Canlyniadau chwilio

457 - 468 of 703 for "Catherine Roberts"

457 - 468 of 703 for "Catherine Roberts"

  • ROBERTS, Syr ERNEST HANDFORTH GOODMAN (1890 - 1969), barnwr Ganwyd ym Mhen-y-ffordd, Fflint, 20 Ebrill 1890, yn unig fab i Hugh Goodman Roberts a'i wraig Elizabeth (ganwyd Lewis). Addysgwyd ef yng Ngholeg Malvern a Choleg y Drindod, Rhydychen; yr oedd yn llywydd Undeb Rhydychen yn 1914. Yn ystod Rhyfel Byd I gwasanaethodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a chododd i reng capten. Bu'n gwasanaethu ym Mhalestina. Enwyd ef mewn cadlythyrau a bu'n swyddog
  • ROBERTS, EVAN (1718 - 1804) Drefeca
  • ROBERTS, EVAN (bu farw 1650), Piwritan cynnar Credir gan rai mai ef oedd y Roberts a ddiarddelwyd gan esgob Ty Ddewi yn 1634 am ei anghydffurfiaeth. Y mae'n sicr iddo gael ei benodi gan Bwyllgor y Gweinidogion Anrheithiedig yn 1642 i bregethu yn Saesneg a Chymraeg ym mhlwyf Llanbadarn-fawr, Sir Aberteifi, a'r plwyfi cyfagos, am gyflog o £100 y flwyddyn, ac iddo gael ei benodi'n weinidog y plwyf hwnnw yn 1646. Yn 1649 cyhoeddodd Sail Crefydd
  • ROBERTS, EVAN (1836 - 1918), gwerthwr a'r 'casglwr horolegol pennaf o bawb' Ganwyd Evan Roberts, ail fab Hugh a Jane Roberts, 18 Rhagfyr 1836 ar fferm fynydd ei dad, Foty Bach, Gwyddelwern, Merionnydd, lle y ceisiai'r teulu tlawd ennill bywoliaeth. Ni chafodd yr Evan ifanc fawr o addysg ffurfiol ond yr oedd yn fachgen cydnerth, a phan oedd yn laslanc aeth i weithio'n labrwr at ffermwyr lleol. Yr oedd un o'r rhain hefyd yn glanhau clociau a watsys ac enynnodd hyn
  • ROBERTS, EVAN (1923 - 2007), cemegydd ymchwil a diwydiannwr Ganwyd Evan Roberts ar 18 Tachwedd 1923 ym Mhenygroes, sir Gaernarfon, yn fab i William Henry Roberts (1899-1974), pobydd, a Mary Jones Roberts (g. Smith, 1899-1980), golchyddes. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Sir Penygroes yn 1934, ac yn 1940 enillodd Fwrsariaeth y Wladwriaeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, lle y graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn Cemeg yn 1944, gan
  • ROBERTS, EVAN JOHN (Y Diwygiwr; 1878 - 1951) Ganwyd 8 Mehefin 1878 yn Island House, Bwlchmynydd, Casllwchwr, Morgannwg, mab i Henry a Hannah Roberts. Bu'n gweithio fel glöwr yng Nghasllwchwr ac Aberpennar pan oedd yn ieuanc, a phrentisiwyd ef yn of yn 1902. Yr oedd yn ŵr ieuanc o dalentau uwch na'r cyffredin, a thrwy hunan-ddisgyblaeth cyrhaeddodd safon uchel o ddiwylliant. Câi brofiadau cyfriniol ar adegau, a thystiodd iddo weddïo am dair
  • ROBERTS, FOULK - gweler WILLIAMS, FOULK ROBERT
  • ROBERTS, FREDERICK CHARLES (1862 - 1894), cenhadwr meddygol - gweler ROBERTS
  • ROBERTS, Syr GABRIEL (c.1629), masnachwr Aleppo - gweler ROBERTS, LEWIS
  • ROBERTS, GABRIEL (bu farw 1614), masnachwr - gweler ROBERTS, LEWIS
  • ROBERTS, GEORGE (1769 - 1853), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Bron-y-llan, Mochtre, Sir Drefaldwyn, 11 Chwefror 1769, brawd i John Roberts, Llanbrynmair. Bu'n gweithio ar ffermydd o gylch Llanbrynmair hyd Orffennaf 1795, pryd yr ymfudodd i America. Ffwdanus fu hanes cyrraedd llong o Fryste iddo ef a'i gyfeillion a'u teuluoedd oherwydd gorfod â phob ystryw geisio osgoi syrthio i ddwylo 'press-gangs' a oedd ar gerdded er cymryd dynion i'r fyddin
  • ROBERTS, Syr GEORGE FOSSETT (1870 - 1954), milwr, gwleidydd a gweinyddwr Ganwyd 1 Tachwedd 1870 yn Aberystwyth, Ceredigion, trydydd mab David a H. Maria Roberts. Bu ei dad yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth am 44 mlynedd ac yn faer y Fwrdeistref ar dri achlysur. Addysgwyd ef mewn ysgol breifat yn Cheltenham. Ymunodd â chwmni ei dad a gwasanaethodd fel cyfarwyddwr a rheolwr Bracty Trefechan o 1890 hyd ei ymddeoliad yn 1935. Safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd