Canlyniadau chwilio

445 - 456 of 703 for "Catherine Roberts"

445 - 456 of 703 for "Catherine Roberts"

  • ROBERTS, EDWARD (fl. ddiwedd y 18fed ganrif), golygydd o'r Tynewydd, Cefnddwysarn, ger y Bala. Yn 1794 golygodd gyfrol o gyfansoddiadau amrywiol dan y teitl Casgliad Defnyddiol o waith Amryw Awdwyr. Prif gynnwys y gyfrol oedd naw o lythyrau a gyfansoddwyd gan Ellis Roberts ('Elis y Cowper') fel anogaeth grefyddol i'w gydwladwyr. Ceid ynddi hefyd reolau ynglŷn â darllen ac ysgrifennu Cymraeg gan Thomas Jones, hanes gweledigaeth Richard Brightly
  • ROBERTS, EDWARD (1886 - 1975), gweinidog (Bed.) a phrifathro coleg Mab i David a Jane Roberts (Davies gynt) oedd Edward Roberts a anwyd yn Llanelli, 20 Mawrth, 1886. Roedd yn un o naw o blant, a chanddo bedwar brawd (John, Thomas, William a Henry) a phedair chwaer (Ann, Mary, Elizabeth-Jane a Gertrude). Aelodau yn Seion, Llanelli, oedd ei rieni. Yno yr oedd yr enwog E.T. Jones yn weinidog, ac ef a fedyddiodd Edward ar broffes o'i ffydd yn 1901. Gweithiwr
  • ROBERTS, EDWARD EMRYS - gweler EMRYS-ROBERTS, EDWARD
  • ROBERTS, EDWARD STANTON (1878 - 1938), Athro ac ysgolhaig Ganwyd 11 Mawrth 1878, yn 'Edeyrnion', Cynwyd, Meirionnydd, yn fab i Robert a Martha Roberts. Crydd oedd ei dad, 'cofiadur pennaf yr ardaloedd' yn ôl Cwm Eithin Hugh Evans. Addysgwyd Stanton Roberts yn ysgol fwrdd Cynwyd lle bu wedyn yn ddisgybl-athro o 1892 i 1896. Enillodd ysgoloriaeth y Frenhines i'r Coleg Normal, Bangor, a bu yno o 1896 i 1898 gan ennill tystysgrif dosbarth cyntaf. Am ddeufis
  • ROBERTS, EDWYN CYNRIG (1837 - 1893), arloeswr ym Mhatagonia Ganwyd Edwyn Cynrig Roberts ar 28 Chwefror 1837, cyntaf-anedig John Kendrick (1809-1839), ffermwr, a Mary Hughes (1809-1892), ar fferm Bryn, rhwng pentrefi Cilcain a Nannerch, Sir y Fflint. Dengys cofnod ei fedydd dyddiedig 14 Mawrth 1837 yng nghapel annibynnol Ebeneser, Rhes-y-cae, plwyf Helygain, iddo gael ei enwi yn Edwin Hughes Kendrick. Yn fuan wedi genedigaeth ail fab, John, yn Ionawr 1839
  • ROBERTS, ELEAZER (1825 - 1912), cerddor Ganwyd ym Mhwllheli, Sir Gaernarfon, 15 Ionawr 1825, mab John a Margaret Roberts. Ac ef yn ddeufis oed, symudodd y rhieni i fyw i Lerpwl. Addysgwyd ef yn ysgol Owen Brown, Rose Place, a'r Liverpool Institute. Yn 13 oed aeth i weithio i swyddfa cyfreithwyr. Yn 1853 aeth i swyddfa clerc yr ustusiaid, a dringodd i'r safle o brif gynorthwywr i glerc ynad cyflog y ddinas; daliodd y swydd hyd ei
  • ROBERTS, ELIS (bu farw 1789), cowper, baledwr, ac anterliwtiwr O blwyf Llanddoged ger Llanrwst. Ni wyddys fan na blwyddyn ei eni; o Feirion hwyrach y daeth i Landdoged. Yng nghofrestrau plwyf Llanddoged ceir cyfeiriad pendant at ' Ellis Roberts Cooper and Elizabeth his Wife' o dan 1753. Ni ellir bod yn sicr mai yr un yw'r ' Ellis Robert and Ellen his wife' y cofnodir bedyddio plant iddynt rhwng 1742 a 1748. O 1765 Grace yw enw gwraig Elis Roberts. Dan 1
  • ROBERTS, ELLIS (Elis Wyn o Wyrfai, Eos Llyfnwy, Robin Ddu Eifionydd; 1827 - 1895) ROBERT MORRIS Robin Ddu Eifionydd (fl. 1767-1816), melinydd a bardd Barddoniaeth Diwydiant a Busnes Mab oedd i Morris Roberts a'i wraig Elin Williams, Pen Garth (Tŷ Popty ?), Llanystumdwy; bedyddiwyd ef yn eglwys Llanystumdwy, 16 Ebrill, 1769. Dysgodd grefft llinwr (y mae'n debyg iddo fod yn felinydd yn ddiweddarach). Ysgrifennodd farddoniaeth gaeth a rhydd a chyhoeddodd lyfr, Ffurf yr
  • ROBERTS, ELLIS - gweler ROBERTS, ELIS
  • ROBERTS, EMMANUEL BERWYN (1869 - 1951), gweinidog (EF) Ganwyd 31 Gorffennaf 1869 yn y Nant, Rhewl, plwy Llantysilio, Llangollen, Sir Ddinbych, yn un o un-ar-ddeg o blant Morris a Jemima Roberts. Symudodd y teulu i ardal Carrog lle bu Emmanuel yn brentis crydd, ond bu farw ei fam pan oedd ef yn 12 oed, ac mewn cryn dlodi ymfudodd y teulu i Ben-y-groes lle cafodd ef a'i dad waith yng Nghoedmadoc, Y Gloddfa Glai, yn rybela. Yno dechreuodd bregethu ac
  • ROBERTS, EMRYS OWAIN - gweler ROBERTS, EMRYS OWEN
  • ROBERTS, EMRYS OWEN (1910 - 1990), gwleidydd Rhyddfrydol a gwas cyhoeddus Ganwyd ef yng Nghaernarfon ar 22 Medi 1910, yn fab i Owen Owens Roberts a Mary Grace Williams, y ddau ohonynt yn frodorion o Gaernarfon. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Caernarfon, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y Gyfraith a Gwobr Syr Samuel T. Evans) a Choleg Gonville a Chaius, Caergrawnt (anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn Rhan I a Rhan II o Dreipos y