Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 60 for "cynan"

13 - 24 of 60 for "cynan"

  • HYWEL ap RHODRI MOLWYNOG (bu farw 825), brenin Gwynedd Gor-ŵyr Cadwaladr Fendigaid a'r brenin olaf ym Môn o linach Cunedda. Trosglwyddwyd gwaed Cunedda, ar farw Hywel, i linell frenhinol newydd trwy ei nith, Ethyllt (nain Rhodri Mawr), merch ei frawd Cynan (bu farw 816), gŵr y bu Hywel yn cydymgeisio ag ef yn hir am yr oruchafiaeth ym Môn.
  • DAVID (bu farw 1139?), esgob Bangor Ar ôl i'r esgob Hervé gael ei symud, bu bwlch yn hanes yr esgobaeth; ni chydnabuwyd un esgob gan Gaergaint hyd 1120. Yn y flwyddyn honno ysgrifennodd Gruffydd ap Cynan, a oedd yn awr ar delerau da â'r brenin, at yr archesgob yn ei hysbysu ddarfod dewis gŵr o'r enw David ganddo ef a chan glerigwyr a phobl Cymru, a chyda chaniatâd y brenin, ac yn gofyn am iddo gael ei gysegru. Caniatawyd y cais ac
  • GRUFFYDD ap RHYS (c. 1090 - 1137), tywysog Deheubarth personau o awdurdod yn y wlad nad oedd eto'n teimlo y dylid gwrthsefyll teyrnasiad y Normaniaid. Ymhlith y personau hyn yr oedd Gruffydd ap Cynan, a oedd yn barod i drosglwyddo ei gâr ieuanc i Harri I pan geisiodd hwnnw, sef Gruffydd ap Rhys, loches yng Ngwynedd. Yr oedd y safiad gwrthwynebol a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn y gwrthryfel yn 1116 yn rhwym o fethu yn ei amcan. Serch hynny daeth Gruffydd ap
  • GWENLLIAN (bu farw 1136) Merch Gruffydd ap Cynan ac Angharad, merch Owain ab Edwin. Daeth yn wraig Gruffydd ap Rhys yn fuan wedi 1116; ei mab enwocaf oedd yr Arglwydd Rhys. Pan gychwynnodd y gwrthryfel Cymreig mawr yn 1136 arweiniodd Gwenllian, yn absenoldeb ei gŵr, y cyrch ar amddiffynfa'r Normaniaid yng Nghydweli a chafodd ei lladd wrth ymladd y tu allan i'r dref mewn man a elwir yn Maes Gwenllian hyd heddiw.
  • MAREDUDD ap CYNAN ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1212) O 1173 hyd 1194 yr oedd yn arglwydd Eifionydd a rhan o Ardudwy - ffaith a nodwyd gan Gerallt Gymro pan aeth trwy'r ardal yn 1188. Derbyniodd Feirionnydd hefyd gan ei frawd Gruffudd (yn 1194, mae'n debyg) pan rannodd hwnnw ffrwyth buddugoliaeth yng Ngwynedd gyda'i gefnder Llywelyn I; yr oedd gyrfa gynnar Llywelyn yn ddyledus i raddau helaeth i'r cymorth a roes meibion Cynan iddo. Pan fu Gruffudd
  • OWAIN ab EDWIN (bu farw 1105) Nhegeingl, uchelwr Dywedid mai meibion oedd ef a'i frawd, Uchtryd, i Edwin ap Gronw (gor-or-ŵyr Hywel Dda) ac Iwerydd, hanner-chwaer Bleddyn ap Cynfyn. Serch i Owain gynorthwyo yr iarll Hugh o Gaer yng nghyrch annhymig hwnnw yn erbyn Gwynedd yn 1098, priododd Angharad, ei ferch, â Gruffydd ap Cynan. Gronw ei fab, oedd tad Christina, ail wraig Owain Gwynedd. Ni ddylid cymysgu rhyngddo â chefnder ei dad, hwnnw hefyd
