Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 60 for "cynan"

1 - 12 of 60 for "cynan"

  • CYNAN DINDAETHWY (bu farw 816), tywysog Yn ôl yr achau hynaf yr oedd yn fab Rhodri, ŵyr Cadwaladr (bu farw 664). A chofio, fodd bynnag, i Rodri (Rhodri Molwynog, fel rheol) farw yn 754 ac mai yn 813 y sonnir gyntaf am Gynan, rhaid ystyried yr ach yn wallus. Mewn cysylltiad ag ymgais â Hywel (brawd iddo, yn ôl Dr. David Powel) i'w gyfrif yn bennaeth Môn y daw enw Cynan i dudalennau hanes. Yn 814, Hywel a orfu; enillodd Cynan yr ynys yn
  • JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS (Cynan; 1895 - 1970), bardd, dramodwr ac eisteddfodwr Goleg y Bala, ac yn 1920 ordeiniwyd ef a'i sefydlu yn weinidog yr eglwys Bresbyteraidd ym Mhenmaen-mawr. Yno y bu hyd 1931, pan benodwyd ef yn diwtor yn Adran Allanol coleg Bangor, gyda chyfrifoldeb arbennig am Ynys Môn. O 1936 hyd nes ymddeol yn 1960 bu'n diwtor staff, a'i bynciau oedd drama a llenyddiaeth Gymraeg. Ond daliodd i bregethu yn gyson ar hyd ei oes. Daeth Cynan yn amlwg iawn ym mywyd
  • CYNAN ab IAGO (bu farw 1060?), tywysog a alltudiwyd mab Iago ab Idwal, yn disgyn o Rodri Mawr, ac arglwydd Gwynedd o 1033 hyd 1039. Pan lofruddiwyd Iago yn 1039 gan ei wŷr ei hun a dyfod Gruffydd ap Llywelyn, o linach arall, i awdurdod, ffoes Cynan i blith Daniaid Dulyn. Yno priododd Ragnhildr, ŵyres Sitric 'â'r farf sidanog' (bu farw 1042), ac felly daeth i berthyn i'r teulu brenhinol. Yn ôl David Powel (Historie of Cambria) fe ymdrechodd
  • IAGO ab IDWAL ap MEURIG (bu farw 1039), brenin Gwynedd gor-wyr i Idwal Foel. Wedi i dreiswyr yn olynol gipio'r awdurdod yng Ngwynedd rhwng 986 a 1033 - gweler Maredudd ab Owain, Llywelyn ap Seisyll, Rhydderch ap Iestyn - adferwyd yr hen linach ym mherson Iago. Teyrnasiad byr o chwe mlynedd a gafodd cyn ei lofruddio ac i Gruffydd ap Llywelyn ap Seisyll gymryd ei le. Mab iddo oedd Cynan, tad Gruffydd ap Cynan, y tywysog a lwyddodd o'r diwedd i ail
  • CYNWRIG HIR (fl. 1093) Edeirnion Yn ' Hanes Gruffydd ap Cynan ' adroddir amdano'n dyfod i Gaer lle'r oedd Gruffydd yn garcharor Hu Iarll ers deuddeng mlynedd, gweld y tywysog mewn gefynnau, ei gario i ffwrdd tra oedd y bwrdeisiaid wrth eu bwyd, ei gadw'n ddirgel tros dro yn ei dŷ ei hun, ac yna ei ddwyn yn llechwraidd i Fôn. Os gwir yr hanes, yr oedd yn weithred dyngedfennol yn hanes Cymru yn wyneb pwysigrwydd gyrfa Gruffydd a'i
  • LLYWELYN FAWR (fl. yn gynnar yn y 13eg ganrif) Meibion Maredudd ap Cynan. Ar waethaf y rhwyg rhwng eu tad â Llywelyn I, yr oeddent yn teimlo'n gyfeillgar tuag at Lywelyn o 1215 ymlaen. Efallai, yn wir, i arglwyddiaeth Meirionnydd, a gollwyd i'r teulu yn 1202, gael ei rhoddi'n ôl iddynt cyn gynhared â 1221. Er iddynt gael eu cadarnhau yn y cantref gan Harri III yn 1241, ymladdodd y ddau ar ochr Dafydd II yn 1245. Wedi'r flwyddyn honno nid oes
