Canlyniadau chwilio

517 - 528 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

517 - 528 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, REUBEN (Reuben Brydydd y Coed; 1808 - 1833), bardd ac ysgolfeistr Ganwyd 1808, mab i 'Dafydd y Gwehydd a Beti ' o Danrallt, Cribin, Sir Aberteifi. Bu yn yr ysgol yng Nghribin ac Ystrad dan y Parch. T. J. Griffiths ('Tau Gimel a'r Parch. Rees Davies, Ystrad. Yr oedd ei fryd ar y weinidogaeth Undodaidd, a derbyniwyd ef i Goleg Caerfyrddin yn 1825, ond pallodd ei iechyd ac ni bu yno ond amser byr. Bu yn ysgolfeistr yng Nghribin, ac, yn ystod blynyddoedd olaf ei
  • DAVIES, RHISIART MORGAN (1903 - 1958), gwyddonydd ac athro ffiseg farwolaeth Evan James Williams syrthiodd gofal yr adran ar ei ysgwyddau ef, ac fe'i penodwyd yn Ebrill 1946 yn athro ffiseg y coleg. Aeth ati dros y blynyddoedd i gasglu at ei gilydd dîm o wyddonwyr i'w adran i astudio'r problemau dirifedi ynglŷn â diriant, a daeth ei adran yn fyd-enwog. Bu'n is-brifathro'r coleg o 1954 hyd 1956 gan fod yn hynod o lwyddiannus, a hynny ar gyfnod eithriadol anodd. Bu'n athro
  • DAVIES, RHYS (Y Glun Bren; 1772 - 1847), pregethwr hynod Dalybont, Sir Aberteifi, i bregethu. Ef oedd yr Annibynnwr cyntaf i fyned yno ac oddi ar garreg-farch gwesty y ' Black Lion ' y traddododd ei bregeth. Hyn a fu'r achlysur i gychwyn yr achos Annibynnol yn y lle. Dro arall, pregethai yn ffermdy Bedd y Coediwr, Trawsfynydd, nes cael dylanwad rhyfedd ar lanc ifanc iawn a ddaeth wedi hynny yn un o bregethwyr mwyaf Cymru a adnabyddid fel 'Williams o'r Wern
  • DAVIES, RHYS (1795 - 1838), peiriannydd a diwydiannwr Ganwyd Rhys Davies yn Llangynidr, Sir Frycheiniog, yn Ionawr 1795. Gweithiwr haearn oedd ei dad, ac efallai mai ef oedd y Rees Davies o Langynidr a adeiladodd dair ffwrnais ar gyfer Cwmni Tredegar yn Sir Fynwy o 1800 ymlaen. Dechreuodd Rhys Davies weithio yng ngweithfeydd haearn Tredegar yn 11 oed. Rywbryd yn y 1820au, ymunodd â Chorfflu'r Peirianwyr Brenhinol. Cynorthwyodd i adeiladu melinau
  • DAVIES, RHYS JOHN (1877 - 1954), gwleidydd a swyddog undeb llafur Ganwyd 16 Ebrill 1877 yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin, mab Rhys Davies, gweithiwr yn y diwydiant alcam, a brodor o Abergorlech, ac Ann (ganwyd Griffiths), ei wraig, a hanai o Brechfa, ac a fu farw yn 34 blwydd oed wedi geni 11 o blant. Addysgwyd Rhys John yn ysgolion elfennol cenedlaethol a Phrydeinig Llangennech, cyn mynd am dair blynedd yn was ffarm ger ei gartref. Yna symudodd i Gwm Rhondda at
  • DAVIES, RICHARD (Isgarn; 1887 - 1947), bugail a bardd Llyfrgell yn cyhoeddi detholiad o gynnyrch ei awen. Gwnaethpwyd hyn yn 1949 - gweler Caniadau Isgarn, 1949, gyda rhagymadrodd gan T. H. Parry-Williams a gwerthfawrogiad gan S. M. Powell. Yr oedd ganddo ddiddordeb dwfn mewn hanes lleol a hynafiaethau.
