Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 3955 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

25 - 36 of 3955 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • ANTHONY, GRIFFITH (1846 - 1897), cerddor Ganwyd yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Symudodd y teulu i Gwmbwrla ger Abertawe, a dechreuodd y mab weithio yn ieuanc yn y gwaith haearn. Ymgymerodd ag astudio cerddoriaeth, ac enillodd y radd o A.C. o Goleg y Tonic Solffa. Sefydlodd ddosbarthiadau i ddysgu elfennau cerddoriaeth yn y gwahanol eglwysi, a mynychid hwynt gan lu mawr o ddisgyblion. Cyfansoddodd anthemau yn dwyn y teitlau ' Ceisiwch yr
  • ANTHONY, HENRY MARK (1817 - 1886), arlunydd Ganwyd ym Manceinion, o dras Cymreig. Symudodd ei deulu i'r Bontfaen, Sir Forgannwg, ac yno yn 16 oed aeth yn brentis at feddyg. Daeth yn berchen ar foddion annibynnol a rhoddodd y gorau i alwedigaeth meddyg, gan dreulio tua deng mlynedd ar y Cyfandir yn astudio celf; yn ystod y blynyddoedd hyn daeth dan ddylanwad Corot a Jules Dupré. Bu 129 o'i ddarluniau mewn arddangosfeydd rhwng 1837 a 1884
  • ANTHONY, WILLIAM TREVOR (1912 - 1984), canwr
  • teulu ANWYL Parc, Llanfrothen glynodd disgynyddion Lewis Anwyl (bu farw 1605) wrth y cyfenw teuluol. Yr oedd WILLIAM LEWIS ANWYL (bu farw 1642) yn ynad heddwch ac yn ddirprwy raglaw ei sir; bu'n siryf Meirionnydd yn 1610, ac yr oedd yn flaenllaw mewn materion cyhoeddus. Prynodd Llwyn, Dolgellau, ailadeiladodd Parc, ac ychwanegodd yn ddirfawr at ei ystad trwy briodi Elizabeth Herbert, aeres o Sir Drefaldwyn, ac at ei ddylanwad ei hun
  • ANWYL, Syr EDWARD (1866 - 1914), ysgolhaig Celtig Religion in Pre-Christian Times, 1906; rhagymadroddion a darlithiau, anerchiadau ac erthyglau mewn cyfnodolion a gwyddoniaduron, yn arbennig Encyclopaedia of Religion and Ethics (Hastings), ac esboniad, yn Gymraeg, ar Hosea. Yr oedd Anwyl yn ysgolhaig gwych; yr oedd ei wybodaeth yn dra eang ac amryfal. Am flynyddoedd lawer bu'n un o wŷr amlycaf bywyd a gweithgareddau diwylliannol Cymru. Fe'i hurddwyd yn
  • ANWYL, JOHN BODVAN (Bodfan; 1875 - 1949), gweinidog gyda'r Annibynwyr, geiriadurwr, ac awdur Ganwyd 27 Mehefin 1875 yng Nghaer, yn fab i John Anwyl, pregethwr cynorthwyol, o deulu Anwyliaid Caerwys, Sir y Fflint, ac Elen Williams ei wraig. Daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Elim, Caerfyrddin, yn 1899. Oherwydd byddardod ymddeolodd o'i eglwys i gymryd gofal Sefydliad y Mud a'r Byddar, Pontypridd, Morgannwg, 1904-19. Ef, yn 1914, oedd yn gyfrifol am y chweched argraffiad o Eiriadur
  • ANWYL, LEWIS (1705? - 1776), offeiriad ac awdur Ganwyd yn Llandecwyn, Sir Feirionnydd, mab William Anwyl, rheithor Llanfrothen (1709-13), a Ffestiniog a Maentwrog (1713-29). Aeth i Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, yn 1723, a graddio yn 1726. Cafodd fywoliaeth Ysbyty Ifan yn 1740, ac Abergele yn 1742. Cyhoeddodd o leiaf bedwar o lyfrau: (a) Y Nefawl Ganllaw, Neu'r Union Ffordd i Fynwes Abraham. … Argraphwyd yn y Mwythig, gan R. Lathrop, Tros
  • AP GWYNN, ARTHUR (1902 - 1987), Llyfrgellydd, a thrydydd llyfrgellydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth Printiedig y Llyfrgell Gendlaethol a fu farw yn 1950, sef William Williams, yn Llyfrgelloedd yng Nghymru - proceedings, 1950 ac yn Barn Medi 1969 'Nawddogi Awduron' oedd teitl ei ysgrif ar fater Hawliau Benthyca Cyhoeddus. O 1949 ymlaen yr oedd Arthur ap Gwynn naill ai'n cynorthwyo ei dad, yn adargraffu ei weithiau, yn ysgrifennu amdano neu yn casglu cyfeiriadau ar gyfer llyfryddiaeth arfaethedig o
  • AP THOMAS, DAFYDD RHYS (1912 - 2011), ysgolhaig Hen Destament Eissfeldt. Ei gyfraniad gorchestol oedd cyfieithu o'r Norwyeg waith mawr ac arloesol Sigmund Mowinckel The Psalms in Israel's worship (2 gyfrol, 1962, a 2004). Cyhoeddodd hefyd Primer of Old Testament text criticism (1947, arg. diwygiedig 1964) a gyda Gwilym H. Jones, Gramadeg Hebraeg y Beibl (1976). Ef oedd golygydd y gyfres o lyfrau 'Beibl a Chrefydd' a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1976 a
  • APPERLEY, CHARLES JAMES (Nimrod; 1779 - 1843), awdur llyfrau ac ysgrifau ar hela, rhedegfeydd ceffylau, etc. Ganwyd ym Mhlas Gronow (a chwalwyd weithian) ger Wrecsam, 1779, ail fab Thomas Apperley; ei fam yn ferch i William Wynn, Maes y Neuadd, Talsarnau, Meirion, rheithor Llangynhafal. Aeth i ysgol Rugby, 1790; yn 1798 penodwyd ef yn gornet yng nghatrawd Syr Watkin Williams Wynn, yr ' Ancient British Light Dragoons,' a bu gyda'r gatrawd yn Iwerddon. Yn 1801 priododd Winifred, merch William Wynn
  • APPERLEY, WILLIAM WYNNE (bu farw 1872), Uwchgapten ym Myddin India - gweler APPERLEY, CHARLES JAMES
  • ARMSTRONG-JONES, ROBERT (1857 - 1943), meddyg ac arbenigwr ar anhwylderau'r ymennydd Ganwyd 2 Rhagfyr 1857, yn Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, yn fab i'r Parch Thomas Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Eisteddfa, Cricieth, a Jane Elizabeth, merch Robert Jones o'r un lle. Bu yn ysgol ramadeg, Porthmadog, ysgol Grove Park, Wrecsam, coleg y Brifysgol, Bangor, ac ysbyty S. Bartholomew, Llundain; cymerodd ei M.D. (Llundain) yn 1885; F.R.C.S. (Lloegr) 1886; F.R.C.P. (Llundain) 1908. Yn