mhenygarn
  • teulu ALMER Almer, Pant Iocyn, i adeiladu Pant Iocyn heb fod ymhell i ffwrdd. Daeth y teulu'n bwysig yng ngwleidyddiaeth swydd Ddinbych ar ôl pasio Deddfau'r Uno. Bu EDWARD ALMER, ŵyr y John Almer cyntaf, yn siryf yn 1554, ac fe'i hetholwyd yn farchog y sir yn 1555; Edward Almer arall, y mae'n debyg, oedd siryf 1571. Dilynodd WILLIAM ALMER ei dad yn y Senedd yn 1572. Bu teyrngarwch crefyddol y teulu yn ansicr hyd cyn belled â
  • AMBROSE, WILLIAM (Emrys; 1813 - 1873), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor bynnag, aeth yn gydymaith i William Williams ('Caledfryn') ar daith bregethu drwy Lyn ac Eifionydd. Ar y daith daeth i'w ran bregethu ym Mhorthmadog, a bu hynny'n achlysur ei wahodd i gymryd gofal yr eglwys yno am flwyddyn. Cydsyniodd yntau, ac ar derfyn y flwyddyn, 7 Rhagfyr 1837, urddwyd ef yn weinidog cyflawn i'r eglwys, ac yno y bu hyd ei farw, 31 Hydref 1873. Ym mynwent Capel Helyg, Llangybi, y
  • AMBROSE, WILLIAM ROBERT (1832 - 1878), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hynafiaethydd Ganwyd 19 Ionawr 1832, yn y Galltraeth, Bryncroes, Llŷn, yn fab i'r Parch. Robert Ambrose (gweler Spinther, iii, t. 367) - yr oedd felly'n gefnder i'r bardd William Ambrose. Dygwyd ef i fyny'n deiliwr, a dilynodd yr alwedigaeth honno yng Nghaernarfon, Lerpwl, Bangor, Porthmadog, a Thalsarn. Yn 1856, bedyddiwyd ef (ym Mangor), a dechreuodd bregethu; ac ym mlynyddoedd olaf ei oes yr oedd yn fugail
  • ANN of SWANSEA - gweler HATTON, ANN JULIA
  • ANTHONY, DAVID BRYNMOR (1886 - 1966), athro a chofrestrydd Ganwyd 28 Hydref 1886 yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin, ail fab John Gwendraeth a Mary (ganwyd Harris) Anthony. Masnachwr bwydydd a dilledydd oedd y tad yn Paris House yn y dreflan honno. Addysgwyd ef yn ysgol y Castell yng Nghydweli, ysgol Uwchradd Llanelli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r ymaelododd yn Hydref 1905 a graddio gyda dosbarth I mewn Ffrangeg a Ieitheg Romawns yn 1908, gan