  • BROCHWEL YSGYTHROG (fl. 550), tywysog Yn ôl traddodiad efe oedd y person mwyaf trawiadol yn hen linach tywysogion cynnar Powys, yn gymaint felly ag y daeth y beirdd i alw Powys yn wlad Brochwel. Mab ydoedd i Cyngen a thad Cynan Garwyn a'r sant Tysilio, sefydlydd hen eglwys Meifod. Gan i'w ŵyr, Selyf ap Cynan, gwympo yn y gad wrth arwain y Cymry ym mrwydr Caer (c. 613), nid Brochwel mo'r ' Brochmail ' y dywed Beda iddo chwarae rhan
  • CYNAN ap HYWEL (bu farw 1242?), tywysog a'r iarll Marshall i wneud rhaniad a fyddai'n deg rhwng Maelgwn, Owain, a Cynan, a thrachefn ym Mawrth 1238 pan enwyd ef ymhlith gwŷr gwrogaeth rhai o'r mawrion Seisnig y gwaherddid iddynt dalu gwrogaeth i David fel aer Llywelyn. Yn ôl incwestau ymchwil yn 1288 a 1299 darganfu Walter Marshall fod Cynan, pan fu Llywelyn farw yn 1240, yn elyniaethus i Goron Lloegr ac o'r herwydd cymerth Emlyn ac
  • CYNAN ab OWAIN (bu farw 1174), tywysog mab Owain Gwynedd, ond ni wyddys pwy oedd ei fam. Yn 1145 ymosododd ef a Hywel ei frawd ar Aberteifi; anrheithiwyd y dref ond ni chymerwyd mo'r castell. Ddwy flynedd yn ddiweddarach goresgynnodd y brodyr Feirionnydd a bwrw allan eu hewythr Cadwaladr; gan iddynt ymosod o gyfeiriadau gwahanol ymddengys fel petai Cynan wedi ymsefydlu yn Ardudwy. Yn 1150 dywedir ei garcharu gan ei dad. Cymerth ran
  • MEILYR BRYDYDD (fl. c. 1100-37), pencerdd llys Gruffudd ap Cynan yn Aberffraw. Ystyrir ef y cyntaf o'r Gogynfeirdd. Yn ei hanes ef a'i fab Gwalchmai a'i ŵyrion y ceir yr enghraifft debycaf yng Nghymru i'r hyn y gwyddom gymaint mwy amdano yn Iwerddon, sef teulu yn etifeddu'r swydd o bencerdd llys i linach arbennig o dywysogion, a chan y beirdd hyn eu treftadaeth dirol oblegid eu swydd farddol. Ceir Trefeilyr a Threwalchmai ym Môn hyd heddiw
  • GRUFFUDD ap CYNAN (c. 1055 - 1137), brenin Gwynedd Ei dad oedd Cynan ap Iago, a oedd yn alltud yn Iwerddon, a'i fam oedd Rhagnell (Ragnhildr), o deulu brenhinol Sgandinafiaid Dulyn. Er 1039, pan laddwyd Iago trwy frad ei wŷr ei hun, bu Gwynedd o dan reolaeth treiswyr nad oeddynt o linach frenhinol y wlad. Un o'r rheini oedd Bleddyn ap Cynfyn, a laddwyd yn 1075, ac a ddilynwyd ar yr orsedd gan ei gefnder, Trahaearn ap Caradog, brenin Arwystli. Yn
  • IEUAN ap BEDO GWYN (fl. c. 1530-90?), bardd a pherchennog stad Llysyn (Llanerfyl, Sir Drefaldwyn) cyn i deulu Herbert ei phrynu; disgynnydd un o ganghennau ieuaf teulu'r Neuadd Wen (stad gyfagos), a disgynnydd felly i Faredudd, brawd Gruffudd ap Cynan. Nid erys ond ychydig o'i waith; yn ei blith ceir cywydd a gyfansoddwyd yn 1538 i Ddafydd ab Ieuan Llwyd o Nantmynach.