Canlyniadau chwilio

1681 - 1692 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1681 - 1692 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, DAVID LEWIS (1945 - 2010), Llyfrgellydd Ty'r Arglwyddi materion Cymreig yn ganolog i'w safbwyntiau drwy gydol ei oes. Roedd yn ymweld yn rheolaidd ag Aberaeron drwy ei fywyd. Am gyfnod byr rhwng 1970 a 1972 bu'n llyfrgellydd cynorthwyol yn yr Institute of Historical Research yn Llundain, ac yna enillodd ei fywoliaeth yn llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1972 tan 1977, gan dderbyn dyrchafiad yno fel llyfrgellydd y gyfraith. Dan anogaeth yr
  • JONES, DAVID LEWIS (1788 - 1830), gweinidog Ariaidd ac athro coleg Ganwyd 8 Ebrill 1788, yng Nglynadda, ger Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin. Fe'i codwyd ymhlith yr Annibynwyr ym Mhencader. Addysgwyd ef gan ' Davis Castellhywel ' ac yng Ngholeg Caerfyrddin (1807-11). Fe'i hordeiniwyd yn Llwynrhydowen, 30 Awst 1811, fel cyd-weinidog â David Davis, Castellhywel, ac agorodd ysgol yn Llandysul. Armin ydoedd adeg ei ordeinio, ond mynnir ei fod yn Ariad yn niwedd ei oes
  • JONES, DAVID LLOYD (1843 - 1905) Llanidloes, Llandinam, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 5 Ionawr 1843 yn Nhalysarn, mab yr enwog John Jones. Bu dan addysg yn Ysgol Frutanaidd y pentref, ysgol Clynnog 1860, Coleg y Bala 1861, Prifysgol Edinburgh 1865-9 (M.A. 1869). Daeth dan ddylanwad diwygiad 1859. Bu'n weinidog eglwys China Street, Llanidloes, 1870 (ordeiniwyd ef yn Amlwch, 1872), ac yn weinidog eglwys Saesneg Llandinam o 1875 i ddiwedd ei oes. Priododd, (1), Sophie Williams
  • JONES, DAVID MORRIS (1887 - 1957), gweinidog (MC) ac Athro Ganwyd 14 Mawrth 1887 ym Maes-y-groes, Maenan, Sir Gaernarfon, mab William Maurice ac Elisabeth Jones. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol ac ysgol rad Llanrwst, Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Cymraeg ac athroniaeth), Coleg y Bala, a Chaergrawnt. Ymunodd â'r fyddin yn 1915, ond galwyd ef adref o Salonica yn 1916 i gael comisiwn fel caplan i'r catrodau Cymreig yn Ffrainc
  • JONES, DAVID OWEN (1856 - 1903), gweinidog Wesleaidd ac awdur ac ar ôl ei dymor paratoawl yno daeth i'r Drefnewydd, Sir Drefaldwyn. Dywedir iddo ddechrau cyfansoddi pregethau pan yn 15 oed, eithr wedi dod i'r Drefnewydd y dechreuodd bregethu, a hynny gyda'r Annibynwyr i gychwyn pan yn 18 oed. Yna trodd yn ôl at y Wesleaid, ac yn 1874 cafodd alwad fel pregethwr i'r Borth, Sir Aberteifi. Gorffennodd ei dymor prawf yng nghylchdeithiau Llanfyllin
  • JONES, DAVID RICHARD (1832 - 1916), bardd Ganwyd 24 Hydref 1832, yn Bryntirion, plwyf Dolwyddelan, Sir Gaernarfon, mab Richard Jones, a oedd yn frawd i'r Parch. John Jones, Talsarn. Ymfudodd y teulu i U.D.A. yn Awst 1845 a chafodd y mab ychydig fisoedd o ysgol yn Cambria, Wisconsin. Bu'n gweithio ar fferm ei dad hyd nes y prentisiwyd ef, yn 1852, gydag arch-adeiladydd yn Racine, Wisconsin. Wedi iddo fod gyda ffyrmiau yn S. Paul a Chicago