  • DAVIES, RICHARD (1635 - 1708) Cloddiau Cochion,, Crynwr Ganwyd yn y Trallwng, Sir Drefaldwyn, yn fab rhieni yr oedd ganddynt ystad fechan. Cafodd beth addysg a'i ddwyn i fyny yn egwyddorion yr Eglwys Wladol. Pan oedd tua 12 neu 13 oed dechreuodd ymlynu wrth yr Annibynwyr, gan gael dylanwadu arno gan Vavasor Powell yn fwyaf arbennig. Yn 1657 troes yn Grynwr, y cyntaf o'r sect honno yn ei ran ef o'r wlad. Cofir amdano heddiw oblegid ei hunangofiant - An
  • DAVIES, RICHARD (Tafolog; 1830 - 1904), bardd a beirniad Mab ydoedd i Edward a Joanna Davies, ganwyd Mai 1830 yn y Dugoed Bach ym mhlwyf Mallwyd, ond pan oedd ef yn ifanc aeth ei deulu i fyw i Gwm Tafolog, ym mhlwyf Cemais, Sir Drefaldwyn. Cafodd ychydig fisoedd o ysgol, a bu'n gweithio yng Nghroesoswallt am ysbaid er mwyn dysgu Saesneg. Gartref ar ffarm ei dad y bu nes priodi yn 1865, a myned i fyw i'r Hirddol ger Penegoes. Bu farw ei wraig yn 1882
  • DAVIES, RICHARD (1818 - 1896), aelod seneddol 'Brutanaidd,' eto efallai nad ynddo'i hunan yr oedd yn bwysig, eithr yn hytrach fel symbol. Yn union fel yr oedd ef (a'i deulu) yn enghraifft dda o'r 'dynion newydd' yng Nghymru a welodd eu cyfle dan fasnach rydd, felly hefyd ym myd gwleidyddiaeth daeth Davies, fel ei gyd-aelod seneddol David Williams (1799 - 1869) ym Meirion, yn symbol, chwedlonol bron, o'r dosbarth canol Rhyddfrydol ac Ymneilltuol na
  • DAVIES, RICHARD (Mynyddog; 1833 - 1877), bardd, datgeiniad, ac arweinydd eisteddfodau , ac adeiladodd gartref newydd, Bron-y-gân, yng Nghemais, Sir Drefaldwyn. Yn 1876, ar ôl arwain ' eisteddfod y gadair ddu ' yn Wrecsam, aeth i America ar wahoddiad cyfeillion i geisio edfryd ei iechyd, ond gwaethygu a wnaeth, a daeth yn ol i Fron-y-gân, a marw yno 14 Gorffennaf 1877. Claddwyd ef ym mynwent yr Hen Gapel, 19 Gorffennaf.
  • DAVIES, RICHARD (1501? - 1581), esgob a chyfieithydd yr Ysgrythur Mab Dafydd ap Gronw, curad y Gyffin, a Sioned ei wraig, ill dau o waed bonheddig. Ymaelododd yn Neuadd y New Inn yn Rhydychen, a graddio yn M.A. ar 28 Mehefin 1530 ac yn B.D. ar 28 Mehefin 1536. Yn ôl pob tebyg dan ddylanwad Protestaniaeth Rhydychen, fe'i gwnaed ar gymeradwyaeth y brenin yn 1549 yn rheithor Maidsmorton ac yn 1550 yn ficer Burnham - dau le yn sir Buckingham. Priododd Dorothy
  • DAVIES, ROBERT (Bardd Nantglyn; 1769 - 1835), bardd a gramadegwr Ganwyd ym mhlwyf Nantglyn, sir Ddinbych. Prentisiwyd ef yn deiliwr. Aeth i Lundain yn 1800, ac am y pedair blynedd neu bump y bu yno bu'n amlwg iawn gyda Chymdeithas y Gwyneddigion, ac yn fardd ac ysgrifennydd iddi. Yr oedd yn un o gefnogwyr mwyaf selog eisteddfodau'r Gwyneddigion a'r eisteddfodau taleithiol yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg. Ef a enillodd am awdl ar y testun, 'Cariad i'n