Canlyniadau chwilio

469 - 480 of 703 for "Catherine Roberts"

469 - 480 of 703 for "Catherine Roberts"

  • ROBERTS, GLYN (1904 - 1962), hanesydd a gweinyddwr Ganwyd 31 Awst 1904 ym Mangor, Caernarfon, yn fab i William ac Ann Roberts. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars o 1915 hyd 1922 pan enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Astudiodd Hanes o dan John Edward Lloyd ac Arthur Herbert Dodd a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth I yn 1925. Dechreuodd ymchwilio i hanes seneddol bwrdeistrefi gogledd Cymru o 1535 hyd 1832 ac yn 1929
  • ROBERTS, GOMER MORGAN (1904 - 1993), gweinidog (MC), hanesydd, llenor ac emynydd Ganwyd 3 Ionawr 1904, yn un o un-ar-ddeg o blant Morgan a Rachel Roberts. Hanai ei dad o blwyf Llanfihangel Aberbythych yn Nyffryn Tywi, yntau'n fab i Sarah a Daniel Roberts, tra oedd gwreiddiau ei fam yn ardal Llandyfân, Trap a Charreg Cennen er y maged hi yn y Wernos, ger Rhydaman, yn ferch i Ann a William Vaughan y bwtsiwr. Ymgartrefodd y teulu yng Nghwm-bach heb fod nepell o ysgoldy Bethel
  • ROBERTS, GORONWY OWAIN (1913 - 1981) - gweler ROBERTS, GORONWY OWEN
  • ROBERTS, GORONWY OWEN (Barwn Goronwy-Roberts), (1913 - 1981), gwleidydd Llafur Ganwyd ef ym Methesda ar 20 Medi 1913, yn fab i Edward E. ac Amelia Roberts. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Ogwen, Bethesda a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Saesneg, a gradd MA gyda marc rhagoriaeth), a bu wedyn yn Gymrawd Prifysgol Cymru ym 1938. Tra oedd yn fyfyriwr ym Mangor roedd Roberts (gyda Harri Gwynn ac eraill) yn un o gyd-sylfaenwyr Mudiad Gwerin
  • ROBERTS, GRIFFITH (1735 - 1808), meddyg, a chasglwr llawysgrifau Ganwyd yn 1735 (bedyddiwyd 6 Medi) yn Isallt, Penmorfa, Eifionydd, yn fab i Robert Roberts (1707 - 1769); gweler yr ach yn J. E. Griffith, Pedigrees, 359; y mae'r teulu (cainc o deulu Cesail Gyfarch) yn hynod am y nifer eithriadol (30, medd rhai) o feddygon a hanoedd ohono. Meddyg (a breswyliai yn y Plas Isa, Dolgellau) oedd Griffith Roberts yntau, ond fe'i cofir yn hytrach fel casglwr hen
  • ROBERTS, GRIFFITH (Gwrtheyrn; 1846 - 1915), llenor a cherddor Ganwyd 7 Hydref 1846 yn yr Hendre-bach, Gwytherin. Heb gael ond ychydig ysgol, aeth yn 10 oed i Ysbyty Ifan, yn brentis gwehydd, a manteisiodd yn ddirfawr ar y gymdeithas lenyddol a cherddorol a flodeuai ym Mhentrefoelas yn y dyddiau hynny. Bu wedyn am ysbaid yng ngwasanaeth ' Gwilym Cowlyd ' (W. J. Roberts) yn Llanrwst; ond dychwelodd at wehydda. Wedi priodi (1869) aeth i fyw i dŷ-capel
  • ROBERTS, GRIFFITH JOHN (1912 - 1969), offeiriad a bardd Ganwyd 2 Mawrth 1912 yn Arwenfa, Afon-wen, Caernarfon, yn fab i Edward a Catherine Roberts. Derbyniodd ei addysg yn ysgol gynradd Chwilog, ysgol ramadeg Pwllheli, a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd yn B.A. mewn Hebraeg (anrhydedd dosbarth II), 1934, ac M.A. 1936. Bu'n ddarlithydd cynorthwyol mewn astudiaethau Semitig yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, 1935-36. Aeth i goleg diwinyddol
  • ROBERTS, GWEN REES (1916 - 2002), cenhades ac athrawes Ganwyd Gwen Rees Roberts ar 2 Mawrth 1916 ym Morfa Nefyn, Llŷn, yn ferch i Hugh Griffith Roberts (bu farw tua 1940) a'i wraig Gwen Rees Roberts. Bu farw ei mam yn 31 mlwydd oed o fewn ychydig ddyddiau i'w genedigaeth, a thua thair blynedd yn ddiweddarach, ailbriododd ei thad â gwraig weddw a chanddi ferch, Emily, wyth mlynedd yn hŷn na Gwen. Ychwanegwyd ymhellach at y teulu drwy enedigaeth mab
  • ROBERTS, GWILYM OWEN (1909 - 1987), awdur, darlithydd, gweinidog a seicolegydd Ganwyd Gwilym O. Roberts (drwy amryfusedd ni chofrestrwyd enw canol llawn ar ei dystysgrif geni er mai Owen a nodir yn nogfennau'r brifysgol) ar y 22 Gorffennaf 1909 yng Ngherniog, Pistyll, Sir Gaernarfon, yn fab i William Owen Roberts, ffermwr a phregethwr cynorthwyol adnabyddus, a'i wraig Mary Elisabeth Roberts, gwniadwraig. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Pwllheli a mynd ymlaen i Brifysgol
  • ROBERTS, GWYNETH PARUL (1910 - 2007), meddyg a chenhades Ganwyd Gwyneth Roberts ar 1 Tachwedd 1910 yn Sylhet, India, yr ail o dri o blant y Parchedig John William Roberts (1880-1969), un o Gymry Lerpwl, a'i wraig Ethel Griffith Roberts (g. Jones, 1879-1972), genedigol o Fanceinion. Aeth ei rhieni yn genhadon i Sylhet yn 1907, a gweithio yno am bron i ddeugain mlynedd. Ganwyd iddynt dri o blant: bu farw'r cyntaf yn faban, a daeth y mab Hywel Griffith
  • ROBERTS, HOWELL (Hywel Tudur; 1840 - 1922), bardd, pregethwr a dyfeisydd
  • ROBERTS, HUGH (1644? - 1702), Crynwr