Canlyniadau chwilio

433 - 444 of 703 for "Catherine Roberts"

433 - 444 of 703 for "Catherine Roberts"

  • ROBERTS, CATHERINE - gweler ROBERTS, KATE
  • ROBERTS, DAFYDD (1892 - 1965), cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn Ganwyd 18 Awst 1892 yn Weirglodd-ddu, Capel Celyn, Meirionnydd, yr ieuengaf o blant John a Margaret Roberts. Bu'n byw yn Weirglodd-ddu am y rhan fwyaf o'i oes cyn symud i lawr y dyffryn i fferm Cae Fadog. Bu'n un o ddau yn cario'r post trwy'r ardal am dros ddeugain mlynedd ynghyd â ffermio. Bu'n flaenor am flynyddoedd yng Nghapel Celyn (MC) a pharhaodd yn y swydd hyd ddatgorffori'r capel. Pan
  • ROBERTS, DAVID (Telynor Mawddwy; 1875 - 1956), telynor, datgeinydd ac awdur llawlyfrau gosod Ganwyd 1 Awst 1875 yn Llannerch, Llanymawddwy, Meirionnydd, yr hynaf o saith o blant Robert Roberts a Chatrin (ganwyd Pughe). Hanai o deuluoedd diwylliedig a cherddorol iawn ar y naill ochr a'r llall - ei dad yn hanu o deulu amryddawn Bwlch Coediog, Mallwyd. Pan oedd yn chwech oed, cafodd y frech goch, a gadawyd ef yn ddall am weddill ei oes. Meithrinwyd ei dalent cerddorol ar yr aelwyd ac yn y
  • ROBERTS, DAVID (Dewi Ogwen; 1818 - 1897), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 19 Ebrill 1818 ym Mangor, mab y Parch. Dafydd Roberts, pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac arolygwr un o ysgolion Charles o'r Bala; ei fam o linach John Jones, Talsarn, a Cadwaladr Owen, Dolwyddelan. Addysgwyd ef i ddechrau mewn ysgol breifat yn y dref ac wedi hynny yn ysgol y Dr. Arthur Jones. Yn 1833 aeth yn brentis o argraffydd i swyddfa'r papur lleol. Derbyniwyd ef yn aelod yn
  • ROBERTS, DAVID (Dewi Havhesp; 1831 - 1884), bardd Ganwyd ym mis Mai 1831 ym Mhen'singrug, Llanfor - rhed nant Hafesb, yr ymenwodd arni, drwy'r llan hwnnw; ef oedd yr hynaf o 11 plentyn Robert Roberts, gŵr o Landrillo, a'i wraig Margaret, a oedd yn ŵyres i'r emynydd William Edwards ac felly'n un o deulu Robert William o'r Pandy. Teiliwr oedd wrth ei grefft; gyrfa annosbarthus a helbulus a gafodd; bu'n byw am ychydig yng Nghefnddwysarn, ond wedyn
  • ROBERTS, DAVID (Alawydd; 1820 - 1872), cerddor Ganwyd 16 Mehefin 1820 yn Talybont, Llanllechid, Sir Gaernarfon, mab Moses ac Ellen Roberts. Gof oedd y tad yn chwarel Cae Braich-y-cafn, Bethesda, ond oherwydd pellter' y ffordd i'r chwarel symudodd y teulu i Gaerberllan, Bethesda. Derbyniodd ' Alawydd ' ei addysg yn ysgolion Llandegai, Carneddi, a Llanllechid, ac wedi hynny mewn ysgol nos a gynhelid yn Ty'nclawdd, Tregarth. Yn 13 oed ymunodd â
  • ROBERTS, DAVID (1788? - 1869), meddyg - gweler ROBERTS
  • ROBERTS, DAVID FRANCIS (1882 - 1945), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur Ganwyd 15 Tachwedd 1882 yn 3 Libanus Terrace, Bontnewydd, yn fab i Robert ac Ellen Roberts. O'r ysgol elfennol aeth i ysgol sir Caernarfon, coleg y Brifysgol, Bangor (1901-1904), coleg y Bala, ac am flwyddyn i Brifysgolion Berlin a Marburg. O 1908-1912 bu'n ddarlithydd cynorthwyol mewn Hebraeg ym Mhrifysgol Glasgow. Ordeinwyd ef yn 1912, a bugeiliodd eglwysi Maenofferen, Blaenau Ffestiniog 1912
  • ROBERTS, DAVID JOHN (Dewi Mai o Feirion; 1883 - 1956), newyddiadurwr, bardd gwlad, gosodwr a hyfforddwr cerdd dant Ganwyd 14 Mai 1883 yn Nhalweunydd, Blaenau Ffestiniog, Meirionnydd, yn fab i David a Catherine Roberts. Dechreuodd ymddiddori mewn canu gyda'r tannau pan oedd yn ifanc iawn, a bu ef, ynghyd â nifer o lanciau eraill o gylch y Blaenau, megis Ioan Dwyryd, Robert G. Humphreys, a W. Morris Williams, yn arfer cyrchu i fwthyn Llys y Delyn, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog, lle trigai David Francis
  • ROBERTS, DAVID OWEN (1888 - 1958), addysgydd Ganwyd 6 Hydref 1888 yn 28 Church Row, Trecynon, Aberdâr, Morgannwg, mab i Hannah (ganwyd Jones) a Gethin Roberts. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Llwydcoed ac wedyn yn ysgol sirol Aberdâr. Treuliodd y blynyddoedd 1907-09 yn y Coleg Normal, Bangor, a chael Tystysgrif Addysgu yn 1909. Bu'n ysgolfeistr wedi hynny yn Ysgol y Comin, Trecynon, Ysgol Cwmdâr ac Ysgol Abernant, y tair yng nghyffiniau
  • ROBERTS, EDWARD (1816 - 1887), gweinidog Annibynnol
  • ROBERTS, EDWARD (Iorwerth Glan Aled; 1819 - 1867), bardd a llenor Ganwyd 5 Ionawr 1819 yn Llansannan, sir Ddinbych, mab Peter Roberts, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu'n brentis mewn siop yn Abergele cyn mynd i Goleg (Methodistiaid Calfinaidd) y Bala. Wedyn bu'n cadw busnes yn Rhuddlan. Symudodd oddi yno i Ddinbych, lle y dechreuodd bregethu gyda'r Bedyddwyr; ordeiniwyd ef (29 Medi 1842) yn weinidog ar yr eglwys honno yn Ninbych; bu wedyn yn