  • OWAIN FYCHAN ap MADOG ap MAREDUDD (bu farw 1187), tywysog Powys un o feibion Madog o Susanna, merch Gruffydd ap Cynan. Yn ôl cân gyfoes, ym Mechain, Cynllaith, a Mochnant-Isrhaeadr y gorweddai ei diroedd ef; yr oeddent yn ffurfio cainc rhwng tiroedd ei frawd hynaf, Gruffydd, a thiroedd ei gefnder, Owain Cyfeiliog. Yr oedd iddo bersonoliaeth ychydig uwchlaw'r cyffredin. Collodd ei fywyd yng Ngwern-y-Figyn gerllaw Carreg Hofa lle yr ymosodwyd arno yn fradwrus
  • GWALCHMAI ap MEILYR (fl. 1130-80), bardd o Fôn, un o'r cynharaf o'r Gogynfeirdd ceir tystiolaeth mai mab oedd Gwalchmai i Feilyr, pencerdd Gruffudd ap Cynan (The Myvyrian Archaiology of Wales, 144B 16-17 - 'Arddwyrews fy nhad [e]i fraisg frenhindad'). Profir i Walchmai ddechrau canu cyn 1132 gan y ddau gyfeiriad ganddo at ei foliant i Gadwallawn fab Gruffudd ap Cynan a fu farw'r flwyddyn honno. Yn un o'r awdlau i Owain Gwynedd ceir cyfeiriadau at ymgyrchfeydd y tywysog hwnnw yn
  • OWAIN GWYNEDD (c. 1100 - 1170), brenin Gwynedd Ail fab Gruffydd ap Cynan ac Angharad, ferch Owain ab Edwin. Fe'i gelwir yn Owain Gwynedd i'w wahaniaethu oddi wrth Owen ap Gruffydd arall, a adnabyddir fel Owain Cyfeiliog. Priododd, (1), Gwladus, ferch Llywarch ap Trahaearn, a (2), Christina, ei gyfnither, merch Gronw ab Owain ab Edwin, merch y glynodd yn ffyddlon wrthi er gwaethaf anghymeradwyaeth egnïol yr Eglwys. Cafodd ddau fab o Gwladus
  • DANIEL ap LLOSGWRN MEW, bardd Ceir awdl-farwnad i Owain Gwynedd (bu farw 1170) a briodolir iddo yn Hendreg. MS. 21ab, a The Myvyrian Archaiology of Wales, 193a. Y mae 'Llyfr Coch Hergest,' col. 1401, yn priodoli iddo gadwyn o englynion marwnad i Ruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (bu farw 1200) a geir yn Hendreg. MS. 113b ac yn y The Myvyrian Archaiology of Wales, 204b, fel gwaith Llywarch ab Llywelyn (Prydydd y Moch). Ni
  • RHODRI ab OWAIN (bu farw 1195), tywysog yng Ngwynedd mab Owain Gwynedd a Christina, a brawd iau Dafydd I. Yr oedd ei gyfran ef o diriogaeth Owain Gwynedd ym Môn ac Arfon eithr alltudiwyd ef o'r gyfran honno yn 1190 gan ei neiaint, Gruffydd a Maredudd, meibion Cynan. Yn 1193 llwyddodd i adennill Môn dros dymor trwy gymorth llu o Ynys Manaw - yr oedd cyn hynny wedi ymrwymo i briodi merch i frenin Manaw. Ni wyddys a fu iddo ddychwelyd o'i alltud a
  • ANGHARAD (bu farw 1162) Gwraig Gruffydd ap Cynan, a merch Owain ab Edwin, un o benaethiaid dwyrain Gwynedd. Priododd Gruffydd tua'r flwyddyn 1095, yn gynnar yn ei ymdrech am allu; goroesodd Angharad ei gŵr flynyddoedd lawer, gan farw yn 1162. Dyma eu plant: Cadwallon (bu farw 1132), Owain (Gwynedd), Cadwaladr, a phum merch, sef Gwenllian, Marared, Rainillt, Susanna, ac Annest. Priododd Gwenllian Gruffydd ap Rhys a daeth