  • JONES, DAVID STANLEY (1860 - 1919), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 28 Mehefin 1860 ym Mhantrasol, plwy Llannarth, Ceredigion, yn un o bedwar o blant Abraham ac Elizabeth Jones, y naill o ardal Llandysul a'r llall o dueddau Llangeitho. Symudodd y teulu i dyddyn bychan o'r enw Tŷ'rhos ac fel ' Dafi Tŷ'rhos ' yr adnabyddid ef gan ei gyfoedion. Er cynnal y teulu gorfu i'w dad fyned i weithio i Sir Forgannwg ac ar ei fam y disgynnodd pwys hyfforddi'r teulu
  • JONES, DAVID TAWE (1885 - 1949), cerddor Ganwyd yn Rhyd-y-fro, Pontardawe. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Abertawe a choleg y Brifysgol, Caerdydd. Bu'n organydd yn eglwysi Presbyteraidd Llanrwst, Caerdydd, Caerfyrddin, a Holloway Road (Llundain). Bu'n arwain a beirniadu llawer iawn ar hyd a lled Cymru ac yn Lloegr, ac yn ystod blynyddoedd olaf ei oes yr oedd yn Athro Llais yn y Guildhall School of Music, Llundain. Ymhlith ei
  • JONES, DORA HERBERT (1890 - 1974), cantores a gweinyddydd Ganwyd Dora Herbert Jones yn Llangollen ar 26 Awst 1890, y bumed a'r ieuengaf o ferched John ac Eleanor Rowlands (ganwyd Edwards). Ei henw bedydd oedd Deborah Jarrett Rowlands, ond cafodd ei hadnabod wrth yr enw Dora o'i phlentyndod. Cadwai ei thad siop groser a oedd yn ynys o Gymreictod ynghanol Seisnigrwydd y dref. Addysgwyd hi yn Ysgol Sir Llangollen ac aeth i Goleg Prifysgol Cymru
  • JONES, EDGAR (1912 - 1991), gweinidog, bugail ac ysgolhaig , megis The Triumph of Job (1966), Profiles of the Prophets (1968), God, Man and Community (1974), a nifer ar y Salmau: Testimony from the Temple (c.1976), Songs of the Sanctuary (c.1977), Statutes and Songs (1984), Psalms for Pilgrims. Cafodd ei gymharu â William Barclay am ei ddawn i gyflwyno'r Hen Destament yn iaith syml ei blentyndod, ond gydag eglurder a brwdfrydedd. Wedi iddo ymddeol i Abertawe
  • JONES, EDGAR WILLIAM (1868 - 1953), addysgwr a darlledwr Nghroesoswallt, i baratoi at gymryd gradd M.A. (Llundain) yn 1894. Wedi cyfnod byr (1894-99) yn brifathro ysgol sir Llandeilo, penodwyd ef yn brifathro ysgol sir y bechgyn yn Y Barri, lle'r arhosodd nes ymddeol yn 1933. Ar ôl ymddeol bu'n gynghorwr ar faterion Cymreig i'r B.B.C., gan drefnu rhaglenni ysgolion a gweithredu fel ysgrifennydd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Grefydd. Bu'n Glerc, trysorydd a Warden Urdd y
  • JONES, EDMUND (1702 - 1793), pregethwr Annibynnol ac awdur Ganwyd ym mhlwyf Aberystruth, sir Fynwy, 1 Ebrill 1702, mab John a Catherine Lewis, Penllwyn, tyddyn yn ymyl gorsaf ffordd haearn Nantyglo (yn awr), y rhieni yn aelodau yn eglwys Annibynnol Penmaen. Cafodd ychydig addysg o dan Howel Prosser, curad Aberystruth. Dechreuodd bregethu yn 1722 bu'n cynorthwyo gweinidog Penmaen, a chafodd ei ordeinio yno yn 1734. Yn 1727 a 1728 bu dadlau cyhoeddus poeth